Dementia-friendly Brecon

Effaith enfawr: Alzheimer’s Society yn 40

Yn ein deugeinfed flwyddyn, rydym yn dathlu’r sawl sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yn eu cymunedau sydd wedi eu heffeithio gan ddementia.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

O gyflwr na chai fyth ei drafod ac nad oedd fawr neb yn ei ddeall 40 mlynedd yn ôl, mae Alzheimer’s Society wedi tynnu dementia allan o’r cysgodion. Roedd ein sylfaenwyr yn benderfynol o drawsnewid tirwedd dementia am byth, ac mae mwy o bobl nag erioed yn troi’r weledigaeth hon yn realaeth. 

Mae bron i 3 miliwn o Ffrindiau Dementia a mwy na 400 o gymunedau cydnabyddedig dementia gyfeillgar yn gwneud newidiadau – mawr a bach – fel y gall mwy o bobl â dementia deimlo eu bod yn gynwysedig ac yn cymryd rhan. 

Heb ofn 

Ym mis Awst 2014, derbyniodd Aberhonddu gydnabyddiaeth swyddogol ‘Gweithio at y nod o fod yn ddementia gyfeillgar’ gan Alzheimer’s Society – y gymuned gyntaf yng Nghymru i gyflawni hyn.

‘Rydym yn helpu pobl i barhau i fod yn rhan o’r gymuned trwy wneud lleoedd yn groesawgar a hygyrch,’ medd Joan.

Mae Aberhonddu dementia gyfeillgar, a elwir yn DFC Ardal Aberhonddu, yn casglu pob adran o’r gymuned ynghyd i herio gwarthnod, cynyddu ymwybyddiaeth a sicrhau bod lleisiau pobl a effeithir gan y cyflwr yn cael eu clywed. 

‘Rydym yn helpu pobl i barhau i fod yn rhan o’r gymuned trwy wneud lleoedd yn groesawgar a hygyrch,’ medd Joan Brown, Hyrwyddwr Ffrindiau Dementia sy’n gadeirydd DFC Ardal Aberhonddu. 

Mae hyn wedi cynnwys archwilio sut mae busnesau lleol yn gweithredu a’u cynghori ar sut i wneud eu hamgylchfydau’n fwy dementia gyfeillgar.

Yn ogystal â hyn sefydlodd Joan bedwar prosiect rhwng cenedlaethau gydag ymweliadau wythnosol gan blant ysgol â chartrefi gofal a chanolfan ddydd gymunedol. 

‘Mae magu cenhedlaeth ddementia gyfeillgar yn hynod o bwysig, am fod yna blant sy’n tyfu heb yr ofn a’r gwarthnod,’ meddai.

Dementia-friendly Brecon

Mae DFC Ardal Aberhonddu yn casglu pob rhan o’r gymuned ynghyd

Dimensiwn gwledig 

Daeth Dave Coombs, gwirfoddolwr gyda Thîm Achub Mynydd Aberhonddu, yn Hyrwyddwr Ffrindiau Dementia wedi i gyd-weithwyr sylweddoli eu bod yn chwilio am fwy a mwy o bobl â dementia oedd wedi mynd ar goll. 

Mae tua 50 yn y tîm achub, ond gobaith Dave yw bydd y neges yn lledu i’r gymuned ehangach hefyd. 

‘Rwyf wedi gweld y gwahaniaeth gall ychydig o ymwybyddiaeth wneud i ryngweithio gyda phobl,’ medd Dave.

‘Rwy’n credu mewn llawer o bobl yn gwneud ychydig i wneud gwahaniaeth,’ meddai. 

Mae Dave yn gweithio hefyd i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, ble mae e’n helpu cefnogi gwasanaethau argyfwng ledled Cymru i wasanaethu’n well y bobl a effeithir gan ddementia.

‘Rwyf wedi gweld y gwahaniaeth gall ychydig o ymwybyddiaeth wneud i ryngweithio gyda phobl. Sylwir ar bethau bach pan fyddaf yn mynd i gartref rhywun,’ meddai. 

Mae Dave ar grŵp llywio DFC Ardal Aberhonddu ac yn ddiweddar bu’n helpu trefnu digwyddiad lleol yn ystod Wythnos Gweithredu Dementia. 

‘Gan fod Aberhonddu’n gymuned wledig, mae yna ddimensiwn ychwanegol’ meddai. ‘Rydym yn edrych ar fod yn greadigol er mwyn denu pobl i ddigwyddiadau neu grwpiau.’ 

Caredigrwydd a chydnabyddiaeth 

Nyrs iechyd meddwl a darlithydd yw Sue Barker; mae’n eistedd ar Fforwm Hyrwyddwyr – grŵp lleol o Hyrwyddwyr Ffrindiau Dementia sy’n cyfarfod i gefnogi ei gilydd a rhannu syniadau gyda Alzheimer’s Society. 

Mae hi’n cynnal sesiynau Ffrindiau Dementia ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae’n gweithio, ac yn fwy lleol yn Aberhonddu. 

‘Mae ymddygiad yn magu ymddygiad, ac os yw un person yn dechrau ymddwyn yn wahanol mae eraill yn tueddu dilyn,’ medd Sue.

‘Does dim angen i’r diferyn ym môr Aberhonddu fod o’r un maint â diferyn yn y brifysgol i beri newid,’ meddai. ‘Mae ymddygiad yn magu ymddygiad, ac os yw un person yn dechrau ymddwyn yn wahanol mae eraill yn tueddu dilyn.’ 

Mae Sue am i’w sesiynau wneud i bobl feddwl ddwywaith cyn mynd yn flin gydag ymddygiad rhywun. 

‘Rwy’n gobeithio y byddant yn treulio eiliad neu ddwy yn meddwl pam bod rhywun yn gwneud rhywbeth, yn hytrach nag ymateb yn awtomatig fel petai popeth amdanyn nhw ac o’u herwydd nhw,’ meddai hi.

‘Mae Ffrindiau Dementia yn llwyfan gwych i rannu neges o garedigrwydd, ystyriaeth a chydnabyddiaeth bod modd i newidiadau bach gael effaith enfawr.’

Dod yn Ffrind Dementia

Dysgwch fwy am sut beth yw byw gyda dementia a throi’r ddealltwriaeth honno yn weithred – mae’n hawdd iawn gwneud. (Yn Saesneg)

Canfod rhagor

Dementia together magazine: Aug/Sept 19

Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories