Calonnau aur: Cymdeithas Alzheimer yn troi 40 oed
Wrth i’r Gymdeithas nodi 40 mlynedd, rydym yn cwrdd â rhai o’r codwyr arian anhygoel sy’n gwneud ein gwaith yn bosibl.
Darllenwch y stori hon yn Saesneg
Ers 1979, mae Cymdeithas Alzheimer wedi brwydro i ddod â dementia allan o’r cysgodion, ac rydym am i bawb uno gyda ni er mwyn creu dyfodol gwell.
Wrth gwrs, ni fyddem lle rydym heddiw – ac ni allem gynllunio ar gyfer yfory – heb ein codwyr arian anhygoel.
Meddai Mark Richards, sy’n arwain grŵp ysbrydoledig o wirfoddolwyr sy’n codi arian yn ne Cymru, ‘Mae’r rhan fwyaf o bobl y dyddiau hyn yn adnabod rhywun sydd â’r cyflwr neu sy’n cael ei effeithio ganddo. Dw i’n rhyfeddu nad oes mwy o arian cyhoeddus yn mynd i mewn iddo.’
‘Erbyn diwedd 2019, hoffem fod wedi codi £40,000 ar gyfer 40 mlynedd y Gymdeithas,’ meddai Mark.
Fe gododd y grŵp dros £28,500 y llynedd drwy gynnwys eu cymuned yn Radur a Pentre-poeth, Caerdydd.
‘Erbyn diwedd 2019, hoffem fod wedi codi £40,000 ar gyfer 40 mlynedd y Gymdeithas,’ meddai Mark. ‘Dw i’n hyderus y byddwn ni’n rhagori ar hynny.’
Cynnwys pawb
Wedi i’w wraig, Heather, gael ei diagnosio â dementia bum mlynedd yn ôl, yn 53 oed yn unig, roedd Mark yn benderfynol o wneud rhywbeth cadarnhaol.
‘Ar y dechrau, roedden ni’n ymwneud â phrosiectau ymchwil amrywiol,’ meddai, ‘ond wrth i’w chyflwr ddatblygu, roedd hi’n llai abl i gymryd rhan, ac fe ddes i’n rhan o’r grŵp codi arian cymunedol newydd.’
Mae cynnwys pawb yn eu rhwydweithiau wedi bod yn allweddol i lwyddiant.
Mae’r grŵp, sy’n cael ei gefnogi gan staff y Gymdeithas, yn cyfarfod bob ychydig fisoedd i drefnu unrhyw beth o fore coffi neu yrfa chwilen i gyngerdd band pres neu gôr. Mae cynnwys pawb yn eu rhwydweithiau wedi bod yn allweddol i lwyddiant.
‘Rydyn ni’n annog eraill – ysgolion, Sgowtiaid, Sefydliad y Merched – i godi arian i ni.’
Erbyn hyn mae Heather yn byw mewn cartref gofal, ond mae Mark yn teimlo’n bell o fod yn unig yn y grŵp.
‘Mae gan lawer ohonon ni berthnasau sy’n byw â’r cyflwr, neu sydd wedi colli rhywun trwy ddementia.
Codi arian yn eich ardal
Cymerwch ran mewn digwyddiad neu trefnwch eich digwyddiad eich hun â chymorth eich codwr arian cymunedol lleol (yn Saesneg).
Cymaint ag y galla i
Mae cymhellion Sue Lewis yr un mor bersonol – yn 67 oed erbyn hyn, fe gafodd hi ei ddiagnosio ag Alzheimer cynnar yn 2016.
‘Dw i’n gwybod nad oes modd canfod iachâd yn ystod fy oes i,’ meddai, ‘ond i’r bobl iau, dw i am geisio codi cymaint o arian ag y galla i.’
Mae Sue yn disgrifio ei hun fel ‘llefarydd’ grŵp codi arian yng Nghaerffili, a dyfodd allan o banel o bobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan ddementia.
‘Dw i’n gwybod nad oes modd canfod iachâd yn ystod fy oes i, ond i’r bobl iau, dw i am geisio codi cymaint o arian ag y galla i,’ meddai Sue.
‘Dw i’n angerddol iawn amdano,’ meddai Sue. ‘Dylwn i gael blwch sebon i godi pwysigrwydd codi arian!’
Mae’r grŵp yn gwneud tedi bêrs ac yn gwau blodau i’w gwerthu, ac mae Sue hefyd wedi codi dros £2,000 trwy ddwy sioe mewn clybiau cymdeithasol. Roedd y rhain yn cynnwys actiau teyrnged a digrifwr, ac mae Sue yn llawn edmygedd am lefel cefnogaeth pawb.
‘Rydyn ni’n anelu at wneud tri digwyddiad y flwyddyn – mae’r artistiaid yn barod i roi eu hamser, dydyn nhw ddim am gael eu talu. Mae’n rhyfeddol iddyn nhw wneud hynny.’
‘Maen nhw’n werth eu pwysau mewn aur. Maent yn creu etifeddiaeth hirdymor ac yn gwneud gwahaniaeth ar gyfer cenedlaethau i ddod,’ meddai Natalie.
Does gan Natalie de Maid, ein Rheolwr Codi Arian Cymunedol Rhanbarthol yng Nghymru, unrhyw amheuon ynghylch yr effaith mae grwpiau Sue a Mark yn ei chael.
‘Maen nhw’n werth eu pwysau mewn aur. Maent yn creu etifeddiaeth hirdymor ac yn gwneud gwahaniaeth ar gyfer cenedlaethau i ddod.’