Pwynt gornest: gwirfoddoli Side by Side

Mae gwirfoddolwr Side by Side yng Nghymru’n helpu person gyda dementia i droi’r cloc yn ei ôl gyda gemau badminton rheolaidd.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Ar ôl gweithio fel fferyllydd am bron 40 mlynedd a gofalu am ei fam, a oedd â dementia, mae Roger Walker yn deall yr heriau all wynebu’r sawl yr effeithir arnynt gan y cyflwr.

Mae hefyd wedi gweld sut gellir cefnogi pobl gyda dementia i ddal ati i fyw bywyd llawn, rhywbeth mae nawr yn ei defnyddio fel gwirfoddolwr Side by Side.

‘Gyda chymorth eraill yr oeddem yn ymddiried ynddynt, fe helpom fy mam i fyw yn annibynnol am gymaint o amser â phosib,’ dywedodd.

‘Pan i mi ymddeol, roeddwn yn awyddus i helpu’r sawl yr effeithir arnynt gan ddementia ac i ddarparu cefnogaeth y gellid ymddiried ynddi.’

Roger and Yvonne

Yn ôl Roger, mae Yvonne yn fenyw hynod annibynnol.

Gweithgareddau wythnosol

Mae Roger, sy’n byw ym Mro Morgannwg, wedi bod yn gwirfoddoli am y ddwy flynedd ddiwethaf gyda Side by Side, ein gwasanaeth i helpu pobl gyda dementia i wneud y pethau maen nhw’n eu mwynhau.

Mae Roger yn cefnogi dau berson gyda dementia i fynd ar dripiau ac i wneud gweithgareddau ar wahân bob wythnos. Dechreuodd ef ac Yvonne trwy fynd ar deithiau cerdded hir a sgwrsio mewn siopau coffi, cyn i’w merch awgrymu badminton.

‘Roeddwn yn gwybod bod Yvonne wedi chwarae ar lefel clwb yn y gorffennol a’i bod yn awyddus i chwarae eto, ac er fy mod heb chwarae am dros 40 mlynedd, roeddwn yn fodlon rhoi cynnig arni,’ meddai Roger.

‘Bu i unrhyw syniad y byddem yn mynd i’r ganolfan hamdden leol ac yn curo’r wennol yn ôl ac ymlaen yn ysgafn am 20 munud ddiflannu’n sydyn,’ meddai Roger.

Mae Yvonne wedi colli ei chlyw felly mae hi’n gwisgo cymorth clyw a hefyd yn darllen gwefusau. Mae hi’n cael trafferth cofio’r sgôr weithiau neu i adnabod y marciau ar y cwrt sydd wedi’u gosod dros farciau pêl-fasged a phêl-droed pump bob ochr. Er hyn, mae hi wedi gallu dangos ei galluoedd nodedig.

‘Bu i unrhyw syniad y byddem yn mynd i’r ganolfan hamdden leol ac yn curo’r wennol yn ôl ac ymlaen yn ysgafn am 20 munud ddiflannu’n sydyn,’ meddai Roger.

‘Darganfyddais bod Yvonne wedi cadw llawer o’i medrusrwydd ar y cwrt a nifer o’i sgiliau hefyd, ac y byddai’r gemau’n heriol i mi pe na fyddwn yn gwella.’

Y trawiad buddugol

Dywedodd rhywun wrth Roger yn ddiweddar ei bod nhw’n gobeithio ei fod yn gadael i Yvonne ennill eu gemau, safbwynt mae e’n teimlo sy’n colli’r pwynt.

‘Mae ond angen i chi weld llygaid Yvonne yn pefrio pan mae hi wedi gwneud i mi redeg o amgylch y cwrt cyn curo’r trawiad buddugol!’ meddai ef. ‘Mae ennill pwynt mewn modd cystadleuol yn darparu’r teimlad da angenrheidiol hwnnw ac yn troi’r cloc yn ei ôl.’

‘Mae Yvonne yn fenyw hynod annibynnol. Braint yw gallu chwarae rhan fach yn helpu ei theulu i gynnal ei hannibyniaeth.’ meddai Roger.

Mae Roger yn dweud bod Yvonne wedi magu hyder yn ei gallu ei hun, ac yn y misoedd diweddar mae hi wedi dechrau dysgu ei merch sut i chwarae.

‘Her Side by Side yw helpu pobl i deimlo’n dda am ei hunain ac i beidio â dod yn gysgod o’r hyn yr oeddent yn rhy gynnar,’ meddai ef.

‘Mae Yvonne yn fenyw hynod annibynnol. Braint yw gallu chwarae rhan fach yn helpu ei theulu i gynnal ei hannibyniaeth.

‘I mi, mae Side by Side yn darparu’r cyfle perffaith i helpu.’

Dementia together magazine: June/July 19

Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now