Real stories
C&A: John Udraufski
Mae John Udraufski, dyn 68 oed ym Mhen-y-bont ag Alzheimer, yn ateb ein cwestiynau.
Darllenwch y stori hon yn Saesneg
Beth sydd wedi newid fwyaf ers eich diagnosis?
Roedd yn rhaid i mi ildio fy nhrwydded yrru; roedd hynny wedi cael cryn effaith ar fy mywyd bob dydd. Rwyf wedi bod yn gyrru ers 1971 ac wedi dotio erioed ar foduron, felly roedd yn rhwyg fawr pan gollais fy ngallu i yrru.
Ond rwy’n deall pam – pan gefais fy asesiad dywedon nhw wrtho i ar unwaith bod yn rhaid imi roi’r gorau iddi, gan fod fy meddwl yn crwydro. Mae gen i bás bws sydd ond yn gweithio yng Nghymru, felly fedra i ddim ei ddefnyddio pan fyddwn yn teithio lawr i Ddyfnaint.
‘Rwyf wedi dotio erioed ar foduron, felly roedd yn rhwyg fawr pan gollais fy ngallu i yrru,’ medd John.
Beth fyddech chi’n ei gymryd i’ch ynys anghyfannedd?
Byddwn yn cymryd y rhyngrwyd, er mwyn cadw llygad ar yr hyn sy’n digwydd yn y byd.
Sut mae Alzheimer’s Society wedi’ch helpu chi?
Mae Alzheimer’s Society wedi bod yn rhagorol. Maent yn ein cyfeirio at help arall, fel cael nyrs Admiral allan i’n gweld ni. Rwy’n ymwneud hefyd â grwp Rhwydwaith Focus on Dementia, lle rydym yn edrych ar bethau ac yn rhoi ein barn amdanyn nhw.
Pa gân neu dôn sy’n crynhoi eich bywyd hyd yn hyn?
Always look on the bright side of life, o Life of Brian Monty Python. Dwi ddim yn hoffi teimlo’n isel fy ysbryd – roeddwn yn dechrau mynd braidd yn feudwyaidd cyn i ni fynd ar wyliaiu i Mallorca yn ddiweddar, ond rwy’n gwneud ymdrech i fynd allan o leiaf gwpwl o weithiau’r wythnos nawr.
‘Mae pobl yn ei ofni – pan fyddant yn deall bod gennych chi dementia, maen nhw siarad â chi fel pe na byddai ymennydd ‘da chi,’ medd John.
Pa un peth fyddai’n gwella ansawdd eich bywyd?
Mwy o ymwybyddiaeth gan y cyhoedd o dementia. Mae pobl yn ei ofni – pan fyddant yn deall bod gennych chi dementia, maen nhw siarad â chi fel pe na byddai ymennydd ‘da chi. Mae yna welliant, ond dim digon.
Pe gallech chi fynd yn ôl mewn amser, ble fyddech chi’n mynd?
Pe gallwn barhau i wybod beth rwy’n gwybod nawr, yna 1971 pan ymunais â’r fyddin. Roeddwn i mor ddiniwed! Dwi ddim yn credu y byddai fy mywyd yn newid llawer, ond rwy’n credu y byddai’n newid ychydig.
Os oes gennych ddementia a hoffech chi ateb ein cwestiynau ar gyfer colofn yn y dyfodol, anfonwch e-bost atom ni.