France and Helen Savarimuthu

C&A: France Savarimuthu

Mae France Savarimuthu, dyn 69 oed o Gasnewydd sydd â dementia â Parkinsonism, yn ateb ein cwestiynau.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Beth fyddech chi’n ei gymryd i’ch ynys anghyfannedd?

Byddwn yn mynd â’r Beibl i’w ddarllen ond yn bennaf byddwn yn mynd â cherddoriaeth. Reggae, soul, cerddoriaeth Indiaidd, bhangra, cerddoriaeth Ffrengig – buaswn yn mynd ag ychydig o bopeth.

‘Rwy’n caru cerddoriaeth ac ni fyddaf byth yn stopio gwrando ar bethau newydd,’ meddai France.

Roeddwn i’n arfer ysgrifennu caneuon a chwarae’r harmoniwm, roeddwn i’n gwneud priodasau. Byddai mam yn aros hyd at 5am nes i mi ddod adref, i weld fy mod i’n iawn. Rwy’n caru cerddoriaeth ac ni fyddaf byth yn stopio gwrando ar bethau newydd.

Real stories
Real stories
Mae menyw â chlefyd Alzheimer yn Sir y Fflint, gogledd Cymru, yn ateb ein cwestiynau.

Sut mae’r Alzheimer’s Society wedi’ch helpu chi?

Mae fy ffrind Barry yn mynd â fi allan bob prynhawn Gwener fel rhan o Side by Side.  Rwy’n cynllunio lle rydw i eisiau mynd ac mae’n mynd â fi yno.  Mae’n garedig a chefnogol iawn, mae’n ffrind go iawn. Mewn ffordd mae wedi fy helpu i fod fel yr oeddwn i o’r blaen. 

Pe gallech chi fynd yn ôl mewn amser, ble fyddech chi’n mynd? 

I pan oeddwn yn helpu pobl fel nyrs ac ar yr un pryd yn hyfforddi nyrsys newydd. Arbenigais mewn clefydau heintus, anableddau dysgu a nyrsio cyffredinol. Mae yna rywbeth arbennig am fod yn rhan o genedlaethau o nyrsys a gweithwyr meddygol proffesiynol, gan helpu pobl bob dydd trwy rai o’u hamseroedd tywyllaf.

‘Mae gen i wraig fendigedig a mab hyfryd - maen nhw’n fy arwain trwy bopeth,’ meddai France.

Beth yn eich meddiant rydych yn ei drysori mwyaf?

Beth rydw i wedi bod drwyddo a’r ffordd rydw i wedi’i chymryd. Pe bawn i’n dal ym Mauritius, byddwn i’n ymwneud yn fawr â gwleidyddiaeth oherwydd dydw i ddim yn hoffi anghyfiawnder. Rydw i wedi gweithio yn y GIG, rigiau olew, gwaith dur a maes awyr. Mae gen i wraig fendigedig a mab hyfryd - maen nhw’n fy arwain trwy bopeth.

Os oes gennych ddementia a hoffech chi ateb ein cwestiynau ar gyfer colofn yn y dyfodol, anfonwch e-bost atom ni. 

Anfonwch e-bost atom ni.