Adnoddau dementia yn Gymraeg

Rydym yn edrych ar amrediad o adnoddau defnyddiol yn ymwneud â dementia sydd ar gael yn Gymraeg.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Dementia-related resources in Welsh

Real stories
Real stories
Mae menyw â chlefyd Alzheimer yn Sir y Fflint, gogledd Cymru, yn ateb ein cwestiynau.

Ein gwybodaeth ac erthyglau

Mae nifer o adnoddau argraffedig ac ar-lein gan y Gymdeithas Alzheimer’s gyda gwybodaeth yn Gymraeg am ddementia ac mae nifer gynyddol o erthyglau ein cylchgrawn hefyd ar gael yn Gymraeg - edrychwch ar ein hadnoddau Cymraeg.

Pecyn sgwrsio

Mae Hen wlad fy nhadau (Land of my fathers) yn becyn hyfryd y gellir ei defnyddio i gychwyn sgyrsiau, gyda chyfieithiadau Saesneg. Mae’n cynnwys llyfryn clawr caled 64-tudalen yn llawn delweddau a geiriau – popeth o ganeuon Cymraeg a ryseitiau i Shirley Bassey a Richard Burton – ynghyd â DVD 35-munud a 36 cerdyn llun. Mae’r pecyn yn costio £20 gyda chostau postio a phecynnu ar ben hynny o Pictures to Share.

Darllen yn Well

Mae Llyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia – rhestr o adnoddau a ddewiswyd yn benodol ar gyfer pobl yr effeithir arnynt gan y cyflwr – ar gael o lyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru, ac mae nifer gynyddol o’r rhain yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg am y tro cyntaf. 

Profedigaeth, colled a dementia

Mae Profedigaeth, colled a dementia – llyfryn i helpu i gefnogi person gyda dementia sydd wedi dioddef profedigaeth – ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cynhyrchwyd gan Gofal mewn Galar Cruse mewn partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer’s Cymru.