Diweddarodd Karen a Rob eu hewyllysiau i frwydro dementia ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Dyma Karen Beattie o Abergele, i esbonio pam ei bod hi a’i gŵr Rob yn gadael rhodd i’r Gymdeithas yn eu hewyllysiau.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Cafodd fy ngŵr Rob ddiagnosis o Alzheimer yn 2017. Mae’n glefyd creulon, yn arbennig gan ei fod yn deall beth sy’n digwydd. Cafodd ddiagnosis yn 62 oed, cymharol ifanc, ac mae’n gallu teimlo’n rhwystredig ac isel iawn.

Mae’n mynd i grwydro heb fynd â’i ffôn – dwi wedi gorfod ffonio’r heddlu ac maen nhw'n dod â fo yn ôl.

Fe ddaethon ni adref i Gymru o’r Iwerddon wedi i Rob orfod rhoi’r gorau i weithio. Fe wnes i roi’r gorau i weithio hefyd i fod yn ofalwr llawn amser iddo. 

Ers y cyfnod clo, mae wedi gwaethygu gryn dipyn. Mae’n ddryslyd o amgylch y tŷ ac yn anghofio ei eiriau, yn cymysgu pethau. Ond wedyn rhai dyddiau mi fydd yn hollol iawn, a fyddech chi wir ddim yn credu bod unrhyw beth o’i le arno.

Karen Beattie with husband Rob

Rob a Karen.

Popeth posibl

Rydyn ni’n Hyrwyddwyr Ffrindiau Dementia a, cyn y pandemig, mi fydden ni’n mynd o amgylch ysgolion a cholegau yn siarad am ddementia.

Roedd Rob yn yr Awyrlu am 25 o flynyddoedd, ac mae’n gallu siarad yn well pan fydd yn ei lifrai. Gobeithio y bydd pethau’n gwella ac y gallwn ddechrau gwneud hyn eto, gan fod ymwybyddiaeth dementia mor bwysig. 

Rydyn ni wedi gwneud gwaith cyfryngau, codi arian fel Cupcake Day ac archwiliadau caredig i ddementia ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn gwneud popeth posibl i wneud gwahaniaeth neu godi ymwybyddiaeth.

Canfod iachâd

Yn dilyn diagnosis Rob, y peth cyntaf y penderfynom ei wneud oedd creu atwrneiaethau arhosol (LPAs) ac yna ewyllysiau. Roedden ni’n mynd trwyddyn nhw gyda chyfreithiwr ac fe ddywedodd Rob ar unwaith bod angen gadael rhywbeth i’r Alzheimer’s Society. Allwch chi ddim ei wario tu hwnt i’r bedd!

Roedd y broses yn hawdd trwy ein cyfreithiwr, ond mae yna ffyrdd y gall yr Alzheimer’s Society helpu pobl i greu ewyllys gyfredol.

Mi fyddwn ni’n rhoi hanner ein tŷ i’r Gymdeithas, er mwyn ariannu ymchwil i ganfod iachâd – mae angen iachâd arnom ni. Fe wyddom ei bod yn rhy hwyr i ni, ond byddai unrhyw beth y gallwn ei wneud i stopio eraill rhag mynd trwy hyn yn wych. 

Mi fyddwn i’n annog eraill i feddwl am adael rhodd yn eu hewyllys. Hyd yn oed os mai swm bychan yn unig fydd o, mi fydd yn dal i wneud gwahaniaeth.

Ysgrifennu neu ddiweddaru eich ewyllys

Gallwn eich helpu i gael ewyllys gyfredol, mewn ffordd sy’n gweithio orau i chi – yn bersonol gyda chyfreithiwr lleol, ar-lein neu dros y ffôn gyda’n partneriaid, Farewill.

Cael help gyda’ch ewyllys

Dementia together magazine: Aug/Sept 21

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories