France Savarimuthu

O’r galon: Mae angen mwy o empathi a dealltwriaeth ar bob un ohonom

Ar ôl treulio oes yn cefnogi eraill, mae France Savarimuthu bellach yn wynebu sawl her iechyd ei hun.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Gan fyfyrio ar ei yrfa hir fel nyrs yn helpu pobl sâl a bregus, mae un foment yn arbennig yn sefyll allan i France Savarimuthu. 

‘Roeddwn i’n gweithio shifft nos yn cefnogi claf ag anableddau dysgu a oedd wedi llithro yng nghawod yr ysbyty ac wedi ei barlysu o’r gwddf i lawr. Gofynnais am staff ychwanegol i helpu i’w droi, ond gwrthodwyd y cais a dywedwyd wrthyf nad oedd unrhyw beth o’i le arno. Roeddwn i’n teimlo mor ddrwg dros y dyn hwn,’ meddai. 

‘Y bore wedyn roedd cyfarwyddwr eisiau imi newid fy adroddiad, ond gwrthodais, oherwydd dyna’r gwir. Dwi ddim yn hoffi unrhyw anghyfiawnder.’ 

Mae’r agwedd hon yn parhau i fod yn greiddiol i France, sy’n byw gyda dementia ac eisiau i bobl sydd â’r cyflwr gael eu trin â’r parch a’r urddas y maent yn eu haeddu. 

O wleidyddiaeth i nyrsio 

Mae France yn byw yng Nghasnewydd, de Cymru, ond fe’i magwyd ym Mauritius, gwlad ynys yng Nghefnfor India. Roedd ganddo ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth yn ei arddegau, ac yn ei ugeiniau cynnar fe’i etholwyd yn gadeirydd ei gyngor pentref, y person ieuengaf ym Mauritius i ddal swydd o’r fath. 

‘Y tro cyntaf i mi bleidleisio, fe wnes i bleidleisio i fy hun!’ meddai France, sydd hefyd yn cofio cwrdd â Seewoosagur Ramgoolam, Prif Weinidog cyntaf Mauritius. 

France Savarimuthu

Roedd France yn mwynhau canu a chwarae’r harmoniwm, ac yn arfer perfformio mewn priodasau. 

‘Roeddwn i’n siarad Ffrangeg a Saesneg, ond dywedodd fy athro canu fod yn rhaid i mi ddysgu Hindi, i roi’r teimlad cywir yn y caneuon,’ meddai. ‘Fe ddysgais yn gyflymach oherwydd roedd gen i bwrpas, a gwellodd fy nghanu.’ 

Gweithiodd France fel athro ac yna clerc cyflog cyn gadael Mauritius am yr Alban, yn 23 oed, ar ôl cael cynnig swydd fel nyrs mewn ysbyty yn Glasgow. Aeth ymlaen i rolau cymorth meddygol ym Maes Awyr Glasgow, British Steel, BP ac iard longau Govan. 

Yn ddiweddarach symudodd i Gasnewydd a goruchwylio hostel a baratôdd bobl ag anableddau dysgu i ddychwelyd i’w cymunedau. 

Priododd France, sydd bellach yn 71 oed, â Helen, a oedd hefyd yn nyrs ym 1983, ac mae ganddyn nhw un mab. 

Gwadu diagnosis 

Mae gan France ddiagnosis o ddementia gyda Parkinsoniaeth. Mae Parkinsoniaeth yn derm sy’n cynnwys sawl cyflwr, gan gynnwys clefyd Parkinson, gyda symptomau tebyg fel symudiad araf, anhyblygedd a phroblemau cerdded. 

‘Fy ysgrifen i aeth gyntaf. Dyna oedd arwydd cyntaf Parkinsoniaeth,’ meddai France. ‘Yna un diwrnod es i am dro ac roedd fy nghoesau’n ildio. Roedd yn rhaid i mi fod mewn cadair olwyn. 

‘Pan gefais y diagnosis dementia, doeddwn i ddim eisiau gwybod amdano – roeddwn i’n gwadu.’

Dywed France, sydd wedi rhedeg pedwar marathon yn ei fywyd, ei fod yn cael dyddiau da a drwg. Ond mae’n teimlo bod ei gyflwr corfforol yn gwaethygu’n gyffredinol, gan gynnwys ei chael hi’n anodd cerdded weithiau. 

Mae Helen yn nodi nad yw ei gof weithiau’n dda ac y gall fod i fyny ac i lawr yn y nos. Gall France hefyd fod â diffyg ymwybyddiaeth o’r hyn sydd o’i gwmpas pan allan, ac roedd angen llawdriniaeth arno ar ôl cael ei daro i lawr gan gar. 

Mae gan France anhwylder deubegwn, diabetes ac atroffi system lluosog, cyflwr prin a all effeithio ar gydbwysedd, symudiad a swyddogaethau sylfaenol fel anadlu, treuliad a rheolaeth ar y bledren. Roedd hefyd mewn coma â niwmonia am wythnos a dychwelodd adref yn methu cerdded, siarad na bwydo ei hun. 

‘Roeddwn i’n meddwl fy mod i’n marw bryd hynny,’ meddai France, a dderbyniodd gefnogaeth gan ofalwyr allanol am dair blynedd. 

Ar hyn o bryd mae France yn cymryd 22 o dabledi y dydd ac yn dweud bod meddyginiaeth ‘wedi dod â mi yn ôl yn fyw’. Mae hefyd yn hynod ddiolchgar i Helen, nid yn unig am ei chefnogaeth gyda’i gyflyrau iechyd, ond hefyd am frwydro ar ei ran â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. 

‘Mae fy ngwraig wedi bod yn graig i mi – dwi’n gwybod y galla i ddibynnu arni,’ meddai. ‘Nid wyf yn gwybod beth fyddwn i wedi’i wneud hebddi.’ 

France Savarimuthu with his wife, Helen

Ddim drosodd eto 

Dim ond ar ôl i seiciatrydd ei asesu dros ychydig wythnosau y cafodd France ddiagnosis o ddementia. 

Yn flaenorol, roedd rhai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi amau ai dementia oedd ganddo, oherwydd nid oedd yn cyfleu ei hun mewn ffordd benodol wrth sgwrsio ac roedd yn gallu cwblhau’r tasgau a osodwyd iddo. 

Mae France yn cyfaddef iddo allu cuddio ei ddementia yn ystod rhai apwyntiadau. 

‘Roeddwn i’n gwybod beth roedd y bobl feddygol yn mynd i’w ofyn, er mwyn i mi allu ei guddio,’ meddai. ‘Ond does dim pwynt gwneud hynny, mae’n rhaid i chi ei dderbyn a chael triniaeth.’ 

Mae France wrth ei fodd yn treulio amser yn yr ardd ac yn dweud nad yw ansawdd ei fywyd ar hyn o bryd ‘yn rhy ddrwg’, er bod llai o ymarfer corff yn ystod y pandemig wedi arwain at golli cryfder yn ei goesau. 

‘Roedden ni’n hunan-ynysu am bump neu chwe mis – mae’n teimlo fel eich bod chi yn y carchar,’ meddai. ‘Dilynais wleidyddiaeth, darllen fy mhapurau newydd a gwrando ar gerddoriaeth. Roedd yn iawn ond nid oedd yn normal.’ 

Roedd France a Helen yn ei chael yn arbennig o rwystredig i fod ar wahân i’w hwyres ifanc, a welsant am y tro cyntaf yn ddiweddar ers bron i flwyddyn. 

‘Hi yw ein cariad bach, roedd hi’n hyfryd,’ meddai France. ‘Roedd yn llawenydd.’ 

Roedd France a Helen hefyd yn falch o gael eu hail frechiad COVID. 

‘Byddwn yn cynghori pobl i gael y brechlyn. Mae’n well ei gael na pheidio,’ meddai France, sy’n parhau i fod yn wyliadwrus. 

‘Mae rhai pobl yn dal i beidio â gwisgo masgiau a ddim yn poeni, ond rydyn ni’n gofalu amdanom ein hunain ac yn sicrhau nad oes unrhyw un arall yn ei gael, oherwydd nid yw drosodd eto,’ meddai. 

France Savarimuthu with his wife Helen

Caredigrwydd a chefnogaeth 

Mae France a Helen wedi derbyn cefnogaeth werthfawr gan Alzheimer’s Society Cymru, gan gynnwys help i ddelio â chymdeithas dai a chael budd-daliadau. Mae France hefyd yn mwynhau ei ‘sgwrsio a chwerthin’ wythnosol gyda Barry, gwirfoddolwr a gyfarfu ag ef yn bersonol cyn y cyfnod clo. 

‘Allai ddim ond canmol Alzheimer’s Society Cymru – mae’n dod o fy nghalon,’ meddai France.

Mae France a Helen hefyd yn ymwneud â Dementia Voice, lle mae pobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn defnyddio eu profiadau personol i helpu llunio’r hyn y mae Alzheimer’s Society Cymru a sefydliadau eraill yn ei wneud. 

Maent wedi siarad â meddygon sydd newydd gymhwyso am sut beth yw byw gyda dementia a sut y dylid trin pobl â’r cyflwr. 

‘Mae’n werth chweil – dwi’n gweld pobl yn cymryd nodiadau,’ meddai France, sydd hefyd wedi rhoi sgyrsiau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru. 

Ychydig flynyddoedd yn ôl, rhannodd France a Helen eu profiadau gyda grŵp o Aelodau’r Senedd yn cynnal ymchwiliad i ofal ysbytai yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys stori am nyrs a ddigiodd France trwy beidio â’i gefnogi mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Fodd bynnag, mae’r cwpl hefyd yn tanlinellu’r profiadau cadarnhaol maen nhw wedi’u cael gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. 

France Savarimuthu with his wife Helen

Yn union yr un fath 

Mae France yn gobeithio y bydd rhannu ei stori yn helpu i newid camsyniadau ac agweddau pobl ynghylch dementia. 

‘Mae pobl yn meddwl am ddementia ac maen nhw’n meddwl am hen bobl,’ meddai. ‘Nid yw rhai pobl yn garedig pan ddaw i ddementia.’ 

Mae hefyd yn awyddus i danlinellu pwysigrwydd peidio â gwneud rhagdybiaethau am bobl. 

‘Weithiau, rydw i’n mynd i siop yn fy nghadair olwyn ac mae pobl yn siarad â fy ngwraig ac yn fy anwybyddu,’ meddai. ‘Neu weithiau mae pobl yn gweld fy lliw ac yn tybio na allaf siarad Saesneg.’ 

I France, daw’r cyfan yn ôl i empathi a dealltwriaeth. 

‘Roeddwn i bob amser yn meddwl, pe bawn i yn sefyllfa fy nghlaf, sut byddwn i’n teimlo?’ meddai. ‘Mae pobl ag anableddau dysgu yn fodau dynol â theimladau, peidiwch â’u trin fel pobl dwp. Mae’n union yr un peth â phobl â dementia.’

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

Gallwch sicrhau bod mwy o bobl â dementia yn derbyn yr un gefnogaeth a chyfleoedd â France.

Rhoddwch nawr

Dementia together magazine: June/July 21

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories