Pwysigrwydd gofal dementia sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n cofleidio diwylliant rhywun

Mae Faith Walker wedi bod yn dyst i’r gofal gorau a gwaethaf wrth gefnogi ei mam, ac mae hi’n angerddol am beidio byth â cholli golwg ar yr unigolyn â dementia.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

‘Allaf i ddim dod o hyd i’r geiriau weithiau i egluro dyfnder y boen, edrych ar rywun a oedd yn byw bywyd i’r eithaf ac a oedd yn berson mor anhygoel,’ meddai Faith Walker am ei mam, sydd ag Alzheimer a dementia fasgwlaidd. 

Mae Faith yn ei chael hi’n anodd adrodd rhai o’i phrofiadau mwy trafferthus. Fodd bynnag, mae hi’n benderfynol o amlygu’r gofal gorau a gwaethaf y mae ei mam wedi’i gael ers cael ei diagnosis. 

‘Rwyf wedi ei weld pan mae’n mynd mor anghywir, ac mor gywir,’ meddai Faith, sy’n byw yng Nghaerdydd, de Cymru. 

Faith Walker and her mum

Dyma hefyd lle mae ei mam Ivy – mae pawb yn ei hadnabod fel Mrs Walker – diolch byth, yn hapus ac wedi ymgartrefu erbyn hyn. 

‘Mae fy mam yn fenyw gref iawn, ac mae nerth ynof yn rhywle sy’n fy ngwthio i adrodd fy stori. Efallai ei fod yn dod o fy mam. Dyma beth fyddai hi’n ei ddymuno.’ 

Cymuned agos  

Yn 80 oed erbyn hyn, cafodd Mrs Walker ei magu yn Jamaica cyn dod i Bort Talbot yn ne Cymru yn y 1960au. 

‘Roedd fy rhieni ill dau o Jamaica, ond fe wnaethon nhw gwrdd a syrthio mewn cariad ym Mhort Talbot,’ meddai Faith. ‘Dyma lle cefais fy magu, mewn cymuned glos o bobl Jamaicaidd, Cymraeg a Gwyddelig. 

‘Oedd, roedd hiliaeth, ond roedd caredigrwydd a chariad hefyd.’ 

Mae Faith yn un o 10 o blant, gyda llawer ohonynt wedi cynrychioli Cymru mewn chwaraeon, tra bod y genhedlaeth nesaf wedi mwynhau bywydau gwaith llwyddiannus.

‘Mae hynny’n dangos dyfnder cariad a gwytnwch fy rhieni, a dylanwad fy mam ar yr wyrion, yr oedd hi’n eu caru gymaint,’ meddai Faith, sydd hefyd yn cofio sgiliau rheoli amser gwych ei mam. 

‘Byddai hi’n dod i wylio ein gemau ac yn dal i reoli ei chartref mor effeithlon. Roeddem i gyd yn drwsiadus, yn foesgar ac yn cael bwyd hyfryd, iach i’w fwyta. 

‘Rydyn ni i gyd yn meddwl mai ni oedd ei ffefryn oherwydd roedd ganddi ffordd o adnabod pob un ohonom a’n caru ni i gyd yn gyfartal. Y pethau a oedd yn bwysig i fy rhieni oedd addysg, iechyd, cariad, gofal a bod eich hunan gorau.’

Parch a chydberthynas  

Y tro cyntaf i Faith sylwi bod rhywbeth o’i le oedd pan ddechreuodd ei mam ddod yn llai trefnus ac effeithlon. 

‘Roeddwn i’n meddwl, “O jiw, mae Mam yn anghofio dyddiadau. Mae rhywbeth o’i le,”’ meddai. 

Ymwelodd Mrs Walker â meddyg a chlinig cof, cyn derbyn asesiad cartref gan seiciatrydd. Yn 2014, fe wnaethant roi diagnosis o ddementia fasgwlaidd ac Alzheimer iddi. 

‘Es i mewn i awtobeilot: “Beth alla i ei roi ar waith?”’ meddai Faith. ‘Fe wnaeth y nyrs iechyd meddwl cymunedol ein rhoi mewn cysylltiad â therapydd galwedigaethol, a oedd yn fendith llwyr. 

‘Dangosodd hi barch at Mam ac ni wnaeth ei thrin fel ei bod yn sâl. Fe wnaeth hi gysylltu â Mam, adeiladu cydberthynas a’i gwneud yn gartrefol. Roedd fel gwerslyfr – yn well na gwerslyfr. ‘ 

Faith walker and family, and her parents' wedding

Dirywiad mawr 

Roedd gŵr Mrs Walker wedi marw flynyddoedd ynghynt ac roedd hi bellach yn ofalwraig am ei dyweddi. Ond fe wnaeth marwolaethau ei mam ei hun a’i phartner yn olynol arwain yn gyflym at ddirywiad mawr yn ei hiechyd. 

‘Galar, ynghyd â dementia, â’r diffyg trefn fel gofalwraig a barodd i bopeth gyflymu,’ meddai Faith. 

‘Byddai hi’n dweud, “Rwy’n colli fy meddwl a dw i ddim yn gwybod beth i’w wneud.” Roedd hynny’n dorcalonnus. Roedd hi wedi’i brawychu, roedd yn erchyll.’ 

Ar ôl tân yn ei chartref, aeth Mrs Walker i aros gyda chwaer Faith yn yr Almaen, yna aeth i fyw gyda Faith ei hun. 

‘Roedd hi’n ceisio bod yn annibynnol ac yn gadarn, ond heb sylweddoli ei bod yn peryglu ei hun,’ meddai Faith. 

‘Roedd gofalwyr yn dod yn y bore, amser cinio a gyda’r nos, wrth i’w hanghenion am gefnogaeth ddod yn fwy. Yna aeth i gartref gofal. Dyna pryd y dechreuodd yr hunllef mewn gwirionedd.’ 
 

Uffern i’r nefoedd 

Ym mis Awst 2016, symudodd Mrs Walker i gartref gofal mawr ym Mhort Talbot, ond daeth yn amlwg yn fuan na allai ddiwallu ei hanghenion. 

‘Wnaethon nhw byth ddilyn ei chynllun gofal,’ meddai Faith. ‘Roedden nhw i fod i’w hannog i fwyta, ond roedden nhw’n rhoi bwyd iddi a cherdded i ffwrdd, ac yna’n dweud nad oedd hi’n bwyta. 

‘Doedd dim digon o staff gyda nhw ac roedden nhw am iddi aros yn llonydd, felly fe wnaethon nhw gynyddu ei meddyginiaeth. Pan oedd hi’n baeddu ac yn ceisio glanhau ei hun, fe wnaethon nhw ddefnyddio’r gair “ffiaidd”.’ 

Y mis Ionawr dilynol, aethpwyd â Mrs Walker i’r ysbyty i gael asesiad iechyd meddwl. 

Gwrthododd Faith adael i’w mam gael ei hasesu mewn uned ysbyty a oedd ag achosion o norofeirws, felly trosglwyddwyd Mrs Walker i ysbyty seiciatryddol yn Nhonna, Castell-nedd gerllaw.

‘Roedd y nyrsys yno yn gyfeillgar ac yn gwenu. Roedden nhw’n tawelu meddwl Mam,’ meddai Faith. ‘Roedd fel mynd o uffern i’r nefoedd.’ 

Faith Walker's family, and her mum

Arbenigwyr dementia 

Nid oedd unrhyw gartref nyrsio ar gael a allai ddiwallu anghenion Mrs Walker yn llawn, ac arhosodd yn Ysbyty Tonna am y pedair blynedd nesaf. 

‘Ddylai mam ddim fod wedi bod yno, ond yn yr amser roedd hi yno, fe wnaethon nhw y gorau y gallen nhw,’ meddai Faith. 

‘Fe wnaethon nhw ddiwallu ei hanghenion, gofalu amdani, ei charu hi. Fe wnaethon nhw roi cynnig ar wahanol ddulliau, megis creu ystafell fyw ffug gyda lluniau’r teulu. 

‘Roedden nhw’n fwy na chyfeillgar i ddementia, roedden nhw’n arbenigwyr dementia.’ 

Roedd Faith yn arbennig o hapus i weld yr ysbyty yn cydnabod ac yn cofleidio anghenion diwylliannol ei mam. 

‘Roedd yr holl staff yn wyn, fel yn y cartref gofal, ond roedden nhw’n gwrando ac yn dymuno dysgu,’ meddai. 

‘Cawson nhw sgyrsiau am Jamaica fel rhan o waith stori bywyd. Roedd gweithgareddau therapi galwedigaethol yn cynnwys gwneud twmplenni, bwyd y gallai Mam uniaethu ag ef. Fe wnaethon nhw ddweud wrthym am ddod â CDs o gerddoriaeth yr oedd Mam yn ei hoffi i mewn. 

‘Fe wnaethon nhw greu amgylchedd diogel lle roedd Mam yn teimlo y gallai berthyn. Roedd Mam wrth wraidd ei gofal, ac roedd y teulu’n cael eu cynnwys yn y broses. Roedd yn anhygoel.’ 

Diwylliannol gymwys 

Y llynedd, yn dilyn cyfyngiadau’r pandemig ar ymweliadau teulu, gosodwyd Mrs Walker ar gynllun gofal diwedd oes. Caniatawyd i Faith a’r teulu ddod i mewn, un ar y tro, i ffarwelio. 

‘Edrychais ar Mam ac mewn Patois dywedodd hi, “Dw i ddim yn barod i fynd eto,”’ mae Faith yn cofio. 

‘Drannoeth fe ddes i mewn ac roedd hi’n eistedd i fyny yn y gwely yn siarad! Dywedodd y nyrs mai pŵer cariad ydoedd.’ 

Yn y pen draw, daeth Mrs Walker oddi ar y cynllun gofal diwedd oes, cyn cael COVID a gwella ohono. Mae hi bellach yn byw mewn cartref nyrsio yng Nghaerdydd, taith gerdded tri munud oddi wrth Faith, ar ôl cael ei rhyddhau o’r ysbyty ym mis Mehefin o dan ofal iechyd parhaus y GIG. 

‘Mae’r staff yn wych – yn wirioneddol amrywiol ac yn gymwys yn ddiwylliannol. Mae mam mor ddigyffro!’ meddai Faith. 

Mae Faith yn angerddol am fynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd a chymdeithasol, a hyrwyddo pwysigrwydd gofal dementia o ansawdd uchel. Mae hi wedi cefnogi sefydliadau fel Diverse Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ag ymchwil, adnoddau ac adroddiadau. 

Meddai, ‘Mae gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hollbwysig i ddiwallu anghenion cymhleth a diwylliannol rhywun, felly peidiwch byth â cholli golwg ar y person sy’n byw gyda dementia.’

Rhoi

Mae eich cefnogaeth yn golygu y gallwn ni sicrhau bod mwy o bobl â dementia yn derbyn gofal gan y goreuon.

Rhoddwch nawr

Dementia together magazine

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now