Andrea Elliott-Denham

Dal i fod yn chi’ch hun a dod o hyd i lawenydd ar ôl cael diagnosis o ddementia

Mae Andrea Elliott-Denham yn dod â phositifrwydd a enillwyd drwy ymdrech i fywyd gyda dementia, ar ôl taith hir i gael ei chydnabod fel ei gwir hunan.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Pan gafodd Andrea Elliott-Denham wybod bod ganddi Alzheimer’s, ei phrif bryder oedd ei phartner, yn eistedd wrth ei hochr. Gallai Andrea ddweud bod Ella wedi ei llethu gan yr hyn roedd hi’n ei glywed, yn ei chael hi’n anodd derbyn y newyddion a delio â’r hyn y byddai’n ei olygu i’w dyfodol.

Yn ffodus, llwyddodd Andrea, sydd bellach yn 67 oed, i dawelu ei meddwl.

‘Rwyf wedi bod yn ofalwr mewn cartrefi henoed ac roedd gan lawer o’r preswylwyr Alzheimer’s, felly ni wnaeth y cyflwr fy nychryn,’ eglura.

‘Roeddwn i’n gweithio gyda’r nos yn aml, a oedd yn golygu bod gen i fwy o amser i’w dreulio gyda phawb roeddwn i’n gofalu amdanyn nhw, a bydden nhw’n dweud wrtha i amdanyn nhw eu hunain. Felly rwy’n gwybod beth all ddigwydd gyda dementia a beth sydd ddim bob amser yn digwydd.’

Er hyn, roedd Ella mewn sioc.

‘Pan welsom ni’r nyrs Alzheimer, doeddwn i ddim yn gallu clywed yr hyn yr oedd yn ei ddweud,’ meddai Ella.

‘Felly daeth yma am ymweliad ychwanegol a dyna pryd y dywedodd wrthym am Gymdeithas Alzheimer.’

Angen symud 

Gydag ychydig o adnoddau wrth law yng nghefn gwlad Ceredigion, canolbarth Cymru, gallai’r cwpl fod wedi cael eu gadael yn teimlo’n ynysig ac yn unig, yn enwedig yn ystod argyfwng COVID.

Yn lle hynny, darparodd y Cynghorydd Dementia Aranwen Turvey wybodaeth a chyngor a chamu i’r adwy i eirioli drostynt pan oedd angen. Roedd Ella yn dal i ofidio am ba mor gyflym y byddai Alzheimer’s yn newid eu bywydau. Aranwen oedd y person perffaith i dawelu ei meddwl, ac fe wnaeth.

‘Mae mor bwysig ein bod ni’n gallu siarad â’r un person bob tro,’ meddai Andrea. ‘Mae gennym ni rywun sy’n hawdd siarad â nhw, sy’n ein hadnabod ni, felly does dim rhaid i ni adrodd ein stori o’r dechrau bob tro.’

Roedd cymorth y Gymdeithas yn arbennig o werthfawr pan sylweddolon nhw pa mor daer oedd angen symud tŷ.

‘Roedden ni’n arfer byw lan yn y mynyddoedd, heb gymdogion a thaith gron 20 milltir i brynu peint o laeth,’ meddai Andrea.

Andrea Elliott-Denham with Ella

‘Nid yw Ella yn gyrru ac roedd yn rhaid i mi roi’r gorau i yrru oherwydd roeddwn yn ei chael hi’n ormod o straen. Byddech chi’n meddwl y byddai’n dawel yn y wlad, ond mae pobl yma’n cymryd corneli dall mor gyflym fel na allwn i ddelio ag ef.

‘Roedden ni wedi bod yn aros am flwyddyn i’r cyngor ein symud, ond roedd Aranwen yn gwybod yn union sut i ddelio â nhw yn ein sefyllfa ni. Ychydig wythnosau ar ôl i ni ofyn am ei chymorth, clywsom am y byngalo hwn.’

Maent wrth eu bodd gyda symud tua’r de, ychydig ar draws ffin Ceredigion â Sir Gaerfyrddin.

‘Mae gennym ni siop yn llythrennol rownd y gornel,’ meddai Ella. ‘Mae merched y siop yn adnabod Andrea ac yn gwybod bod dementia arni, ac maen nhw’n ei helpu os nad ydw i gyda hi.’

Mae Aranwen hefyd yn eu helpu i sefydlu atwrneiaeth i Ella pryd bynnag y bydd ei angen.

‘Yfory efallai’ 

Mae’r cwpwl wedi ymgartrefu yn eu cartref newydd, gyda’u ci a’u cath, a thŷ gwydr a godwyd gan frawd Andrea, i annog ei chariad at natur.

Mae hyn yn lefel o fwynhad na wyddai Andrea yn ei bywyd cynnar, pan gafodd ei magu fel ‘Andrew’.

‘Dwi’n cofio pan oeddwn yn dair oed, fedrwn i ddim deall pam na chawn i wisgo ffrogiau fel merched eraill. Byddwn yn gofyn i fy mam a byddai hi’n dweud, “Dyw bechgyn ddim yn gwneud hynny.” Rown i’n teimlo bob amser fy mod yn y math anghywir o gorff.’

Cafodd ei bwlio yn yr ysgol, ac roedd gadael yn 14 yn rhyddhad.

‘Es i weithio mewn caffi ar ein pier lleol. Ar ôl gwyliau’r haf aeth y gweddill oedd yn gweithio yno yn ôl i’r ysgol. Arhosais ymlaen a rhedeg y lle am weddill y flwyddyn, ond doeddwn i byth eisiau setlo.

‘Roedd gen i’r teimlad hwn bob amser, “Efallai y byddaf yn deffro bore ’fory a bod y person y dylwn fod wedi bod.”’

Ers blynyddoedd lawer, mae Andrea hefyd wedi cario trasiedi bersonol ddofn. Pan oedd hi’n 19 oed, bu farw ei brawd hynaf Nigel, oedd ddwy flynedd yn hŷn na hi, o wenwyn carbon monocsid tra yn y bath yn y fflat roedden nhw’n ei rannu.

Treuliodd gymaint o amser yn cysuro ei mam fel nad oedd hi wedi canolbwyntio ar ei cholled ei hun. Ychydig o gefnogaeth oedd ar gael yn y dyddiau hynny.

Daeth Andrea o hyd i gyfres o swyddi, gyda chyfnodau fel gofalwr, cynorthwyydd camlas a gweithio yng nghegin Tŷ’r Cyffredin. Roedd hi hefyd yn rhedeg ei siopau hen bethau ei hun.

Yn y diwedd, 20 mlynedd yn ôl, cafodd gymorth gan y GIG i drosglwyddo a chael ei hadnabod fel Andrea.

‘Roeddwn i’n teimlo, “O’r diwedd, rydw i’r person yna.” Doedd dim mwy o orfod ffugio. Am ryddhad. Heblaw cwrdd ag Ella, dyna’r peth gorau a ddigwyddodd.’ 

Roedd mam a thad Andrea yn gefnogol, er nad oedd cymaint o ddealltwriaeth o faterion trawsryweddol y pryd hynny.

‘Cefais fy synnu braidd gan ymateb fy nhad. Roedd ganddo frawd a oedd yn hoyw, ac roedd yn ei chael yn anodd i’w dderbyn, ond pe bai fy mam yn fy ngalw i’n “Andrew” ar ddamwain, byddai fy nhad yn dweud, “Na, Andrea.”‘

Mae grwpiau Facebook wedi rhoi llawer o gefnogaeth a chwmnïaeth i Andrea. Ar un o’r rhain y cyfarfu Andrea ag Ella, a chroesawodd hi ar unwaith.

‘Roedd hi mor gyfeillgar rown yn meddwl mai hi oedd cymedrolwr y grŵp,’ meddai Ella. ‘Fe ddechreuon ni sgwrsio a daethon ni o hyd i’n gilydd.’

Maent wedi bod yn anwahanadwy ers hynny, ac mae Andrea yn disgrifio Ella fel ei ‘chraig’.

Andrea Elliott-Denham

Codi llais 

Dechreuodd Andrea ddatblygu problemau cof tua chwe blynedd yn ddiweddarach. 

‘Roeddwn i’n anghofio enwau. Roedd chwilio am air fel edrych lawr i dwll du. 

‘Yna un diwrnod roedden ni yn y dre yn sgwrsio gyda rhywun. Cawsom sgwrs dda a throais at Ella wedyn a dweud, “Pwy yw hi?” Roedd hi’n rhywun roeddwn yn ei hadnabod yn dda, a oedd â siop yn ymyl fy un i.’

Aeth Andrea at ei meddyg teulu a chael prawf cof, a datgelodd profion diweddarach yn yr ysbyty yn Aberystwyth bod ganddi Alzheimer’s.

Nid yw’r diagnosis wedi newid personoliaeth fywiog Andrea.

‘Mae fy nillad lliwgar yn adlewyrchu fy mhersonoliaeth – a gall neb fy ngholli i!’ 

Ar nodyn mwy difrifol, mae Andrea yn glir ynghylch pam mae’n bwysig iddi hi siarad am Alzheimer’s.

‘Un o’r rhesymau yw am fy mod yn draws. Rwy’n gwybod bod pobl allan fan yna sydd wedi mynd trwy’r hyn rydw i wedi mynd drwyddo, ac maen nhw’n ei chael hi’n ddefnyddiol i ddarllen yr hyn rydw i’n ei ddweud.

‘Rydyn ni i gyd yn wahanol ond mae llawer o debygrwydd hefyd. Os gallaf wneud gwahaniaeth ym mywyd rhywun, mae hynny’n bwysig i fi.

‘Y rheswm arall dwi’n codi llais yw heb Gymdeithas Alzheimer, byddai bywyd yn llawer anoddach. Maen nhw wedi bod yn wych. Rydyn ni eisiau sicrhau bod pobl yn gwybod hyn.

Andrea Elliott-Denham

Dysgu o fywyd 

Mae Andrea yn treulio llawer o amser yn postio ar grwpiau Facebook am yr hyn sy’n digwydd yn ei bywyd, yn fwyaf diweddar bod ei blasbwyntiau wedi gorffen gweithio a’i bod weithiau’n ‘gweld pethau’ – symptomau mae’n eu cysylltu ag Alzheimer’s. 

‘Nid yw un o’m brodyr yn hoffi fy mod yn draws ond, ar wahân iddo ef, mae pobl yn fy nerbyn i. Dydw i erioed wedi poeni am estyn allan am gymorth neu gefnogaeth. 

‘Does gen i ddim problem gyda phwy ydw i, a dydw i ddim yn disgwyl i eraill fod â phroblem. 

‘Mae’n ymwneud â bod yn chi’ch hun a pheidio â bod ofn gofyn i bobl sy’n eich deall am gymorth – mae help ar gael. Does neb yn mynd i farnu pwy ydych chi.

‘Bydda i’n sefyll wrth y safle bws ac yn dechrau siarad â phobl ac maen nhw’n rhoi hanes eu bywyd i chi. Dieithriaid llwyr!

Mae Andrea yn gobeithio bod unrhyw un sy’n rhoi gofal iddi yn y dyfodol yn ei pharchu am bwy yw hi.

‘Dydw i ddim yn poeni am y dyfodol, ar wahân i sut y gallai effeithio ar Ella. Rwy wedi gofyn i ffrindiau a theulu ei chefnogi hi os bydd pethau’n gwaethygu. Hi yw fy mywyd.

‘Dydw i ddim eisiau colli’r atgofion am Ella a’r amseroedd rydyn ni wedi eu cael gyda’n gilydd, ein dyddiau bendigedig yn byw ar gwch camlas ac yn cerdded yn y mynyddoedd, ond dydyn ni ddim yn codi yn y bore ac yn meddwl am “Alzheimer’s” gydol yr amser. Allwch chi ddim gadael iddo fod yn obsesiwn.’

Yn lle hynny, mae’n dod o hyd i agweddau ar fywyd sy’n dod â llawenydd iddi.

‘Pan dwi’n garddio dwi’n gwthio’r ffiniau drwy dyfu planhigion trofannol gan gynnwys bananas, gwinwydd a choed bysedd y cŵn.

‘Dwi ddim yn darllen nawr, sy’n drueni, achos rydych chi’n dysgu llawer o lyfrau, ond nid dyna’r diwedd. Rydych chi’n dysgu llawer o fywyd hefyd.’

Sut gallwch chi helpu?

Gallai £20 ddarparu 34 canllaw dementia i bobl yr effeithir arnynt gan ddiagnosis dementia.

Rhoddwch nawr

Dementia together magazine

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories