Holi ac Ateb: Karen Kitch, sy’n byw gyda chlefyd Alzheimer cynnar

Mae Karen yn Rhondda Cynon Taf, de-ddwyrain Cymru, yn 60 oed ac yn byw gyda chlefyd Alzheimer cynnar, yn ateb ein cwestiynau.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Beth sydd wedi newid fwyaf ers eich diagnosis? 

Rwyf wedi colli fy synnwyr digrifwch ac nid wyf yn darllen mwyach. Roeddwn i’n academaidd iawn ac roedd gen i lawer o lyfrau ond roeddwn i’n anghofio’r hyn roeddwn i’n ei ddarllen. Rwyf hefyd yn rhegi llawer nawr pan nad oeddwn yn arfer gwneud, ac mae’n hawdd i dynnu fy sylw neu’n fy ngwneud yn bigog.

Nid oedd pobl yn derbyn bod gennyf ddementia. Bydden nhw’n dweud, ‘Dydych chi ddim yn edrych yn ddigon hen i’w gael,’ neu, ‘Dydych chi ddim yn edrych fel bod e gennych chi.’

Karen Kitch

Beth fyddech chi’n ei gymryd i’ch ynys anghyfannedd? 

Mae fy nheulu yn bwysig i mi, yn ogystal â’r teimlad o gael fy ngharu a rhoi cariad yn ôl. Felly byddwn yn mynd â lluniau o fy nheulu gyda mi i’r ynys anghyfannedd.

Sut mae Alzheimer’s Society Cymru wedi’ch helpu chi?

Fe wnaethon nhw fy nghyflwyno i lawer o grwpiau ac, yn benodol, dosbarth cerameg. I ddechrau roeddwn yn ansicr yn ei gylch, ond ar ôl mynychu dyma ganfod fy mod wrth fy modd. 

Rwyf bellach yn hwyluso grŵp ac rwy’n dysgu crochenwaith i bobl y mae dementia’n effeithio arnynt. Gallai hyn fod yn berson â diagnosis, eu partner neu unrhyw un yr effeithiwyd arnynt gan ddementia.

Pa gân neu dôn sy’n crynhoi eich bywyd hyd yn hyn?

Not a Dry Eye in the House gan Meat Loaf, oherwydd mae’r gân hon yn gysur ac yn emosiynol i mi.

Pa un peth fyddai’n gwella ansawdd eich bywyd?

Lle i wneud mwy o grochenwaith a cerameg gartref, ac efallai fy odyn fy hun oherwydd rwyf wrth fy modd yn ei wneud. Fy esboniad am hyn fyddai bod crochenwaith fel tylino’r ymennydd. Mae’n eich ymlacio ac yn mynd â chi i ddimensiwn arall.

Pe gallech chi fynd yn ôl mewn amser, ble fyddech chi’n mynd?

Byddwn yn mynd yn ôl i fy mhlentyndod pan oedd fy mam-gu yn fyw. Hi oedd fy arwr ac roedd ganddi gymaint o gariad. Dwi wir yn ei cholli hi bob dydd.

Beth yn eich meddiant rydych yn ei drysori mwyaf?

Ffotograffau o fy wyrion yw fy meddiant anwylaf, oherwydd maen nhw’n rhoi cymaint o gariad i mi ac yn fy nerbyn am yr hyn ydw i - hyd yn oed pan fydda i’n cael diwrnod gwael.

Atebwch ein cwestiynau

Os oes gennych chi ddementia ac yr hoffech ateb ein cwestiynau ar gyfer erthygl yn y dyfodol, neu os ydych yn adnabod rhywun fyddai’n hoffi gwneud, rhowch wybod i ni drwy e-bost ar [email protected]

E-bostiwch ni

Dementia together magazine

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now