Synnwyr cerdded: Cymryd rhan yn Memory Walk i wneud gwahaniaeth

I Carole Beavis yng ngogledd Cymru, ar wahân i fod yn ffordd addas i anrhydeddu ei thad, mae Memory Walk hefyd yn ymwneud â gwell yfory.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Mae fy nhad, Alan, yn 86 ac mae ganddo Alzheimer a dementia fasgwlaidd. Cafodd ddiagnosis yn 2011 ac mae’n byw mewn cartref gofal nawr. 

Roedden ni’n arfer mynd am dro gyda’n gilydd, roedd yn rhan allweddol o’n perthynas. Roedd yn lle roeddem ni’n dod ynghyd. 

Roedd Dad yn arfer bod yn y llynges fasnachol, a’r lle olaf i mi gerdded gydag ef oedd Sefydliad Morwyr y Bermo, sydd 10 milltir o’r cartref yn Llandanwg. Roedd yn gwneud synnwyr llwyr cerdded yno am Memory Walk

Carole Beavis

Cerddodd Carole i Sefydliad Morwyr y Bermo oherwydd ei bod wedi mynd yno gyda’i thad.

Yn fy nghornel 

Mae Alzheimer’s Society Cymru wedi bod yn achubiaeth i mi, mae wedi bod yn fy nghornel yn gyson. Rhoddodd y llinell gymorth gefnogaeth emosiynol ac ymarferol, a chysylltais â phobl eraill trwy Talking Point. 

Hyd yn oed pan oedd pethau’n galed ac yn erchyll iawn, roedd codi arian yn gwneud i mi edrych ymlaen. I mi, rydych chi wedi’ch gwreiddio’n yn eich dydd i ddydd – pwyntiau argyfwng – ond rydw i’n cyfrannu at bethau gwell yn y dyfodol. 

Mae wedi bod yn flwyddyn ofnadwy, gyda dementia a marwolaethau yn y teulu. Ychydig iawn sydd wedi bod i gydio ynddo. Mae wedi bod yn bwysig i mi wybod fy mod i’n gwneud rhywbeth defnyddiol ac ymarferol. 

Carole Beavis

Cododd Carole dros £1,500 trwy Memory Walk.

Gwahanol i eraill 

Roedd y daith gerdded yn hyfryd. Roeddwn i’n gwisgo crys-T Memory Walk gydag enw’r sawl roeddwn i’n cerdded drosto arno. Roedd pobl yn gwenu ac yn amneidio ac yn fy nghydnabod. 

Roeddwn i’n meddwl am lwyth o bethau ynghylch Dad. Ar y diwedd, roedd yn emosiynol iawn meddwl na ddaw yma byth eto. Ond roedd hefyd bron fel derbyn mai dyma lle’r ydym ni – mae’n rhaid i ni ei wneud cystal â phosib i’n plant a’n hwyrion. 

A digwyddodd peth hyfryd. Cyrhaeddodd rhai ffrindiau i mewn car a rhoi gin pinc a thonig, a siocled i mi! 

Ar y diwedd, cyfarfu fy ngŵr â mi ac eisteddom yn edrych ar y môr. Codais dros £1,500 – cefais fy synnu gan y gefnogaeth. 

Fe wnes i hynny oherwydd rydw i eisiau i bethau fod yn wahanol i bobl eraill. Roedd fy nhad wedi dychryn cymaint ynghylch bod â dementia. Ni fyddai’n dweud wrth unrhyw un nac yn ymgysylltu â gwasanaethau.

Gallai ei fywyd fod wedi bod gymaint yn well pe na bai’n teimlo cymaint o gywilydd. Gobeithio y bydd pobl eraill yn teimlo’n llai drwg am gael help. 

Ar gyfer pwy fyddwch chi’n cymryd rhan?

Ymunwch ag un o 20 digwyddiad sy’n cael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig neu cofrestrwch i wneud eich Memory Walk eich hun.

Ymunwch â ni

Dementia together magazine: June/July 21

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories