Helpu i wneud eich dinas ddeall dementia yn well

Mae Rob Sadler yn dweud wrthym sut y cymerodd ran yng Nghaerdydd sy’n Deall Dementia ac mae’n rhannu’r gwaith y mae wedi bod yn ei wneud yn llyfrgelloedd y ddinas a’r cyngor yn ehangach.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Pan ddechreuais weithio i Wasanaethau Llyfrgell Caerdydd yn 2016, roedd fy ngwraig eisoes yn gweithio i’r Alzheimer’s Society, ac roedd gennyf ddealltwriaeth gyfyngedig o ddementia a’r hyn y mae’r Gymdeithas yn ei wneud. 

Roedd y gwasanaeth llyfrgell wedi dechrau gwneud rhywfaint o waith ar ddementia drwy brynu RemPod – man hel atgofion dros dro.

Yn fuan ar ôl ymuno, cynhaliodd y Gymdeithas sesiwn Ffrindiau Dementia gyda mi ac ychydig o staff Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd. 

Roeddwn i’n meddwl y byddai’n werthfawr iawn ymestyn hyn i weddill y gwasanaeth llyfrgell, felly deuthum yn hyrwyddwr a, thros ychydig fisoedd, llwyddais i wneud ein holl staff (tua 120) yn Ffrindiau Dementia. 

Rob Sadler

Lansiwyd Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer Dementia – y cynllun Reading Well sy’n argymell llyfrau y gallai pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia eu canfod yn ddefnyddiol. Fe wnaethom hefyd lansio nifer o gaffis dementia ledled y ddinas. 

Er bod Caerdydd sy’n Deall Dementia yn bodoli cyn hyn, daethom yn arweinydd ar gyfer y gwaith hwn o safbwynt y cyngor.

Dinas sy’n deall 

Arweinir Caerdydd sy’n Deall Dementia mewn partneriaeth gan Gyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Alzheimer’s Society Cymru. 

Fel cyngor, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig iawn gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael trefn ar ein tŷ ein hunain. Mae’n anodd iawn gofyn am bethau o’r gymuned os nad ydych chi’n eu gwneud eich hun. 

Gweithiais gyda’r Gymdeithas i greu modiwl Ffrindiau Dementia ar blatfform hyfforddi ar-lein y cyngor. Cafodd fideos eu cyfieithu a’u hisdeitlo yn Gymraeg, ac rydym yn cyhoeddi bathodynnau a chardiau gweithredu pan fydd staff wedi gwneud y modiwl.

Maent wedi dod yn rhan o’r hyfforddiant y mae’n rhaid i holl staff y cyngor ei gwblhau, ac ers hynny mae bron i 4,500 wedi’i wneud. 

Yn 2020, fe wnaethom lansio dementiafriendlycardiff.co.uk yn dilyn ymgynghoriad. Mae gan y wefan wybodaeth am ddementia ynghyd â gwasanaethau a digwyddiadau lleol a ddewiswyd yn ofalus. 

Mae Cydlynydd Gwirfoddolwyr Sy’n Deall Dementia newydd wedi creu deunyddiau a phecyn hyfforddi i wirfoddolwyr weithio o fewn cymunedau, gan gael sgyrsiau gyda busnesau a sefydliadau lleol i’w hannog i ddeall dementia. 

Gwneud gwahaniaeth 

Rwy’n meddwl bod yr eiliadau mwyaf cofiadwy wedi dod o sesiynau hel atgofion mewn cartrefi gofal a chaffis dementia.

Mae gennym ni lyfr arbennig sydd â lluniau o rai o hen dafarndai Caerdydd, ac rwyf wedi clywed straeon gwyllt am nosweithiau allan yn rhai o’r tafarnau hyn – yn bendant mae mwy i’r person na’r dementia! 

Rwy’n mawr obeithio bod y gwaith rydym yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd pobl. Cynhaliais sesiwn Ffrindiau Dementia wyneb yn wyneb gyda staff a oedd yn cynnwys rhai yn gweithio o fewn gwasanaethau etholiadol.

Un o’r camau gweithredu y gwnaethant ei addo oedd gwneud y pleidleisio mewn etholiadau yn fwy ystyriol o ddementia. Mae hyn yn cael effaith aruthrol ar bobl sy’n byw gyda dementia i fyw’n dda a pharhau yn rhan o’u cymuned. 

Byddwn yn bendant yn argymell dod yn Ffrind Dementia os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes. Darganfyddwch beth sydd eisoes yn digwydd yn eich cymuned leol – a oes menter gymunedol sy’n deall dementia neu gynghrair gweithredu ar ddementia? 

Rwy’n ffodus iawn bod fy ngwaith wedi fy ngalluogi nid yn unig i gwrdd â llawer o bobl sy’n byw gyda dementia, ond hefyd i weithio ar lawer o brosiectau gwahanol i’w helpu fel rhan o Gaerdydd sy’n Deall Dementia.

Ffrindiau Dementia

Dewch yn Ffrind Dementia trwy gymryd rhan mewn sesiwn ar-lein neu wyneb yn wyneb, neu drwy wylio ein fideos ar-lein.

Darganfyddwch fwy

Dementia together magazine

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now