Cefnogi pobl â theimladau o alar a brofir tra bod rhywun â dementia yn dal yn fyw

Mae’r Alzheimer’s Society a Cruse wedi bod yn darparu cymorth cyn profedigaeth i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia yng Nghymru.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

I ddechrau, daethom ynghyd â’r elusen profedigaeth Cruse Bereavement Support Cymru i gefnogi pobl yng Nghymru yn dilyn marwolaeth person â dementia. 

Ar ôl i’r prosiect hwnnw ddod i ben, fe wnaethom lansio un newydd gyda nhw o’r enw Cefnogi colled ar hyd y daith gyda dementia. Roedd hyn yn canolbwyntio ar deimladau o alar a cholled y gall pobl eu profi tra bod person â dementia yn dal yn fyw. 

‘Yn ystod y prosiect cyntaf, gofynnodd pobl yr effeithiwyd arnynt gan ddementia am gymorth cyn profedigaeth ar sawl achlysur, felly roedd bwlch amlwg yr oeddem am fynd i’r afael ag ef,’ meddai Maxine Norrish, Rheolwr Prosiect yn Cruse. 

Yn gweithio’n agos gyda Maxine ar y prosiect cyn profedigaeth roedd Siân Biddyr, Rheolwr Gwasanaethau Lleol Dementia Connect gyda Alzheimer’s Society Cymru. 

‘Gyda’i gilydd, llwyddodd ein sefydliadau i ddarparu cymorth arbenigol i bobl â dementia a’u gofalwyr a’u teuluoedd, o’r diagnosis ymlaen, i ymdopi’n well â’r siwrnai cyn profedigaeth unigol y bydd pob person yn ei gwneud,’ meddai. 

Helen Payton and Maxine Norrish

Helen a Maxine.

Mwy o ddealltwriaeth 

Yn dilyn asesiad cychwynnol, cynigiwyd hyd at chwe sesiwn cymorth i bobl gyda gwirfoddolwr Cruse a hyfforddwyd yn arbennig. Roedd sesiynau cymorth grŵp ar gael hefyd, wedi’u hwyluso ar y cyd gan yr Alzeimer’s Society a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

‘Mae cymaint o brinder gwasanaethau gofal nawr, felly gall cael cefnogaeth fel hyn atal sefyllfaoedd rhag gwaethygu a phobl rhag mynd i argyfwng,’ meddai Siân. 

Fe wnaethom hefyd gefnogi pedwar grŵp o bobl yr effeithir arnynt gan ddementia i helpu i lunio’r hyfforddiant a roddir i wirfoddolwyr Cruse. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod deunyddiau cymorth yn addas ar eu cyfer. 

‘O ganlyniad uniongyrchol i gyswllt parhaus agos rhyngom, mae argymhellion a gwelliannau i’r gwasanaeth cyn profedigaeth wedi’u gweithredu’n hawdd,’ meddai Maxine. 

‘Erbyn hyn mae gwell dealltwriaeth o ddementia a cholled rhwng y ddau sefydliad.’

Gwell cyfarpar 

Roedd staff yr Alzheimer’s Society yng Nghymru yn gallu profi’r hyfforddiant cyn profedigaeth a roddwyd i wirfoddolwyr Cruse. Mae hyn yn eu rhoi mewn gwell sefyllfa i ddeall teimladau pobl o alar a cholled. 

Er i’r prosiect ddod i ben yn gynnar yn 2022, mae ein staff rheng flaen – fel Helen Payton, Gweithiwr Cymorth Dementia – wedi gallu parhau i atgyfeirio pobl at Cruse lle bynnag y gallai hyn helpu. 

‘Rydym yn gweld amrywiaeth o emosiynau mewn pobl, fel dicter neu rwystredigaeth. Mae eu hanwyliaid yn dal i fod yno, ond nid ydynt ychwaith, felly mae angen cymorth arnynt i siarad am golled ar hyd y daith,’ meddai. 

Mae Helen yn nodi y gall gymryd cwpl o sgyrsiau i rywun ddatgelu sut maen nhw’n teimlo mewn gwirionedd. 

‘Dych chi byth yn gwybod beth sy’n digwydd y tu ôl i ffasâd cymdeithasol rhywun - gall pobl fod yn stoicaidd,’ meddai. ‘Byddaf bob amser yn sôn am gefnogaeth Cruse pan fyddaf yn ymweld, gan nad wyf am fod yn “na” neb. 

Mae Helen yn teimlo y dylai’r math hwn o gymorth fod ar gael ledled y DU. 

‘Mae’n rhoi lle i bobl ddadbacio sut maen nhw’n teimlo a gwybod ei bod hi’n iawn teimlo’n drist neu’n rhwystredig,’ meddai. 

‘Maen nhw wedi dweud ei fod yn gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy parod gyda’r offer a’r adnoddau.’

Lesley Pitchford

Lesley.

Dal ei angen 

Bu gŵr Lesley Pitchford, David, yn byw gyda dementia corff Lewy am dros 10 mlynedd. Roedd hi mewn ‘lle bregus iawn’ pan gafodd sesiynau cymorth gyntaf gyda gwirfoddolwr Cruse, Jez. 

‘O’n i’n meddwl, dydi David ddim “gen” i mwyach. Roeddwn i’n teimlo ein bod ni’n cydio yn chwalfa ein bywydau. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud,’ meddai. 

‘Rwy’n dod o genhedlaeth o bobl y dywedwyd wrthynt, “Gallwch chi roi’r gorau i’r crio ‘na neu fe roddaf rywbeth i chi grio amdano.” Ond roedd Jez yn lle diogel, yn lloches. Eisteddodd, gwrandawodd, ac yn raddol datgelais. 

‘Ar ôl ychydig wythnosau o siarad, gofynnodd Jez gwestiwn mawr iawn i mi, ac rwy’n ddiolchgar iawn amdano. Dywedodd wrthyf, “Beth ydych chi am ei wneud ar ôl David?” 

‘Roedd yn gwestiwn oedd yn fy mhen, ond doedd gen i ddim syniad.’ 

Gan wybod bod Lesley yn Gristion, awgrymodd Jez y gallai fynd ar drywydd rhywbeth yn ymwneud â’i ffydd. O ganlyniad, cwblhaodd Lesley hyfforddiant ac yn ddiweddar fe’i hordeiniwyd yn weinidog hunangynhaliol yn yr eglwys Anglicanaidd. 

‘Pa mor dda yw hynny?!’ hi’n dweud. 

‘Cododd Jez fi, trwy fy nerbyn a’m cydnabod. A thrwy ofyn i mi beth oeddwn i’n mynd i’w wneud nesaf, roedd fel dweud, “Rydych chi’n dal i fodoli – mae’r byd eich angen chi o hyd.” 

‘Yn fy lle tywyllaf a mwyaf anodd, fe wnaeth Cruse fy nghodi, fy helpu i godi ar fy nhraed a’m bugeilio’n dyner.’ 

Bu farw David yn gynharach eleni, ac mae Lesley yn teimlo bod y gefnogaeth cyn profedigaeth wedi bod o gymorth iddi yn y misoedd ers hynny. 

‘Mae wedi bod yn hynod fuddiol wrth dderbyn a dod i delerau â’r golled,’ meddai. ‘Mae’n ymyriad ysbrydoledig.’

Sut gallwch chi helpu?

Bydd £30 yn ariannu dwy awr o amser cynghorydd dementia, gan ddarparu cymorth a chyfeirio at wasanaethau hanfodol.

Rhoddwch nawr

Dementia together magazine

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now