Andy Paul looking in the mirror, wearing a Leeds United scarf.

Roedd agwedd Andy at ddementia wedi newid ar ôl iddo gael ei ddiagnosis - nawr mae e’n newid agweddau pobl eraill hefyd

Ar ôl cael diagnosis o ddementia ac yntau ond yn 60 oed, mae Andy Paul o Lannau Dyfrdwy yn benderfynol o barhau i fwynhau ei fywyd.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

‘Y darlun oedd gen i o ddementia oedd hen berson gyda ffon gerdded mewn cartref gofal’ meddai Andy Paul, a gafodd ddiagnosis o Alzheimer yn haf 2019 ac yntau ond yn 60 oed. 

Ar ôl iddo sylweddoli bod ei agwedd ef at y cyflwr wedi newid, mae Andy nawr am herio sut mae pobl eraill yn gweld dementia hefyd. 

‘Dwi’n credu ei bod hi’n drist bod rhaid i chi nabod rhywun gyda dementia cyn eich bod yn dechrau ymchwilio iddo. Does dim digon o ymwybyddiaeth yna’, meddai Andy sydd wedi rhoi sgyrsiau mewn prifysgolion ac mewn cynhadledd gyda’r Alzheimer’s Society. 

Er ei fod yn realistig o ran sut mae ei ddementia yn datblygu, mae ganddo agwedd gadarnhaol at wneud y gorau o’i fywyd tra gallith ef. 

‘Efallai eich bod wedi cael eich taro’n galed, ond mae’n rhaid i chi godi nôl ar eich traed a chario ymlaen’, meddai. 

‘Cyn dementia, ro’n i bob amser yn chwerthin ac yn tynnu coes a dydw i ddim wedi newid. 

‘Mae teimlo’n isel a digalon yn mynd i wneud y broblem yn waeth. Dyna pam dwi’n ceisio aros yn gadarnhaol.’ 

Andy Paul in his kitchen.

Amser da 

Cafodd Andy, sydd bellach yn 63 oed, ei eni’n Knaresborough, Gogledd Swydd Efrog, ond roedd wedi symud droeon yn ystod ei blentyndod gan fod ei dad yn yr Awyrlu. 

‘Roedden ni wedi byw mewn saith neu wyth lle gwahanol ar draws Prydain, ac mae gen i gof plentyn o fyw yn Singapore pan o’n i’n ifanc iawn,’ dywedodd. 

‘Pan o’n i’n naw neu 10 oed, fe wnaethon ni symud i Gyprus am dair blynedd. Ces i amser da iawn yna – roedden ni’n byw llai na hanner milltir o’r traeth.’ 

Lleoliad swydd olaf ei dad oedd yr hen RAF Sealand yn Sir y Fflint ac mae Andy yn dal i fyw gerllaw yng Nglannau Dyfrdwy. Serch hynny, mae ei wreiddiau yn Swydd Efrog yn dal yn gryf gan ei fod wrth ei fodd â chlwb pêl-droed Leeds United. 

‘Roedd gen i docyn tymor yn yr 80au ac ro’n i’n mynd i’w gemau ym mhob cwr o’r wlad. Doedden nhw ddim yn llwyddiannus iawn ond dyna yw natur bod yn gefnogwr pêl-droed,’ meddai Andy.

Roedd hefyd wrth ei fodd gyda’r tynnu coes a’r gystadleuaeth rhwng timau pan oedd yn chwarae ac yn rheoli tîm pêl-droed y dafarn leol.

Ar ôl gadael ysgol heb gymwysterau, ymgeisiodd Andy am swydd gyda British Aerospace, ond roedden nhw’n amharod i gynnig prentisiaeth iddo rhag ofn byddai ei deulu’n symud eto. 

Yna, ymunodd â British Steel ac wedyn bu’n gweithio fel briciwr, gyrrwr cerbydau nwyddau trwm a fforman mewn ffatri. Dysgodd ei hun i wneud gwaith plymio, plastro a pheintio ac wedyn cafodd swyddi yn paratoi’r tir a gyrru peiriannau yn y diwydiant adeiladu. 

‘Ro’n i’n arfer mynychu’r tafarnau lleol. Wel, a dweud y gwir - mynd yno i yfed o’n i! Mae Andy yn cyfaddef ei hun ei fod yn anifail cymdeithasol. 

‘Yn y dafarn byddai rhywun yn cynnig gwaith i fi a bydden i’n dechrau’r diwrnod canlynol.’ 

Andy Paul at his local cafe.

Y gwir plaen 

Ar ddechrau 2019, sylwodd Andy ei fod yn cael trafferth cofio pethau weithiau. Roedd e’n meddwl mai dim ond mynd yn hŷn ydoedd. 

Newidiodd pethau pan anghofiodd ben-blwydd ei ferch, ar ôl cael ei atgoffa gan ei gyn-wraig. 

‘Dyna pryd y sylweddolais i fod rhywbeth o’i le felly dyma fi’n gwneud apwyntiad gyda’r meddyg,’ meddai. 

Cafodd Andy ei gyfeirio at y clinig cof a chafodd drafferth gyda rhai o’r profion. 

‘Maen nhw’n rhoi enw a chyfeiriad i chi, wedyn yn gofyn am y manylion yn nes ymlaen, ond doeddwn i ddim yn gallu eu cofio,’ meddai. 

‘Wedyn fe wnaethon nhw ofyn i fi dynnu llun cloc. Nes i dynnu llun cylch a rhoi’r holl rifau i mewn ond doeddwn i ddim yn cofio le’r oedd rhif 12.’ 

Ar ôl cael sgan ymennydd yn yr ysbyty lleol, aeth Andy yn ôl i’r clinig cof i gael y canlyniadau. 

‘Dywedais i wrthyn nhw, "Rhaid i chi ddweud y gwir plaen wrtha i." Ac atebodd hi, "Mae gen ti glefyd Alzheimer." 

‘Ro’n i mewn sioc am tua 30 eiliad, ond dydw i ddim yn un i deimlo’n hunandosturiol.’ 

Pryder mwyaf Andy oedd y byddai’n gorfod rhoi’r gorau i yrru. Erbyn hyn, mae’n gorfod talu am asesiad arbennig bob blwyddyn er mwyn cadw ei drwydded yrru.

‘Fyddai fy mrawd, a fu farw’n ddiweddar, ddim wedi gallu cael ei driniaeth feddygol pe byddai gen i ddim trwydded yrru,’ meddai. 

‘Mae’n gwneud i fi deimlo’n well ar ôl ei golli fy mod i wedi bod yna i’w helpu pan oedd yn sâl.’

Andy Paul in his garden.

Help enfawr 

Yn ogystal â phroblemau cofio, gan gynnwys anghofio enwau pobl a dyddiadau, mae Andy nawr yn cael trafferth sillafu. 

‘Dwi’n ymwybodol iawn o sut rydw i wedi dirywio. Dwi’n cael trafferth sillafu geiriau syml. 

‘Dydw i ddim yn credu y gallwch chi wthio dementia o dan y carped,’ ond ychwanegodd, ‘Mae bob amser ffordd o geisio delio ag ef gorau y gallwch.’ 

‘Gydag enwau, dwi’n mynd drwy’r wyddor. Dwi hefyd yn defnyddio technoleg, fel technoleg darogan testun, Alexa a Google Nest. Er bod cael rhai o’r pethau hyn i weithio’n iawn yn gallu bod yn anodd, maen nhw hefyd yn help enfawr.’ 

Ar ôl cael diagnosis, penderfynodd Andy gymryd camau ar unwaith a llunio atwrneiaeth barhaus, ewyllys a chynllun angladd. 

Roedd dweud wrth fy mhlant bod gen i ddementia yn anodd, ond gyda’r tri pheth yna yn eu lle, gallwn ni nawr fwrw ymlaen â’n bywyd,’ meddai.

‘Yn y pendraw, efallai bydd rhaid i fi fynd i gartref, ond dwi am geisio bod mor annibynnol â phosib hyd nes y daw y dydd hwnnw. 

‘Mae pobl wedi gofyn a oes angen help ychwanegol arna i, ond dwi’n byw bywyd normal ar hyn o bryd - dwi’n ymolchi ac yn coginio fy hun.’ 

Mae fy nyled yn fawr iddo 

Roedd Andy yn cael ymweliadau rheolaidd dros chwe mis gan nyrs dementia i bobl sy’n cael diagnosis yn ifanc, ac roedd hynny’n ddefnyddiol iawn meddai. 

‘Fy nghwestiwn cyntaf iddi oedd, "Pa mor hir sydd gen i? Pryd fydda i’n dechrau dirywio’n ddifrifol?" Ond dywedodd hi nad oedd hi’n gallu ateb hynny oherwydd bod pawb yn wahanol.’ 

Mae Andy hefyd wedi cael cymorth gan staff yr Alzheimer’s Society, David Allmark, sy’n Weithiwr Cymorth Dementia, a Maris Stewart-Parker, Swyddog Cymunedau Cyfeillgar i Ddementia. 

‘Mae’r Alzheimer’s Society wedi bod yn help mawr i fi,’ meddai. Cysylltodd David â fi o fewn pythefnos o gael diagnosis. 

‘Mae o’n ddyn hyfryd, arbennig a gofalgar. Fe wnaeth o ddweud yn glir ei fod yma i fy helpu gydag unrhyw bryderon. 

‘Rhoddodd gyngor doeth i fi a’m rhoi mewn cysylltiad â Age Connects a wnaeth fy helpu gyda’r ffurflenni budd-daliadau. 

‘Mae’n tawelu fy meddwl yn gwybod bod gen i rywun fel fo ar ben arall y ffôn. Mae o wedi bod yn anhygoel - mae fy nyled yn fawr iddo.’ 

Andy Paul sitting at his computer.

Esbonio popeth 

Mae Andy hefyd wedi bod yn gweithio gyda ni, gan gynnwys agor a chau cynhadledd Alzheimer’s Society Cymru yn Wrecsam yn gynharach eleni. 

‘Mae gweithwyr proffesiynol dementia yn help mawr, ond dwi’n cael llawer o fudd hefyd o glywed am brofiadau pobl eraill,’ meddai Andy wrth rannu ei stori gyda’r cynadleddwyr. 

Mae hefyd yn cynnal sgyrsiau gyda myfyrwyr prifysgol i drafod ei brofiadau o ddementia a chafodd ei ffilmio fel rhan o brosiect gan ei fwrdd iechyd lleol. 

‘Dwi wir yn cael boddhad mawr o helpu pobl,’ meddai Andy ac mae’n teimlo bod ymwybyddiaeth y cyhoedd yn gyffredinol am ddementia yn isel. 

‘Gwelais ffrind ar y stryd ond dyma fo’n croesi’r ffordd felly es i ar ei ôl. Dywedodd, "Sori, do’n i ddim yn gwybod beth i’w ddweud wrtho ti." Felly dyma fi’n esbonio popeth iddo fo. 

Mwynhau bywyd 

Wrth iddo barhau i addasu i heriau dementia, mae Andy yn benderfynol o fod yn realistig ond hefyd yn bositif am ei sefyllfa, beth bynnag a ddaw yn y dyfodol. 

‘Pe bydden i’n eistedd yma’n teimlo’n druenus ac yn poeni, byddai hynny’n gwneud i fi deimlo’n isel iawn,’ meddai. 

‘Bydd dementia yn cael y gorau ohona i yn y pen draw, dydw i ddim yn gwadu hynny, ond dyw e ddim yn mynd i fy nghuro yn y tymor byr. 

‘Dydw i ddim yn rhyw feddwl gormod am y diwedd, efallai bydd fy amser yn brin, ond rydw i’n mynd i fwynhau bywyd fel ag erioed.’

Sut gallwch chi helpu?

Gallai £58 ddarparu sesiwn Dementia Voice ar gyfer pobl gyda dementia er mwyn dylanwadu ar ein gwaith ni a gwaith sefydliadau eraill.

Rhoddwch nawr

Dementia together magazine

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now