Cynhadledd Cymru 2022 – Diagnosis o Ddementia – galluogi, nid labelu

Cynhelir Cynhadledd Cymdeithas Alzheimer's Cymru ar 7 Mehefin 2022.

Ymunwch â ni wrth inni archwilio sut na ddylai diagnosis o ddementia ddiffinio rhywun ond yn hytrach eu grymuso i allu rheoli’u bywydau. 

Mae yna gyfyngiad ar niferoedd y lleoedd gwag, ac fe’u rhoddir ar sail ‘y cyntaf i’r felin a gaiff falu’

2022 wales

Gwybodaeth am y digwyddiad

Cynhelir y gynhadledd yn y cnawd yn Ramada Plaza, Wrecsam ar y 7fed o Fehefin, 2022.

Bydd y digwyddiad yn neilltuol ryngweithiol gan ganolbwyntio ar drafodaeth ‘bord gron’.  Byddwn yn trafod pwysigrwydd diagnosis amserol a chywir yn nhaith dementia, sut i gynorthwyo cymunedau amrywiol yn fwy effeithiol a sut y gallwn ystyried gwledigrwydd a’r iaith Gymraeg, gan adeiladu ar ein gwaith yn rhith-gynhadledd 2021.

Pwy a ddylai fynychu

  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol
  • Meddygon Teulu, Rheolwyr Practis, a Nyrsys Practis
  • Pobl yr effeithir arnynt gan ddementia
  • Gofalwyr a phobl sy’n byw â dementia

Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn bellach yn llawn. Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr aros, cysylltwch â ni yn [email protected] 

Y rhaglen

09:30yb – Coffi a chofrestru

10:00yb – Croeso a chyflwyniad, Sue Phelps, Cyfarwyddwr Gwlad - Cymru, Alzheimer's Society Cymru ac Andrew Paul (Andy), sy’n byw â dementia             

10:30yb – Panel profiad o fyw, Andrew Paul (Andy), sy’n byw â dementia, Kevin Jones a Marilyn Jones (Gofalwyr)

11:00yb - Egwyl   

11:15yb - Cyflwyniad 1 - 'Pwysigrwydd diagnosis amserol a chywir', Y Dr Rui Zheng, Seicolegydd Clinigol, a’r Dr Brian Huey, Radiolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

11:45 - Cyfnod pontio 5 munud          

11:50yb – Trafodaeth ford gron

12:20yp – Cymorth Dementia, Michele Richardson, Rheolwr Gwasanaethau Lleol Dementia Connect, Alzheimer's Society

12:30yp – Sesiwn y bore yn cau, Sue Phelps, Cyfarwyddwr Gwlad - Cymru, Alzheimer's Society Cymru

12:35 - Cinio

13:35 – Croeso yn ôl, Sue Phelps, Cyfarwyddwr Gwlad - Cymru, Alzheimer's Society Cymru           

13:45 – Cyflwyniad 2 - 'Cymryd gwledigrwydd a’r iaith Gymraeg i ystyriaeth', Jen Roberts, Swyddog Ymchwil a’r Athro Gill Windle, Prifysgol Bangor.

14:15 - Cyfnod pontio 5 munud          

14:20 – Trafodaeth ford gron

14:50 - Egwyl

15:05 – Cyflwyniad 3 - 'Cynorthwyo cymunedau amrywiol yn fwy effeithiol', Trish Caverly, Cydgysylltydd Datblygu Cymunedol, a Kielan Arblaster, Uwch-swyddog Polisi, Alzheimer's Society

15:35 - Cyfnod pontio 5 munud          

15:40 – Trafodaeth ford gron

16:10 – Crynodeb a diolch, Sue Phelps, Cyfarwyddwr Gwlad - Cymru, Alzheimer's Society Cymru ac Andrew Paul (Andy), sy’n byw â dementia

16:20 - Cau

Holi ac Ateb

Beth yw’ch polisi Covid?

Cydnabyddwn yr heriau rydym yn parhau i’w hwynebu yn ystod y pandemig byd-eang cyfredol.

Byddwn yn cynnal y gynhadledd hon yn y cnawd.  Fodd bynnag, byddwn yn gweithio yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.

Beth yw’r cyfeiriad?

Ramada Plaza, Wrecsam

Ellice Way

Wrecsam

Ffôn: +44 (0)1978 291 400

A allaf gael treuliau teithio?

Mae’r gynhadledd ei hun yn ddi-dâl.  Fodd bynnag, mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu talu unrhyw dreuliau teithio.

A yw cinio’n cael ei gynnwys?

Ydyw, caiff cinio a lluniaeth eu gweini ar yr amseroedd priodol.  Gofynnir ichi am unrhyw ofynion dietegol wrth ichi gofrestru ar gyfer y gynhadledd.

Mae gen i ofynion hygyrchedd, a allwch chi helpu?

Sicrhewch, os gwelwch yn dda, eich bod yn dynodi’ch gofynion wrth ichi gofrestru ar gyfer y digwyddiad, a gwnawn gynnwys y rhain ar y diwrnod.

A oes yna god gwisg ar gyfer y gynhadledd?

Bydd y cod gwisg ar gyfer y gynhadledd yn ddillad trwsiadus/dillad segura.

Beth yw amseroedd dechrau a gorffen y digwyddiad?

Bydd cynhadledd y digwyddiad yn dechrau am 10:00yb, gan gyrraedd yno erbyn 9:30yb gyda lluniaeth.  Bydd y digwyddiad wedyn yn gorffen am 4:30yp.

A fyddaf yn gallu cael copi o gyflwyniadau?

Ein nod fydd cael copi o gyflwyniadau gan bob un siaradwr i fod ar gael ar ôl y digwyddiad. Gwneir hyn yn ôl disgresiwn y siaradwr, ac felly ni allwn sicrhau y bydd y cyfan ar gael.