Information
Cynhyrchion sydd wedi’u cynllunio i wneud bwyta ac yfed yn haws i bobl wrth i ddementia ddatblygu
Dywedodd panel o bobl â dementia yng Nghasnewydd wrthym beth oedd eu barn am gynhyrchion a gynlluniwyd i helpu gyda bwyta ac yfed.
Darllenwch y stori hon yn Saesneg
Aethom â detholiad o gynhyrchion i grŵp o bobl â dementia yn ne Cymru i gael eu barn amdanynt.
Mae grŵp lleol Dementia Voice Casnewydd yn cyfarfod yn fisol i rannu eu barn ac i ddylanwadu ar yr hyn y mae’r Alzheimer’s Society ac eraill yn ei wneud.
Roeddem eisiau gwybod beth oedd eu barn am gynhyrchion sydd wedi’u cynllunio i wneud bwyta ac yfed yn haws.
Tegell Tilt-to-pour
Mae tegell Tilt-to-pour Uccello ar gyfer unrhyw un sy’n cael trafferth gyda gafael mewn neu godi pwysau. Nid oes yn rhaid i chi godi’r tegell o’i grud sefydlog i’w lenwi na’i arllwys, er y gallwch chi os dymunwch.
‘Mae’n bert iawn,’ meddai Trixie pan welodd o. ‘Rwy’n hoff iawn o hwnna!’
Daw’r tegell mewn du a gwyn, du i gyd a gwyn i gyd, ond roedd aelodau’r grŵp yn hoff iawn o’r fersiwn coch a gwyn.
‘Rydych chi’n gweld coch, mae’n sefyll allan,’ meddai Diane.
Dywedodd Mavis y byddai’n well ganddi pe bai elfen wresogi fflat ynddo, er iddi ychwanegu,
‘Mae’n syniad da i rywun sy’n cael trafferth defnyddio tegell arferol.’
Cytunodd y grŵp fod y pris (£49.96 + TAW) yn werth da. ‘Mae’r rhan fwyaf o degellau tua hynny,’ meddai Ian, a gafodd ei galonogi hefyd gan y warant dwy flynedd.
Dywedodd Diane, ‘Mae’n wahaniaeth rhwng cael paned o de neu goffi a pheidio â chael un oherwydd bod ofn arnat ti.’
Cwpanau a gwydrau
Fe wnaethom ddangos mwg seramig prototeip gan Lifemax i’r grŵp, un â chaead a haenen sy’n cadw ei gynnwys yn gynnes. Mae ei waelod hefyd yn glynu at arwynebau gwastad trwy sugno.
Er bod pobl yn hoffi’r syniad nad oedd eu diod boeth yn mynd yn oer os ydyn nhw’n anghofio ei fod yno, roedd hi’n rhy anodd codi’r mwg pan oedd yn sownd i’r wyneb - rhywbeth y byddwn ni’n ei adrodd yn ôl i’w ddylunwyr!
Daw’r mwg Unbreakable, o Find, mewn melyn neu las a gyda chaead y gallwch yfed trwyddo neu heb gaead.
Mae wedi’i wneud o felamin ysgafn ond sy’n treulio’n galed.
Roedd pobl yn hoffi ei olwg a’i deimlad, er bod rhai yn poeni am allu tynnu’r caead i ffwrdd.
Dywedodd Mike, ‘Gyda fy nwylo, ni fyddwn yn gallu ei dynnu i ffwrdd.’
Gwnaeth yr Handycup o Able2 argraff ar aelodau’r grŵp, sydd ar ongl fel nad oes rhaid i chi ogwyddo’ch pen yn ôl ac mae ganddo waelod mawr ar gyfer sefydlogrwydd.
‘Mae’n gynnyrch gwych, cytbwys,’ meddai Ian. ‘Fedrai ddim ei ddymchwel o gwbl, mae’r caead yn hawdd i’w dynnu.’
Dywedodd Diane, ‘Mae’n eithaf deniadol, ac yn ddigon llachar i rywun ei weld.’
Roedd Cwpan Noseycup Able2 hefyd yn llwyddiant, gyda’i ymyl wedi’i siapio i wneud lle i’ch trwyn heb orfod symud eich pen yn ôl.
‘Buaswn i’n dal i’w ddymchwel’ chwarddodd Shirley, ar ôl rhoi cynnig arno’n ddamweiniol tu chwith, er ei fod yn gweithio fel arall.
Yn yr un modd â rhai cynhyrchion eraill sydd wedi’u dylunio’n arbennig, nid oes rhaid i chi dalu TAW ar y mwyafrif o’r rhain os ydynt i’w defnyddio gan berson â dementia – ticiwch y blwch gan nodi eich bod yn gymwys i gael rhyddhad TAW wrth y ddesg dalu.
Dywedodd Trixie, ‘Mae’n berffaith, tydi?’
Ni ellir chwalu gwydr gwin a gwydr cwrw Unbreakable Find ac mae’n ddiogel eu rhoi yn y peiriant golchi llestri.
Dywedodd Mavis, ‘Maen nhw’n edrych yn dda, fyddech chi ddim yn gwybod eu bod nhw’n blastig.’
Nododd Diane y gall plastig gael ei grafu ar ôl golchi dro ar ôl tro, ond dywedodd Claire o’n siop nad oedd dim un wedi’i ddychwelyd dros y blynyddoedd rydym wedi’u gwerthu.
Llestri a chyllyll a ffyrc
Mae platiau cinio, platiau ochr a phowlenni melamin Find yn felyn neu’n las, sy’n ei gwneud hi’n haws gweld eich bwyd, ac mae eu rhimynnau uwch yn helpu i leihau gollyngiadau.
Dywedodd Billy, ‘Rwy’n eu hoffi, mae fel seramig.’
Cytunodd Diane, ‘Maen nhw’n bwysau neis heb fod yn drwm - weithiau gall y pethau hyn fod mor ysgafn nes eu bod yn teimlo fel ffrisbi!’
Roedd Ian yn meddwl bod y prisiau ‘ychydig yn ddrud’ ond ychwanegodd, ‘Mae’n hanfodol, tydi? Byddwn i’n ei brynu.’
Mae gan gyllyll, ffyrc, llwyau pwdin a llwyau te Good Grips, o Able2, afaelion meddal sy’n eu cadw yn eich llaw, hyd yn oed pan fyddant yn wlyb.
‘Anghredadwy, da iawn,’ meddai Trixie. ‘Mae’n ysgafn, tydi?’
‘Mae gen i ddwy set o’r rhain,’ meddai Ian.
‘Os ydw i’n mynd i fwyty neu ar wyliau, yna dwi’n mynd â rhai fy hun. Rwy’n argymell y rhain – 12 allan o 10 i unrhyw un sydd â phroblemau gafael.’
Dywedodd Mavis, ‘Maen nhw’n ddrud ond maen nhw’n gadarn iawn, yn tydyn?’
Fe wnaethom hefyd ddangos cyllyll, ffyrc a llwyau Henro-grip Able2 i’r grŵp. Mae gan y rhain afaelion crwm i wneud y defnydd gorau o gryfder braich.
Roedd pobl yn falch bod y ffyrc a’r llwyau yn dod mewn fersiynau llaw chwith a dde. Er hynny, fe wnaeth eu golwg anarferol ysgogi llawer o sylw.
Dywedodd Billy, ‘Pe baech yn ei daflu, byddai’n dod yn ôl!’
‘Fyddwn i ddim yn trafferthu,’ meddai Mavis. ‘Byddai fy mhlant yn edrych arnaf ac yn meddwl fy mod wedi mynd yn wallgof.’
Fodd bynnag, ychwanegodd, ‘Gallaf weld y byddai’n haws eu defnyddio.’
Cytunodd Billy, ‘Byddent, i bobl sydd eu hangen.’
Prisiau (yn gywir ym mis Rhagfyr 2022)
- Tegell Uccello Tilt-to-pour – £49.96 + TAW.
- Mwg Unbreakable - £5.90 + TAW gyda chaead, £3.95 + TAW heb gaead.
- Handycup - £14.66 + TAW.
- Noseycup - £5.99 + TAW.
- Gwydrau Unbreakable – gwydr gwin £4.55 a gwydr cwrw £5, y ddau yn cynnwys TAW (dim yn rhydd rhag TAW).
- Llestri Find – plât bwyta £6.95, plât ochr £4.50 a phowlen £5.95, i gyd â TAW.
- Cyllyll a ffyrc Good Grips – llwy de £11.66 a chyllell, fforc neu lwy bwdin £15.33 yr un, i gyd â TAW.
- Cyllyll a ffyrc Henro-grip – cyllell, fforc neu lwy £11.99 yr un + TAW.
Yn yr un modd â rhai cynhyrchion eraill sydd wedi’u dylunio’n arbennig, nid oes rhaid i chi dalu TAW ar y mwyafrif o’r rhain os ydynt i’w defnyddio gan berson â dementia – ticiwch y blwch gan nodi eich bod yn gymwys i gael rhyddhad TAW wrth y ddesg dalu.
Cynhyrchion bob dydd defnyddiol
Mae gennym ystod wych o gynhyrchion sydd wedi’u cynllunio i helpu pobl â dementia a’u gofalwyr i fod yn fwy cyfforddus yn eu cartrefi, tra’n cefnogi annibyniaeth a diogelwch.