Chris Maddocks and her partner Heather.

Ffynhonnell cryfder: Menyw â dementia sy’n ymladd yn ôl

Rydyn ni’n cwrdd â Chris Maddocks, sydd wedi addo gwneud yr hyn y gall hi tra’i bod yn gallu i gefnogi’r achos.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Pan gafodd hi ei diagnosio â dementia fasgwlaidd cynnar yn 60 oed yn unig, credai Chris Maddocks ar y dechrau bod ei bywyd ar ben. Ond â chymorth ei phartner, Heather, mae hi wedi ailadeiladu ei hunan-barch trwy ymgolli yn y mudiad dementia a gwneud popeth o fewn ei gallu dros yr achos.

Pwyswch y botwm oren i glywed y stori hon yng ngeiriau Chris (yn Saesneg):

Teimlad estron

Yn chwaraewr brwd o sboncen, badminton a thenis yn ei hieuenctid, yn cynrychioli ysgolion De Cymru â’r waywffon, yn wreiddiol credai Chris y byddai hi’n dod yn athrawes AG.

Yn lle hynny, ymunodd hi â Heddlu De Cymru a threuliodd 30 mlynedd yn y swydd, yn bennaf â’r CID. Fe gafodd hi secondiad pum mlynedd i Interpol yn Llundain hefyd yn ystod y 1990au. Yn fwy diweddar, gweithiodd Chris, 62 oed, ym maes gorfodi’r gyfraith ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd cyn ymddeol oherwydd salwch ym mis Hydref 2016.

Fe gyfarfu hi â Heather, sydd bellach yn 59 oed, oddeutu 12 mlynedd yn ôl mewn uned adsefydlu’r heddlu.

‘Roedd yn digwydd bod y ddwy ohonon ni yn cael ffisiotherapi ar anafiadau,’ mae Chris yn ei gofio.

‘Fe wnaethon ni gadw mewn cysylltiad, gan aros yn ffrindiau ac yna dechreuon ni gymryd gwyliau gyda’n gilydd.’

Fe gafodd Chris, sydd bellach yn byw gyda Heather yn Eastbourne, Dwyrain Sussex, dair strôc yn ei 50au, a arweiniodd at flinder eithafol a phroblemau cof.

Ar ôl cyfnod i ffwrdd o’r gwaith, fe ddychwelodd hi yn rhan-amser ond roedd hi’n ei chael yn anodd ymdopi.

‘Allwn i ddim cofio sut i fynd ar fy nghyfrif e-bost,’ meddai hi. ‘Yna roeddwn i’n darllen ein polisïau a gweithdrefnau newydd a doedd dim yn mynd i mewn.

Ymddeolodd Chris o’r gwaith ond roedd bywyd bob dydd yn dal i fod yn anodd.

‘Un diwrnod es i i wisgo ond allwn i ddim cofio sut,’ meddai. ‘Fe wnes i eistedd ar y gwely am 10 i 15 munud cyn iddo ddod yn ôl ata i.’

Yn dilyn ei thrydedd strôc, fe wnaeth Chris brofi iselder a gorbryder hefyd.

‘Roeddwn i yn yr archfarchnad leol ac roeddwn i’n teimlo fel bod pawb yn edrych arna i - roedd rhaid i mi adael y siop,’ meddai.

‘Dw i ddim yn gwybod pam ei fod yn digwydd, ond rydych chi’n teimlo nad ydych chi’n ymdopi. Fe wnes i swydd gyfrifol iawn am 30 mlynedd, felly mae’n gymaint o deimlad estron i mi.’

Ffurflen ddwyieithog i rannu cefndir, ffafriaeth ac anghenion person gyda dementia.

‘Dedfryd o farwolaeth’

Fe dderbyniodd Chris gymorth gwerthfawr gan y Gymdeithas Strôc ond roedd hi’n teimlo bod mwy i’w sefyllfa, felly dychwelodd hi at ei meddyg teulu.

‘Gan beri arswyd i mi, dywedodd hi wrthyf ei bod hi yno er mwyn fy hiechyd corfforol nid fy iechyd meddwl, ac nad oedd gen i broblem yn ei barn hi,’ meddai Chris.

‘Gadewes i’r feddygfa mewn dagrau oherwydd roeddwn i’n meddwl, os na alla i gael help yma, yna ble fydda i’n mynd?’

Wrth iddi hi adael, gwelodd Chris stondin yn cael ei gosod gan Gymdeithas Alzheimer, felly siaradodd hi ag aelod o staff.

‘Anfonwyd taflen i mi am ddementia fasgwlaidd,’ meddai,’ ac wrth i mi ei darllen roeddwn i’n meddwl, “Dyna fi.”’

‘Es i adref a llefain am dri mis, oherwydd roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi cael dedfryd o farwolaeth,’ meddai Chris.

Yn hwyr yn 2016, fe gafodd Chris ei diagnosio â dementia fasgwlaidd cynnar mewn uned asesu gofal i’r henoed, hithau newydd droi 60 oed.

‘Fe wnaeth hynny fy nifetha i,’ meddai hi. ‘Es i adref a llefain am dri mis, oherwydd roeddwn i’n meddwl fy mod i wedi cael dedfryd o farwolaeth.

Yn ddiweddarach, penderfynodd Chris gysylltu â Chymdeithas Alzheimer, lle cafodd ei galwad ei ateb gan yr un aelod o staff roedd hi wedi cwrdd â hi yn y feddygfa, a drefnodd iddi hi ymweld â chydweithiwr.

‘Roedd gen i gymaint o gwestiynau, ond roedden nhw’n wych,’ meddai Chris. ‘Roedd yn ddiagnosis ofnadwy i’w gael ond o leiaf nawr roeddwn i’n gwybod beth roeddwn i’n delio ag ef.’

Fe fynychodd Chris raglen Byw’n Dda â dementia’r Gymdeithas, yr hyn mae’n ei disgrifio fel ‘achubwr bywyd go iawn’.

Fodd bynnag, roedd hi’n dechrau cael trafferth byw ar ei phen ei hun, weithiau’n anghofio bwyta prydau iawn. Fe awgrymodd Heather y dylai Chris symud o Gaerdydd i Eastbourne i fyw gyda hi.

‘Roeddwn i wedi fy syfrdanu’n llwyr, oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod a oedd Heather yn sylweddoli pa gyfrifoldeb roedd hi’n ei dderbyn neu sut y gallwn i newid,’ meddai Chris.

‘Allwn i ddim credu bod rhywun yn fy ngharu i ac yn gofalu amdana i i’r graddau y bydden nhw’n barod i ofalu amdana i. Dw i’n credu ei fod yn aberth anferth.’

Chris Maddocks with her partner Heather.

Mae Chris wedi ymladd yn ôl o ddiagnosis dinistriol â chefnogaeth gan Heather.

Awdurdod cyfreithiol

Er bod byw gyda Heather wedi bod yn gadarnhaol, mae Chris yn parhau i brofi blinder, anawsterau wrth ddod o hyd i eiriau, problemau cof a gorbryder.

‘Rhai dyddiau dw i ddim am siarad, dw i ddim am fynd allan ac mae arna i angen ychydig o le i glirio fy mhen,’ meddai hi.

‘Ond mae Heather yn ei ddeall - mae hi’n deall fy dementia yn llawer gwell nag unrhyw un arall.’

Am y rheswm hwn, mae Chris wedi sefydlu dwy atwrneiaeth arhosol, un ar gyfer materion eiddo ac ariannol, y llall ar gyfer materion iechyd a lles - i roi’r awdurdod cyfreithiol i Heather i wneud penderfyniadau ar ei rhan os bydd angen iddi hi wneud hynny.

‘Mae’n anodd i fy nheulu, sydd mor bell i ffwrdd, wybod fy anghenion, tra bod Heather yn gwybod,’ meddai hi.

Ein canllaw yn Gymraeg ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan ddiagnosis diweddar o ddementia.

Mae Chris wedi profi anawsterau wrth gael y cymorth cywir gan y system fudd-daliadau.

Ar ôl ymddeol oherwydd afiechyd, gwrthodwyd ei chais am lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Er iddi hi golli apêl gychwynnol, fe gafodd hyn ei wyrdroi mewn tribiwnlys yn ddiweddarach.

‘Roeddwn i am ei herio oherwydd mae llawer o bobl â dementia na fydden nhw’n gallu mynd drwy’r broses honno,’ meddai hi.

‘Mae’r un peth â’r taliad Annibyniaeth Bersonol. Pam na all y llywodraeth ddweud nad oes angen anfon y ffurflenni cymhleth hyn at y person hwn â dementia bob dwy neu dair blynedd a mynd drwy’r broses gyfan eto?’

Chris Maddocks holding her pet cat.

Mae bod yn rhan o waith Cymdeithas Alzheimer wedi helpu Chris i deimlo’n well amdani hi ei hun.

Defnyddiol ddim yn ddiwerth

Ar ôl penderfynu cymryd mwy o ran yng ngwaith Cymdeithas Alzheimer, fe ymunodd Chris â phanel - sydd bellach yn rhan o’r Rhwydwaith Ffocws ar Ddementia - i gael dweud ei dweud ar faterion lleol a chenedlaethol sy’n effeithio ar bobl â dementia.

Mae hi hefyd wedi rhoi sgyrsiau am ei phrofiadau, gan gynnwys un i aelodau’r gymuned Tsieineaidd leol, ac mae hi wedi eistedd ar baneli cyfweld y Gymdeithas ar gyfer swyddi.

‘Trwy beidio â gweithio a heb fod yn gallu gwneud llawer o bethau fe ddechreues i deimlo’n ddiwerth, ond nawr dw i’n teimlo’n ddefnyddiol ac yn well amdanaf fy hun,’ meddai hi.

Mae Chris hefyd yn cyfrannu at brosiect Cymdeithas Alzheimer i nodi a mynd i’r afael ag anghenion penodol pobl LGBT+ (lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol) sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.

‘Mae cryn dipyn o ragfarn yn dal i fodoli, ond dw i’n credu, os yw Cymdeithas Alzheimer yn ei gael yn gywir, y bydd yn helpu pawb i ddeall yn well,’ meddai Chris.

‘Efallai na fyddai llawer o bobl yn teimlo’n rhydd i ddweud wrth bobl eu bod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol neu’n teimlo’n gyfforddus ymysg y rhai hynny maen nhw’n dweud wrthyn nhw,’ meddai hi. ‘Ac maen nhw’n tueddu i beidio â mynd i grwpiau.

‘Dw i’n credu ei fod hyd yn oed yn fwy anodd i bobl draws deimlo eu bod yn cael eu derbyn fel pwy ydyn nhw. Os gallan nhw wybod bod Cymdeithas Alzheimer ar agor a’u bod yn trin pobl yn deg, yna efallai na fydd yn broblem iddyn nhw gysylltu â’r Gymdeithas os oes ganddyn nhw ddiagnosis o ddementia.

‘Mae cryn dipyn o ragfarn yn dal i fodoli, ond dw i’n credu, os yw Cymdeithas Alzheimer yn ei gael yn gywir, y bydd yn helpu pawb i ddeall yn well.’

Mae’n sicr bod Chris wedi dod ar draws sefyllfaoedd a allai fod wedi cael eu trin yn well gan y gweithwyr proffesiynol oedd yn gysylltiedig.

‘Os byddaf yn mynd i apwyntiad meddygol ac mae Heather gyda fi, efallai y dylai pobl ofyn pwy yw hi yn unig, yn hytrach na fy mod i’n gorfod esbonio mai fy mhartner i yw hi,’ meddai hi.

‘Hyd yn oed pryd hynny, weithiau rydych chi’n cael ymateb oer a lletchwithdod.’

Yn ogystal â dementia, mae Chris wedi cael ei diagnosio â chlefyd Parkinson fasgwlaidd, lle mae symptomau tebyg i Parkinson yn cael eu hachosi gan gyflenwad gwaed cyfyngedig i’r ymennydd. Hefyd, yn ddiweddar dywedwyd wrthi hi y gallai fod clefyd Parkinson arni hi.

Er gwaethaf hyn oll, mae’n benderfynol o wneud gwahaniaeth.

‘Dw i’n ymwybodol iawn na fydd fy oes yn debygol o fod mor hir ag y byddai os nad oedd y cyflyrau hyn gyda fi,c meddai hi.

‘Dyna pam ei fod yn bwysig gwneud yr hyn y galla i ei wneud tra fy mod i’n gallu.’

Dementia together magazine: June/July 18

Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now