Margaret Willis at home

Sut ydw i nawr: Cofleidio’r annisgwyl

Wedi ei llorio gan ei diagnosis o ddementia, bu’n rhaid i Margaret Willis frwydro ei hofnau cyn iddi allu ei dderbyn.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

‘Rwyf wedi bod yn berson positif erioed – dyna sydd wedi fy helpu i ddod trwy hyn’ meddai Margaret Willis, wrth fwrw trem yn ôl ar dair blynedd heriol ers ei diagnosis annisgwyl o ddementia fasgwlaidd. 

Er iddi gael ei syfrdanu gan y newyddion ar y dechrau, mae Margaret wedi ymdrechu i dderbyn a hyd yn oed i gofleidio ei sefyllfa orau y gall hi, agwedd a wnaed yn bosibl trwy’r gefnogaeth gref mae wedi ei dderbyn gan Alzheimer’s Society. 

Pwyswch y botwm chwarae oren i glywed y stori hon yng ngeiriau Margaret ei hun (yn Saesneg):

Tynnu peints

Er ei bod yn byw yn y Fflint yng Ngogledd Cymru, mae Margaret, sy’n 77 oed, yn wreiddiol o ogledd orllewin Lloegr – fe’i ganed yn Blackpool a’i magu yn Bootle, Glannau Mersi. Yn fam i bump o blant, bu’n rhedeg tafarndai gyda’i diweddar ŵr, Ron, yn Lerpwl, Caerliwelydd, Manceinion a Llundain. 

‘Doeddwn i ddim yn dafarnwraig oedd yn eistedd wrth ymyl y bar; rown i yno yn tynnu peints,’ meddai. ‘Rown wrth fy modd. Roedd yna ochr gymdeithasol; roedd y lle’n llawn bywyd, a rown ar gael ar gyfer fy mhlant ar bob adeg. 

‘Rown yn mynnu gwasanaeth da ac ymarweddiad da. Rown yn dipyn o geilioges!’ 
Margaret oedd y wraig gyntaf i alw bingo yn Lerpwl ac ar un adeg roedd yn rhedeg ei busnes tacsi ei hun. 

‘Rown yn hapus bob amser tra bo meicroffon o’m blaen!’ meddai gan chwerthin. 

Y daranfollt fwyaf 

Er ei bod yn cael ambell broblem gyda’i chof rai blynyddoedd yn ôl, henaint gafodd y bai ac aeth mo Margaret i chwilio am gyngor proffesiynol. 

Ond daeth tro annisgwyl ar fyd pan aeth i’r ysbyty â phroblem ar ei chlust. Anfonodd yr ymgynghorydd hi am sgan ar yr ymennydd. Dangosodd hyn ei bod, rywdro, wedi dioddef mân strôc a’i bod bellach yn dioddef dementia fasgwlaidd. Er hyn, teimlai ei bod wedi cael ei diagnosis mewn ffordd seithug ac anuniongyrchol. 

‘Y daranfollt fwyaf oedd y ffordd cefais wybod,’ meddai. ‘Ar ôl y sgan, gofynnodd yr ymgynghorydd i fi sut oeddwn i wedi cyrraedd yr ysbyty. Dywedodd, “Fe yrroch chi yma?!” Yna dywedodd wrtha i am ddod ag aelod o’r teulu gyda fi y tro nesaf. Ond gan nad oeddwn yn ymwybodol bod unrhyw beth o’i le ar y pryd, rown yn meddwl “Am ffŵl o ddyn – pam mae’n holi’r holl gwestiynau hyn i fi?” 

‘Gofynnais am ganlyniadau’r sgan ond doedd e’n dal heb ddweud dim go iawn wrtho i. Roedd ym mwmial am bob math o bethau felly gofynnais iddo ei nodi ar bapur. Yn y car dyma fi’n darllen y gair “dementia”. Roedd fel petai fy myd wedi dod i ben. 

‘Er nad oeddwn wedi ysmygu am flynyddoedd, y peth cyntaf wnes i oedd stopio mewn garej a phrynu pecyn o sigaréts.’ 

Achosodd y diagnosis bryder mawr iawn i Margaret; toc wedi hynny cafodd sgôr isel ar brawf mewn clinig cof. 

‘Rydych yn cael diwrnodau da a diwrnodau drwg. Ambell ddiwrnod dydw i ddim am weld unrhyw un felly rwy’n aros gartref,’ medd Margaret.

‘Rown yn meddwl na fyddwn yn adnabod fy mhlant, fy wyrion, fy ffrindiau. Dyna beth sy’n mynd drwy’ch meddwl,’ meddai. 

Gall dementia beri dryswch a rhwystredigaeth i Margaret wrth wneud tasgau dyddiol. Mae hi wedi rhoi bwyd yn yr oergell yn lle’r ffwrn ac wedi gwisgo dillad tu ôl tu blaen. Mae hefyd wedi brwydro gyda synnwyr cyfeiriad, blinder a diffyg archwaeth at fwyd. 

‘Rydych yn cael diwrnodau da a diwrnodau drwg’ meddai. ‘Ambell ddiwrnod dydw i ddim am weld unrhyw un, felly rwy’n aros gartref.’ 
 

Margaret Willis using her tablet

Mae Margaret wedi ymdrechu i dderbyn a hyd yn oed cofleidio ei sefyllfa 

Profiad dyrchafol 

Mae Margaret wedi derbyn cefnogaeth werthfawr gan Alzheimer’s Society, yn enwedig David Allmark, Gweithiwr Cefnogol Dementia sydd wedi datblygu strategaethau i’w helpu i ymdopi gyda heriau’r cyflwr. 

‘Byddwn i’n gwneud paned o de ac yn anghofio ei yfed, neu’n gadael ffenestri’n agored, ond gwnaeth David gardiau i mi a’u lamineiddio, gyda nodion atgoffa arnyn nhw,’ meddai. ‘Roedd yn rhoi hyder i mi nad oeddwn yn anghofio gymaint. 

‘Roedd yn medru fy sicrhau na fyddai rhywbeth fel anghofio fy nheulu yn digwydd dros nos.’ 

Ac mae Margaret yn cael cefnogaeth gan wirfoddolwr, Nerys, fel rhan o Side by Side, ein gwasanaeth sy’n helpu pobl â dementia i barhau i fod yn actif ac yn gysylltiedig. 

‘Rwy’n dotio ati hi – mae hi fel fy ffrind gorau erbyn hyn,’ medd Margaret. ‘Rydyn ni fel merched yn ein harddegau, yn mynd allan ac yn prynu dillad! 

‘Fe gododd fy ysbryd yn rhyfeddol, achos ar y pryd rown yn teimlo’n isel iawn. Mae hi’n fy nghalonogi.’

‘Mae’r gwahaniaeth mae’r bobl hyn yn ei wneud i rywun â dementia yn syfrdanol.’ 

Mae Alzheimer’s Society wedi cefnogi Margaret hefyd gyda’i threfniadau atwrneiaeth a’i helpu i ganfod lle newydd i fyw y llynedd. 

‘Mae Alzheimer’s Society wedi bod yn wych. Fedra’i ddim dweud un gair yn eu herbyn,’ meddai.

Ein canllaw yn Gymraeg ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan ddiagnosis diweddar o ddementia.

Y cam gorau

Erbyn hyn mae Margaret yn byw mewn llety gwarchod, mewn cyfadeilad lle mae staff ar alw ddydd a nos. 

‘Rwy’n ceisio aros yn annibynnol ond rwyf wedi cael llawdriniaeth fawr a gallwn fod yn sâl iawn, felly rown yn falch dod yma lle mae rhywun ar gael i chi ond i chi bwyso botwm.’ 

‘Mae’n addas ar gyfer fy anghenion. Os ydw i’n teimlo fel mynd allan a siarad â phobl, gallaf wneud hynny. Fel arall, gallaf aros fan hyn. Mae fy mhrydau bwyd wedi eu coginio ac rwy’n teimlo’n ddiogel bellach. Doeddwn i ddim cynt. Beth yn fwy ydw i angen? 

‘Mae wedi bod yn hollol wych – y cam gorau i mi gymryd erioed.’ 

‘Ble bynnag byddaf i’n mynd, mae Milly yn dod gyda fi,’ dywed Margaret. ‘Erbyn hyn mae hi’n gi gwasanaeth.’

Mae gan Margaret rwydwaith gefnogol o ffrindiau a theulu mae’n eu gweld yn rheolaidd, ond roedd yn arbennig o bwysig bod ei chi anwes, pomchow 11 oed o’r enw Milly, yn cael ymuno â hi yn ei chartref newydd. 

‘Ble bynnag byddaf i’n mynd, mae Milly yn dod gyda fi,’ dywed Margaret. ‘Erbyn hyn mae hi’n gi gwasanaeth. Mae hi’n mynd â fi adref ac yn deall pob gair rydw i’n ei ddweud. Rwy’n gwybod y byddai hi’n brwydro hyd angau er fy mwyn i.’

Margaret Willis with her dog Milly

Pomchow 11 oed yw Milly, anifail anwes Margaret

Cofleidiwch ef

Er ei bod yn dal i gael diwrnodau anodd, mae Margaret yn ceisio bod mor bositif â phosibl ynghylch byw gyda dementia. 

‘Roedd derbyn y newyddion yn ergyd drom; am y chwe mis cyntaf roedd yn ddrwg iawn,’ meddai. ‘Ond yna sylweddolais petawn i’n fwy positif a pheidio â gadael iddo gael gafael arnaf, gallwn arwain bywyd cymharol normal.

‘Rwy’n ceisio ei gofleidio – dyna’r unig ffordd rwy’n teimlo y gallaf ei drin.’ 

Oherwydd yr agwedd hon mae Margaret wedi bod yn siarad am ei phrofiad Side by Side mewn digwyddiadau a chynadleddau. Mae hi hefyd yn aelod o Grŵp Cyfeirio Ffrindiau Dementia Gogledd Cymru, gan helpu gwneud y Fflint yn fwy cyfeillgar ar gyfer dementia. 

Mae hi wedi elwa o glywed profiadau aelodau eraill o’r grŵp ynghylch byw gyda’r cyflwr. 

‘Mae’r Fflint yn ymwybodol iawn o ddementia ac yn ddementia gyfeillgar. Mae’r perchnogion siopau wedi cyfrannu i hynny,’ meddai. ‘Dyw rhai pobl mewn ardaloedd eraill ddim mor barod i ddeall, er pan fydd pobl yn dod i wybod bod dementia gen i maen nhw’n dda iawn – mae’n rhaid bod yn agored.’ 

‘Dyw e ddim yn rhywbeth i gywilyddio amdano,’ meddai. ‘Pan fyddwch wedi goresgyn hynny gallwch ei gofleidio – dyma sut ydych chi; dyma chi nawr,’ medd Margaret.

I Margaret, mae hyn wedi golygu dysgu derbyn ei sefyllfa. 

‘Dyw e ddim yn rhywbeth i gywilyddio amdano,’ meddai. ‘Pan fyddwch wedi goresgyn hynny gallwch ei gofleidio – dyma sut ydych chi; dyma chi nawr. 

‘A does dim y gallaf wneud yn ei gylch ar wahân i geisio ei reoli yn y ffordd orau medraf heb iddo beri gormod o straen.’ 

Cyfle oes 

Un rhan o’r pryder hir-barhaol yw’r posibilrwydd na fydd Margaret, rhyw ddiwrnod, yn medru adnabod ei phlant. 

‘Er na fyddaf fi’n gwybod dim am y peth, rwy’n gofidio,’ meddai. ‘Rhaid ei bod yn ddigon i dorri calon merch os yw ei mam yn gofyn iddi, “Pwy ydych chi?”‘ 

Ond ar hyn o bryd mae Margaret yn gyffrous iawn ynghylch mynd ar wyliau toc i China gyda’i merched. 

‘Rown yn arfer bod yn drefnydd penigamp, ond ddim erbyn hyn felly rwy wedi dweud wrthyn nhw, “Bwciwch y gwyliau!”‘ meddai. 

‘Cyfle oes – dydw i ddim am roi’r gorau i fyw am fod gen i ddementia.’

Dementia together magazine: Aug/Sept 19

Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories