Trawsnewid bywydau: yr Alzheimer’s Society yn troi’n 40

Mae ein pen-blwydd yn 40 yn drobwynt wrth i ni gyflwyno Dementia Connect. Rydym yn cwrdd â gwirfoddolwyr sy’n trawsnewid bywydau pobl y mae dementia yn effeithio arnynt trwy ein gwasanaeth newydd.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Ers 1979, mae miliynau o bobl wedi derbyn gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth hanfodol oddi wrth yr Alzheimer’s Society. Fodd bynnag, o hyd, mae llawer gormod heb yr help sydd ei angen arnynt pan maent ei angen. 

Rydym am gyrraedd pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia. Mae Dementia Connect, ein gwasanaeth newydd, yn cysylltu pobl â’r gefnogaeth gywir, ar yr adeg gywir, yn y ffordd gywir.

Yn yr un modd ag y cafodd yr Alzheimer’s Society ei sefydlu gan wirfoddolwyr penderfynol, ei gwirfoddolwyr sydd wrth wraidd gwneud Dementia Connect weithio.

Cadw mewn cysylltiad

Mae’r gefnogaeth oddi wrth Dementia Connect yn newid wrth i bethau newid, a gall fod yn bersonol, dros y ffôn, trwy’r post neu ar-lein.

Pan fydd rhywun mewn cysylltiad â ni gyntaf, rydyn ni’n gweld sut y gallwn ni neu unrhyw un arall helpu ar y pryd. Ond mae ein gwirfoddolwyr KIT (Keeping in Touch) hefyd yn galw yn ôl ar adegau y cytunwyd arnynt i sicrhau ein bod yn gwybod pryd y gallai fod angen rhywbeth arall arnynt.

‘Rydyn ni’n gwirio gyda phobl i weld a oes angen unrhyw gefnogaeth a sut maen nhw’n gwneud yn gyffredinol,’ meddai Rhiannon Peters, gwirfoddolwr KIT yng Nghastell-nedd Port Talbot, de Cymru.

‘Rydyn ni’n gwirio gyda phobl i weld a oes angen unrhyw gefnogaeth a sut maen nhw’n gwneud yn gyffredinol,’ meddai Rhiannon.

‘Gallaf eu cyfeirio neu eu hatgyfeirio at wasanaethau lleol, anfon gwybodaeth ddefnyddiol atynt neu eu helpu i dderbyn cefnogaeth bellach os oes angen, megis ymweliad cartref.’

Efallai y bydd angen bod mewn cysylltiad gyda rhai pobl yn eithaf aml, ond efallai na fyddem wedi siarad ag eraill am ychydig fisoedd.

‘Gall llawer newid yn yr amser hwn,’ meddai Rhiannon, ‘a fy rôl i yw sicrhau bod pobl yn parhau i gael eu cefnogi.’

Ychwanegodd Rhiannon, ‘Hyd yn oed pan nad oes unrhyw broblemau penodol, mae pobl yn ddiolchgar o wybod ble y gallant gael cefnogaeth os oes angen ac yn gwerthfawrogi cael rhywun i siarad â nhw.’

Side by Side

Mae ein gwasanaeth Side by Side yn elfen bwysig arall o Dementia Connect. I berson â dementia sydd angen y mymryn bach o gefnogaeth ychwanegol, mae gwirfoddolwr yn eu helpu i barhau i wneud y pethau maen nhw’n eu caru eu gwneud, boed hynny’n barcuta, gwylio’r pêl-droed neu gael paned a chacen.

‘Mae’n effeithio ar gymaint o bobl. ‘Roeddwn i jyst eisiau gwneud rhywbeth i helpu,’ meddai Sue.

Mae gan Sue Lysons yn Colne, ger Burnley yn Swydd Gaerhirfryn, brofiad o ddementia yn ei theulu ei hun. Fe wirfoddolodd ar gyfer Side by Side i wneud gwahaniaeth i eraill.

‘Mae’n effeithio ar gymaint o bobl,’ meddai.  ‘Roeddwn i jyst eisiau gwneud rhywbeth i helpu.’  Nid yw Norma yn hoffi mynd allan ar ei phen ei hun, ond mae ymweliadau Sue yn golygu y gall fynd allan i’r siopau neu am damaid o ginio, i gyd mewn cwmni da.

Sue Lysons with Norma

Sue a Norma.

‘Rwy’n dod i’w hadnabod,’ meddai Sue, ‘gan fagu darlun o’i hoff bethau a’i chas bethau.

‘Fe wnaeth Norma daro i mewn i rywun roedd hi’n eu hadnabod tra roedden ni allan a chyflwynodd fi fel ei ffrind. Mae ganddi wên fawr bob wythnos, ac mae bob amser yn dweud, “Diolch yn fawr.”

Y tîm ehangach

Dechreuodd James Smith, Cynghorydd Dementia yn nwyrain Swydd Gaerhirfryn, yn yr Alzheimer’s Society fel gwirfoddolwr KIT.

‘Heb waith y gwirfoddolwyr, yn syml ni fyddem yn gallu cyrraedd cymaint o bobl’ meddai James.

‘Fel cynghorwyr dementia, rydym bob amser yn ceisio helpu pobl i ddatblygu strategaethau ymarferol ac emosiynol fel y gallant reoli’r heriau y maent yn eu hwynebu.  Yn y rôl hon, mae angen cefnogaeth tîm ehangach arnom. 

‘Heb waith y gwirfoddolwyr, yn syml ni fyddem yn gallu cyrraedd cymaint o bobl sydd angen Dementia Connect.’

Dementia Connect

Dysgwch am ein cymorth arbenigol ar gyfer pobl y mae dementia yn effeithio arnynt yng Nghymru.

Canfod rhagor

Dementia together magazine: Oct/Nov 19

Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories