Dementia Connect - Cymraeg
Dementia Connect yw ein gwasanaeth arbenigol a fydd yn trawsnewid bywydau pobl y mae dementia yn effeithio arnynt.
Mae’n cysylltu pobl â’r cymorth iawn, ar yr adeg iawn, yn y ffordd iawn; gan gyfuno cymorth wyneb yn wyneb â chyngor a gwybodaeth ar bapur, dros y ffôn ac ar-lein gan Gynghorwyr Dementia sydd wedi cael hyfforddiant arbennig.
Sut mae’n helpu?
Rydyn ni yma i bawb y mae dementia yn effeithio arnynt, a drwy Dementia Connect, byddwn yn eich helpu chi i ddileu'r dryswch a chael y cymorth y mae ei angen arnoch pan mae ei angen arnoch.
Rydyn ni yma i’ch helpu ym mha bynnag ffordd y mae ein hangen arnoch chi; boed hynny’n rhywun i siarad â nhw, dros y ffôn, drwy e-bost, ar-lein, wyneb yn wyneb, neu’n gyngor a gwybodaeth ymarferol gan arbenigwyr dementia sy’n deall.
Y mae hefyd yn cynnwys ein gwasanaeth Ochr yn Ochr [link to Side by Side page], sy’n paru pobl sydd â dementia gyda’n gwirfoddolwyr ymroddgar ac yn eu galluogi nhw i wneud y pethau maen nhw’n mwynhau eu gwneud.
“Gwybod bod yna rywun ar gael yn rhywle y gallwch chi siarad â nhw ac sy’n deall - dyna ydi'r peth.” - Katherine, Defnyddiwr Gwasanaeth.
Sut mae’n gweithio?
Ar ôl i chi gysylltu â ni, neu ar ôl i'ch meddyg teulu neu arbenigwr gofal iechyd eich cyfeirio at Dementia Connect, bydd Cynghorydd Dementia sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol yn cysylltu â chi. Bydd yn asesu eich anghenion ac yn eich cysylltu â'r cymorth priodol, i'ch helpu i reoli eich cyflwr a byw’n annibynnol am gyfnod hirach.
Mae’n rhad ac am ddim a byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn darparu gwasanaethau a chymorth parhaus i chi pan fydd eu hangen arnoch.
Ni ddylai neb wynebu dementia ar ei ben ei hun. Gyda Dementia Connect, ni fydd angen i neb wneud hynny.
Gofynnwch am gymorth heddiw.
Ffoniwch: 03300 947 400
Anfonwch e-bost: [email protected]
Neu ofyn i’ch meddyg teulu eich cyfeirio at Dementia Connect heddiw.
Dalier Sylw: Mae’r gwasanaeth newydd hwn yn cael ei dreialu yn Nwyrain Gaerhirfryn, Blackburn a Darwen, Birmingham a Solihull, a bydd ar gael ledled Cymru o fis Hydref 2018.