Ar yr un donfedd: Dementia Connect

Mae siaradwr Cymraeg â dementia yn ffynnu ar gefnogaeth gwirfoddolwr trwy Dementia Connect.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Mae Dementia Connect, gwasanaeth cefnogi newydd y Gymdeithas, wedi ei bersonoleiddio, yn golygu bod pobl a effeithiwyd gan ddementia ond un clic neu alwad i ffwrdd o’r help sydd ei angen arnynt. Gall ein cynghorwyr dementia gefnogi pobl yn uniongyrchol dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, a’u cysylltu â chefnogaeth ar-lein.

‘Gallaf gynnig gwybodaeth, strategaethau ac arwyddbyst, neu glust i wrando.’ medd Caroline.

‘Gallaf ddarparu cefnogaeth wedi ei deilwra i’r person â dementia neu sy’n mynd trwy’r broses ddiagnosis, ynghyd â’u teuluoedd a’u ffrindiau,’ medd Caroline Smith, Cynghorydd Dementia yn Rhydaman, de Cymru.

‘Gallaf gynnig gwybodaeth, strategaethau ac arwyddbyst, neu glust i wrando.’

Mae Dementia Connect, sydd ar gael mewn nifer cynyddol o ardaloedd, yn darparu’r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir wrth i anghenion person newid.

‘Mae’r rhan o’r gwasanaeth sy’n cadw mewn cysylltiad - lle mae person yn derbyn galwad ffôn bob ychydig fisoedd i weld sut maen nhw - wedi bod yn llwyddiannus iawn,’ medd Caroline. ‘Mae pobl yn cael eu calonogi o wybod nad ydynt wedi cael eu hanghofio.’

Perthynas agosach

Un o’r bobl â dementia sy’n cael cefnogaeth gan Caroline yw Jean Jones, cyn-lyfrgellydd sy’n byw ar arfordir Bae Ceredigion.

Roedd Jean am barhau i fod mor weithgar â phosibl, felly cafodd ei chyfeirio gan Caroline at ein gwasanaeth Side by Side – rhan allweddol o Dementia Connect – lle mae gwirfoddolwyr yn cefnogi pobl â dementia i barhau i fod yn rhan o’u cymuned.

Ers canol 2018, mae Jean wedi bod yn cwrdd ag Elaine Davies, gwirfoddolwraig, am awr neu ddwy bob wythnos. Maent ym mynd am dro, i siopa ac i ymweld â mannau lleol diddorol.

Elaine Davies

Elaine.

Mae Elaine a Jean yn ddwyieithog ac wedi creu cysylltiad yn a thrwy’r iaith Gymraeg.

‘Flynyddoedd yn ôl roedd bardd lleol yn y pentref; byddai ei wraig yn dod ag ambell ddarn o’u waith ataf fi. Byddwn yn eu hadrodd a’u recordio iddi yn Gymraeg,’ medd Jean.

‘Rydym ar yr un donfedd a byddwn yn ei cholli pe na bai’n dod,’ medd Jean.

‘Cafodd Elaine afael ar gopi o un o’i lyfrau i fi, ac rydym wedi bod yn bwrw golwg ar rai o’i hen ddarnau barddoniaeth gyda’n gilydd. Mae wedi bod yn hyfryd cofio’r geiriau roeddwn wedi eu dysgu flynyddoedd yn ôl.

‘Rydym yn cael llawer o sgyrsiau da ac rwyf wrth fy modd yn adrodd rhai o’r straeon rwy’n eu cofio - rhai yn ddoniol, rhai yn drist, wrthi.

‘Rwy’n credu bod y ffaith bod y ddwy ohonom yn siaradwyr Cymraeg wedi gwneud ein perthynas yn un agosach. Rydym ar yr un donfedd a byddwn yn ei cholli pe na bai’n dod.’

‘Mae’n fenyw hyfryd; rwy wedi dysgu llawer ganddi,’ medd Elaine.

I Elaine, mae gweld Jean fel petai’n ymweld â ffrind.

‘Mae’n fenyw hyfryd; rwy wedi dysgu llawer ganddi,’ medd Elaine.

‘Mae yna ryw deimlad o ryddhad eich bod, efallai, yn sirioli ei hwythnos ac yn ei galluogi i wneud pethau na fedrai eu gwneud fel arall.’

Ychydig o reolaeth unwaith eto

Mae Debbie Williams, y cydlynydd Side by Side a ddaeth a Jean ac Elaine ar ei gilydd, yn dweud bod y gwasanaeth yn helpu pobl â dementia i deimlo’n llai unig.

‘Mae’n rhoi rhywfaint o annibyniaeth iddyn nhw,’ meddai. ‘Roedd llawer wedi methu parhau â’r gweithgareddau roeddynt wedi eu mwynhau ar un adeg, felly mae’n rhoi ychydig o reolaeth yn ôl yn eu bywydau.

‘Dyma uchafbwynt eu hwythnos i rai.’

Dementia Connect

Mae Dementia Connect yn newydd, ac efallai nad yw rhannau o’r gwasanaeth ar gael yn eich ardal chi eto. Y naill ffordd neu’r llall, dysgwch fel y medrwn ni eich helpu chi. (Yn Saesneg)

Cael cefnogaeth

Dementia together magazine: Feb/Mar 20

Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories