Carol and Christine

Rhywun ar fy ochr: Dementia Connect

Mae menyw â dementia yn ne Cymru yn dweud wrthom ni sut mae’n gwasanaeth Dementia Connect yn gwneud gwahaniaeth enfawr iddi hi.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Mae Dementia Connect, gwasanaeth cefnogi newydd personol Alzheimer’s Society, yn golygu bod pobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia ond un clic neu alwad i ffwrdd o’r gefnogaeth maent ei hangen. Rydym am gyrraedd pawb sydd wedi eu heffeithio gan ddementia, ac mae Dementia Connect yn cysylltu pobl â’r gefnogaeth gywir, ar yr adeg gywir, yn y ffordd gywir. 

‘Mae Dementia Connect yn ffordd o weithio sy’n fwy effeithiol lle gallwn ni gyrraedd mwy o bobl,’ meddai Sue Nye, Gweithiwr Cefnogi Dementia yn Rhydaman. 

‘Rydym yn sicrhau bob pobl yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt - boed hynny gan Alzheimer’s Society neu’n allanol. 

‘Byddwn yn rhoi cyngor a gwybodaeth i bobl, ond cefnogaeth emosiynol hefyd. Rydym yn rhywun i siarad â hwy nad yw’n feddyg neu’n seicolegydd, ond sydd yn deall dementia a sut mae’n effeithio ar bobl.’

Dod yn ynysig 

Pan ymwelodd Sue â Carol, sy’n byw gyda dementia yn Llanelli gerllaw, daeth yn amlwg y byddai’n fuddiol iddi gael cyswllt a chefnogaeth rheolaidd. 

‘Mae’n fewyw gymdeithasol iawn ond roedd yn troi’n ynysig, felly buom yn siarad am Side by Side,’ medd Sue. 

Yn elfen ganolog o Dementia Connect, mae Side by Side yn helpu pobl â dementia i fyw bywydau cyflawn gyda chefnogaeth gwirfoddolwr o’r un anian. 

‘Rydym yn mynd allan am ginio neu ychydig o siopa. Rydym yn mynd i leoedd nad wyf wedi bod ynddyn nhw ers blynyddoedd,’ medd Carol.

Cafodd Carol ei pharu gyda’r wirfoddolwraig Christine Wheeler-Jones, ac maent wedi cyfarfod yn wythnosol ers dechrau 2019. 

‘Rydym yn mynd allan am ginio neu ychydig o siopa. Rydym yn mynd i leoedd nad wyf wedi bod ynddyn nhw ers blynyddoedd,’ medd Carol. ‘Rwy’n cofio mân bethau o’m plentyndod roeddwn wedi anghofio amdanynt.’ 

Mae Christine yn treulio amser yn gwrando ar Carol, sy’n teimlo’n ddigon cyffyrddus i fod yn hi ei hun. Mae Carol wedi ei brifo pan fydd rhai pobl sydd wedi cwrdd â hi wedi gwrthod credu bod dementia arni, ond mae wedi canfod bod Christine yn empathig iawn. 

‘Rwy’n gallu siarad â hi, mae’n fenyw mor neis,’ medd Carol. ‘Mae’n neis siarad â rhywun sydd ddim yn beirniadu. Mae hi’n deall ac yn ofalgar iawn. 

‘Rwy’n mwynhau ei chwmni - rydym yn cael digon o hwyl!’

Teimlo’n well 

Mae Christine yn gwirfoddoli ar gyfer gwasanaeth ‘campus’ Side by Side gan ei bod yn teimlo y gall barhau i gyfrannu wedi iddi ymddeol. 

‘Rwy’n ffodus bod gen i’r iechyd sydd gen i. Rwy’n teimlo os oes gen i rywbeth i’w gynnig, dylwn ei wneud,’ meddai. 

‘Carol sy’n dewis i ble rydym yn mynd, a hyn yn ei gwneud i deimlo’n bwysig ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud, ac rwy’n ei chyflwyno fel fy ffrind bob amser,’ medd Christine.

‘Carol sy’n dewis i ble rydym yn mynd, a hyn yn ei gwneud i deimlo’n bwysig ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud, ac rwy’n ei chyflwyno fel fy ffrind bob amser’. 

Mae Christine yn dweud bod Side by Side wedi rhoi ‘math o fin’ ar fywyd Carol ac mae Carol yn cytuno ei bod yn adfer ei hyder. 

‘Roeddwn yn mynd yn isel iawn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, ond mae cael rhywbeth i’w wneud a rhywle i fynd wedi bod o help mawr - rwy’n teimlo’n well,’ meddai. ‘Mae llawer mwy o bobl angen help fel hyn.’ 

Gwneud gwahaniaeth  

Mae Susan Morgan, y Cydlynydd Side by Side oedd wedi paru Carol a Christine, yn teimlo ei bod yn werth chweil gweld y cysylltiad agos sydd wedi datblygu rhyngddynt. 

‘Mae’r effaith mae cael gwirfoddolwr yn ei gael ar fywydau pobl yn wych,’ meddai. 

‘Mae gwybod ei bod hi yno yn gwneud gwahaniaeth. O’r diwedd mae gen i rywun ar fy ochr, ‘ medd Carol.

Mae Carol yn werthfawrogol iawn o gefnogaeth pobl fel Susan, sy’n ymgorffori yr hyn gall Dementia Connect ei wneud i rywun â dementia. 

‘Mae gwybod ei bod hi yno yn gwneud gwahaniaeth,’ medd Carol. ‘O’r diwedd mae gen i rywun ar fy ochr.’

Dementia Connect

Mae Dementia Connect yn newydd, ac efallai nad yw rhannau o’r gwasanaeth ar gael yn eich ardal chi eto. Dod o hyd i gefnogaeth yn agos i chi. (Yn Saesneg)

Cael cefnogaeth

Dementia together magazine: Dec 19/Jan 20

Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories