Cefnogaeth drwy’r iaith Gymraeg: allwedd i ddatgloi’r byd eto
Y Cynghorydd Dementia Mair Watkins ar werth difesur cael cefnogaeth yn Gymraeg trwy Dementia Connect yng Nghymru.
Darllenwch y stori hon yn Saesneg
Pan fydd dementia yn effeithio sut ydych chi’n cyfathrebu, fe all eich ynysu oddi wrth eich teulu, ffrindiau a chymuned. Os Cymraeg yw’ch iaith gyntaf fe allwch hyd yn oed golli’r gallu i gyfathrebu yn Saesneg.
Y naill ffordd neu’r llall, mae cael cefnogaeth yn eich dewis iaith yn gwneud gwahaniaeth anferthol.
Mae Dementia Connect – y gwasanaeth newydd byddwn yn ei gyflwyno i ragor o ardaloedd yn y blynyddoedd i ddod – yn cynnwys cefnogaeth yn y Gymraeg i bobl yng Nghymru, lle mae gan yr iaith statws swyddogol ochr yn ochr â Saesneg.
Fel Cynghorydd Dementia a siaradwr Cymraeg, mae’n fraint i mi gael fy nghroesawu i fywydau pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn. Mae pobl angen gwybodaeth ynghylch cefnogaeth leol a llu o bynciau eraill, yn ogystal â help ymarferol gyda heriau dyddiol.
‘I rywun â dementia, mae medru defnyddio e iaith ei hun yn allwedd a fedr ddatgloi drws y byd unwaith yn rhagor,’ medd Mair.
Fel dywed y ddihareb ‘Cenedl heb iaith, cenedl heb galon’, ac mae’r Gymraeg wrth galon ein diwylliant cenedlaethol.
I rywun â dementia, mae medru defnyddio ei iaith ei hun yn allwedd a fedr ddatgloi drws y byd unwaith yn rhagor. Pan fydd yn sylweddoli y gall fynegi ei hun a chael ei ddeall, mae’n gymhelliant i feithrin perthnasau a chael y gofal sydd mor hanfodol.
Pa ysgogiad pellach fyddai angen arnaf i wneud yr hyn rwy’n ei wneud?
Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch alw ein llinell ffôn Gymraeg ar 0330 094 7400 (cyfradd leol).
Canfod cefnogaeth yn agos i chi
Ar hyn o bryd nid yw Dementia Connect ar gael ymhob rhan o Gymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ond medrwch ddefnyddio ein Dementia Directory i ganfod cefnogaeth yn agos i chi. (Yn Saesneg)