People talking

Colli eich Saesneg: ‘Dychwelyd’ at eich mamiaith wrth i ddementia waethygu’n raddol

Pan mae dementia yn effeithio ar allu person dwyieithog i gyfathrebu yn ei ail iaith.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

‘Mae dementia fy nhad yn golygu ei fod yn colli ei Saesneg, wedi ei ddysgu yn oedolyn, ac ond yn siarad neu’n deall ei famiaith.’

Mae dementia yn gallu cael effeithiau annisgwyl ar bobl sy’n siarad mwy nag un iaith, ac mae nifer gynyddol o bobl yn y DU wedi dysgu Saesneg neu Gymraeg fel ail iaith neu iaith ychwanegol.

Ar y cyfan, mae siarad mwy nag un iaith yn gallu oedi nifer o symptomau dementia. Gallai bod yn ddwyieithog olygu bod eich tad wedi adeiladu mwy o ‘gronfeydd gwybyddol’ na’r rhai ohonom sy’n siarad un iaith yn unig, gan wneud ei ymennydd yn fwy gwydn i newidiadau wrth i’w dementia gychwyn datblygu.

Fodd bynnag, mae nifer o bobl yn gweld newidiadau yn ymwneud ag iaith wrth i’r dementia waethygu’n raddol, ac mae hyn yn gynnwys pobl ddwyieithog.

Cynefindra parhaus

Mae’n bosibl y bydd hyd yn oed rhywun sydd wedi siarad ail iaith am flynyddoedd yn cychwyn colli geiriau o’u mamiaith, efallai yn ddiarwybod. Dros amser, mae’r iaith sy’n llai cyfarwydd a heb ei chorffori cymaint yn dueddol o gael ei cholli gyntaf. Yn aml, dyma’r iaith a ddysgwyd yn ddiweddarach.

Fel gyda’ch tad, gallai hyn olygu bod person yn cael trafferth yn y pen draw i gyfathrebu mewn un iaith ond yn gallu gwneud hynny mewn iaith arall. Gall colli’r gallu i gyfathrebu yn yr iaith mae mwyafrif y bobl o’ch amgylch yn ei siarad gael effaith ddifrifol.

Cyhyd â bod gennych chi rhai pobl o’ch amgylch sy’n deall eich mamiaith, gallwch ddal ati i ddweud wrthynt am bethau ymarferol megis beth hoffech ei fwyta neu ei wneud. Yn bwysig, gallwch hefyd rannu eich meddyliau a’ch teimladau.

Mae iaith yn rhan hanfodol o’n profiad dynol. Os nad oes neb o’ch amgylch yn deall yr iaith sy’n weddill gennych, mae’n bosib y byddwch yn dechrau teimlo ar eich pen eich hun, yn unig, yn ddryslyd, yn rhwystredig neu’n isel.

Awgrymiadau: cyfathrebu â rhywun â dementia

Yn cynnwys cyngor ar ddulliau cyfathrebu nad ydynt yn dibynnu ar eiriau (yn Saesneg).

Darganfyddwch fwy

Strategaethau i helpu

Y ffordd fwyaf amlwg o ddal ati i gyfathrebu yw sicrhau bod yna bobl ym mywyd eich tad sy’n gallu siarad ei iaith gyntaf, er mae hynny’n haws mewn rhai ardaloedd nag eraill.

Gallai fod yna adegau pan allai cyfieithydd ar y pryd, naill ai mewn person neu dros y ffôn, helpu eich tad i gyfathrebu. Mae’n werth gofyn i wasanaethau am hyn, yn enwedig ar gyfer apwyntiadau a sgyrsiau sy’n effeithio ar ei ofal. Os yw’ch tad yn darllen yn ei iaith gyntaf, mae’n bosib bod yna ddeunyddiau wedi’u cyfieithu i’w helpu i ddeall sefyllfa ac i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae datrysiadau technegol, megis apiau cyfieithu ar ddyfeisiau symudol, yn ddefnyddiol i rai pobl.

Mae defnyddio mwy o ddulliau cyfathrebu nad ydynt yn dibynnu ar eiriau, megis mynegiant wyneb, ystumiau llaw neu gorff, lluniau a symbolau hefyd yn gallu helpu. Mae unrhyw ddull o gyfathrebu sy’n caniatáu i’r person fynegi ei hun yn werthfawr a gall gael effaith fawr ar ei lesiant.

Dementia together magazine: June/July 19

Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories