Elf Day supporters in Ebbw Vale

Brwdfrydedd y corachod: Gwisgwch i fyny ar gyfer Elf Day

Mae Hyrwyddwr Ffrindiau Dementia yn ne Cymru yn trefnu cyfle arall i wisgo i fyny a hel arian ar ddiwrnod Elf Day eleni.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Y llynedd roedd Elf Day yn gymaint o lwyddiant yng Nghanolfan Gweithredu Dysgu Glynebwy ym Mlaenau Gwent nes eu bod yn benderfynol o wneud hyd yn oed mwy o sioe ar gyfer 2019.

Dywed Julie Thomas, Hyrwyddwr Ffrindiau Dementia lleol, ‘Roedd yn anhygoel y llynedd!  Treuliais y diwrnod cyfan gydag wynebau llawen o fy nghwmpas, yn clywed chwerthin ym mhob cornel o’r adeilad, ac roedd pawb wrth eu bodd â’r gweithgareddau.’

‘Ymunodd bron i 100 o bobl â ni i ddathlu a chodi arian,’ meddai Julie.

Roedd y diwrnod yn llawn caneuon, sesiwn ymarfer corff ysgafn, mins peis, cwis Nadolig, ymweliad gan Siôn Corn a hyd yn oed rhywfaint o ddawnsio llinell Nadoligaidd.

‘Ymunodd bron i 100 o bobl â ni i ddathlu a chodi arian, ac roedd Siôn Corn yn llwyddiant mawr gyda’r teuluoedd,’ meddai Julie.

‘Mae pob un ohonom yn y grŵp trefnu eisiau ei wneud eto yn 2019, ac rydym wedi ymrwymo i’w wneud yn ddiwrnod hyd yn oed gwell eleni.’

Hwyl, arian a mwy

Ar wahân i fod yn esgus da arall i wisgo i fyny a mwynhau’r cyfnod cyn y Nadolig - i gyd wrth godi arian hanfodol - gall Elf Day hefyd danio mwy o ymwybyddiaeth am ddementia. Y llynedd, arweiniodd hyn at Julie yn cynnal sesiwn wybodaeth Ffrindiau Dementia yn ddiweddarach y mis hwnnw. 

‘Roedd y sesiwn ar gyfer staff y ganolfan, cysylltwyr cymunedol a thiwtoriaid o asiantaethau eraill - tua 40 o bobl,’ meddai Julie.

‘Bydd cynyddu faint o bobl sy’n gwybod am y cyflwr yn eu hatal rhag cael eu dychryn ganddo,’ meddai Julie.

‘Ar ôl cymryd rhan yn Elf Day, fe wnaethant ddysgu ychydig am ddementia ac roeddent yn awyddus iawn i dderbyn fy nghynnig o sesiwn wybodaeth i ddysgu mwy fyth.’

‘Bydd cynyddu faint o bobl sy’n gwybod am y cyflwr yn eu hatal rhag cael eu dychryn ganddo a byddant yn gwybod sut i helpu person y mae dementia yn effeithio arnynt. Rwy’n gweld rhai canlyniadau rhyfeddol ar draws ein hardal - mae caffis, eglwysi, theatrau, amgueddfeydd, siopau, gwestai a bwytai sy’n ffrindiau dementia i gyd yn helpu i newid y byd er gwell.’

Rhoi dysg ar waith

Fel cefnogwr a gwirfoddolwr ers amser maith, mae Julie wedi bod yn rhan o lawer o ddigwyddiadau’r Alzheimer’s Society dros y blynyddoedd, gan gynnwys y Memory Walk ac Wythnos Gweithredu Dementia. Fodd bynnag, mae hi’n annog unrhyw un i gynnal digwyddiad Elf Day ac yn argymell cael cefnogaeth gan rwydweithiau lleol, lle mae pobl yn aml yn awyddus i chwarae eu rhan.

‘Cawsom help gan eglwys leol i ddarparu lluniaeth, roedd y cyd-ganu gyda dynes o’r trefnwyr gweithgareddau Goldies Cymru, ac fe wnaeth tiwtor dawnsio llinell ein helpu i ddysgu’r symudiadau. Darparodd y Ganolfan Gweithredu Dysgu wobrau raffl ac roedd y Siôn Corn o eglwys arall yng Nglynebwy.’

Gwisgwch i fyny ar gyfer Elf Day

Rhannwch hwyl yr ŵyl a gwisgo i fyny yn y gwaith, yn yr ysgol neu yn y gymuned i godi arian ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia. (Yn Saesneg)

Ymunwch

Dementia together magazine: Oct/Nov 19

Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories