Anne outside her home

Bywyd fel y daw: Addasu i ddiagnosis dementia

Mae Anne yn ddiolchgar am y gefnogaeth y mae wedi’i chael i addasu i fyw gyda dementia.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Rwyf wedi cael profiad helaeth o fywyd, gan symud yn y lôn gyflym,’ meddai Anne, cyn nyrs a fu’n gweithio mewn swyddi uwch mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ysbytai am nifer o flynyddoedd. ‘Roedd gen i nifer o ddoniau – roedd yn rhaid bod felly.’

Cafodd Anne, sy’n 80 oed ac yn byw yn Aberystwyth ar arfordir gorllewinol Cymru, ddiagnosis o ddementia cymysg yn gynnar yn 2020.

‘Nawr rwy’n darganfod os ydw i’n ceisio gwneud gormod, ni allaf. Ni allaf wneud y pethau roeddwn i’n arfer â nhw ac ni allaf gynllunio ymlaen, nid yw fy ymennydd yn mynd yno,’ meddai.

Er gwaethaf wynebu heriau dementia, ei phroblemau iechyd eraill a phandemig y coronafeirws, mae Anne yn fwy na pharod i rannu ei phrofiadau.

‘Mae dementia yn fy nghael i lawr weithiau, ond does gen i ddim byd i’w guddio – yn union fel nad ydw i erioed wedi cuddio unrhyw un o fy anableddau eraill,’ meddai.

Bywyd awyr agored

Magwyd Anne yn Wolverhampton yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr yr hynaf o dri o blant. Bu farw ei thad pan oedd hi’n naw oed.

‘Nid oedd fy magwraeth gynnar heb ei broblemau,’ meddai. ‘Cafodd fy mam amser eithaf garw. Roedd yn dipyn o dasg i fagu tri o blant.’

Gwnaeth Anne gais i astudio nyrsio a bu’n gweithio mewn ysbytai ar hyd ei hoes cyn ymddeol yn 2000. Mae ganddi ddau fab sydd ill dau yn byw yn Lloegr.

Mwynhaodd Anne y ‘bywyd awyr agored’, gan fynd ar wyliau gwersylla gyda ffrindiau mewn carafán deithiol.

Teithiodd yn rhyngwladol hefyd ac mae’n cofio teithiau i Rwsia a gwledydd yn Affrica. Mae hi’n hoff iawn o Gymru, lle ymsefydlodd ymhen hir a hwyr gyda’i diweddar ŵr.

‘Rwy’n caru Cymru – mae’r Cymry yn bobl hyfryd,’ meddai.

Anne outside with her dog

Mae gan Anne ddementia cymysg.

Problemau meddygol

Yn dilyn damwain car yn 2019 lle cafodd drawiad i’w phen, cafodd Anne sgan MRI. Arweiniodd hyn at ddiagnosis o ddementia cymysg, o glefyd Alzheimer a dementia fasgwlaidd, gan wasanaeth asesu cof yn gynnar y llynedd. 

‘Roeddwn yn mynd yn isel fy ysbryd mae’n debyg, oherwydd nid oedd fy nghof tymor byr cystal. Ond nid am un munud oeddwn i’n meddwl efallai bod gen i ddementia, oherwydd roeddwn i’n ymdopi â bywyd. Roeddwn i’n meddwl eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad,’ meddai.

Canfuwyd bod Anne yng nghyfnod cynnar dementia, ac mae problemau cof yn parhau i gyflwyno heriau yn ei bywyd bob dydd.

‘Fe af i fyny’r grisiau am rywbeth a meddwl, “Pam uffern ydw i wedi dod i fyny yma?”‘ meddai.

‘Rhaid i mi ysgrifennu mwy nag yr oeddwn yn arfer ei wneud. Doeddwn i erioed angen gwneud rhestr siopa, oherwydd roeddwn i’n gwybod yn union beth roeddwn i eisiau, ond rydw i’n gwneud nawr. Dyddiadau, rydw i’n eu rhoi ar galendr mawr.

‘Rwyf hefyd wedi rhoi fy nhrwydded yrru i’r anabl yn rhywle diogel ac nid wyf wedi’i gweld ers hynny!’

Mae gan Anne ddiabetes, cafodd dynnu ei cholon sawl blwyddyn yn ôl ac mae’n defnyddio sgwter symudedd i fynd o gwmpas. Nid yw’n cerdded yn dda yn dilyn llawdriniaeth ar gyfer tendon wedi’i rwygo yn ei phen-glin.

‘Doeddwn i ddim yn berson iach cyn dementia, mae gen i sawl problem feddygol,’ meddai. ‘Mae dementia bellach yn effeithio arnaf yn gorfforol yn ogystal ag yn feddyliol.’

Yr anfantais fwyaf

Mae Anne yn berson annibynnol iawn a chafodd ei heffeithio’n wael gan y newyddion nad yw hi bellach yn cael gyrru.

‘Fe wnaeth hynny fy mrifo i yn fwy na dim, ac mae’n dal i wneud,’ meddai. ‘Roeddwn i’n arfer bod yn wyliwr adar brwd yng nghefn gwlad a gallwn fod wedi gyrru i’r coetiroedd harddaf, ond mae angen bws neu drên arnaf i fynd allan o’r dref nawr.

‘Rwy’n dal i wneud fy siopa fy hun – rwy’n ymdopi gyda sawl taith ar fy sgwter. Neu mae fy nghi yn eistedd ar y platfform ac rydyn ni’n mynd i’r parc. Felly mae’n fy nghadw’n symudol, ond colli’r car yw’r anfantais fwyaf.’

Ar wahân i letywr ar lawr uchaf ei thŷ, mae Anne yn byw ar ei phen ei hun. Roedd hi wedi bod yn awyddus i symud i fflat mewn llety â chymorth, ond fe ddaeth i’r amlwg na allai’r adeilad ddarparu ar gyfer ei sgwter symudedd, er mawr rwystredigaeth iddi.

Anne on her mobility scooter

Mae Anne yn berson annibynnol iawn.

Yn ofalus iawn

Mae Anne yn teimlo bod ei hwyliau wedi gwaethygu o ganlyniad i ddementia, tra bod y cyfnod clo wedi effeithio ar ei lles meddyliol hefyd. Mae hi wedi bod yn cyfyngu ar ei hamser tu allan ac o amgylch pobl eraill, gan gynnwys ffrindiau a theulu.

‘Dim ond pan fyddaf yn meddwl y bydd yn dawel y byddaf yn mynd i’r dref, ac rwy’n ofalus iawn,’ meddai.

‘Nid oes gennyf y cwmni yr oeddwn yn arfer ei gael, ac ni allaf fynd allan na gweithredu fel y byddwn i eisiau. Mae’r unigedd yn fy nychryn yn fwy na dementia, oherwydd rwy’n gwybod beth y gall ei wneud.

‘Nid yw wedi bod yn dda iawn – dwi’n edrych ymlaen at fynd yn ôl allan.’

Ar ddechrau mis Ionawr, roedd Anne yn dal i aros am newyddion am gael y brechlyn coronafeirws.

‘Rydw i mor ymwybodol ag unrhyw un am y firws, oherwydd fy nghefndir nyrsio,’ meddai. ‘Rydw i eisiau’r brechlyn ac rydw i wedi ffonio fy meddygfa, ond wn i ddim pryd y bydd yn digwydd.’

Yno o hyd

Mae Anne yn derbyn cefnogaeth dda gan ffrindiau a’i meibion, sydd wedi parhau i fod yno iddi ers ei diagnosis dementia.

Mae hi hefyd yn ddiolchgar am Alzheimer’s Society Cymru, gyda galwadau ffôn rheolaidd gan y Gweithiwr Cymorth Dementia Rhiannon Smith. Yn ogystal â darparu gwybodaeth a chyngor am ddementia, cyfeiriodd Rhiannon Anne hefyd at Gofal a Thrwsio Cymru, a helpodd i wneud ei chartref yn fwy diogel. Cefnogodd Anne hefyd i gael larwm achub bywyd, a ddefnyddiodd Anne ar ôl cwympo yn ei gardd.

‘Mae Rhiannon wedi fy helpu gyda fy nghyflwr corfforol a meddyliol, mae hi wedi bod yn dda iawn,’ meddai Anne. ‘Mae hi bob amser yn gwybod yr atebion a’r peth iawn i’w ddweud. Mae hi’n dangos empathi ac yn ymateb bob amser os ydw i angen unrhyw beth.

‘Rwy’n gwybod ei bod hi yno bob amser os ydw i eisiau hi. Mae fy mab wedi ei ffonio hi hefyd, pan mae wedi bod yn bryderus.’

Mae Anne hefyd wedi elwa o gyswllt ffôn rheolaidd gan ein gwirfoddolwyr, gan gynnwys Companion Calls, sydd wedi bod yn cefnogi pobl yn ystod y pandemig.
‘Mae’r galwadau wedi bod yn rhagorol, wir yr, yn enwedig gyda’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd,’ meddai Anne. ‘Maen nhw’n gwrando arna i ac maen nhw bob amser yn ymddangos eu bod nhw’n gwybod y peth iawn i’w ddweud. Maen nhw’n dda am sgwrsio ac yn deall fy safbwynt.

‘Rydyn ni’n siarad am bob math o bethau – mae’r gwirfoddolwyr yn fydol iawn a gallwch chi gynnal trafodaeth gyda nhw. Maen nhw’n ddiddorol iawn siarad â nhw ac nid wyf wedi diflasu ar eu cwmni o gwbl! Maen nhw’n help mawr.’

Anne with Rhiannon Smith.

Anne gyda Rhiannon.

Stigma annheg

Mae Anne yn teimlo bod stigma annheg a diangen o amgylch cyflyrau fel dementia.

‘Mae dementia yn salwch. Rwy’n credu bod pobl yn ceisio ei guddio, ond does dim cywilydd arno,’ meddai. ‘Dylid ei dderbyn yr un ffordd â chanser neu ddiabetes neu fethiant y galon. Beth yw’r gwahaniaeth?’

Ac er nad yw pethau’n hawdd ar hyn o bryd, mae Anne yn parhau i gynnal ei hannibyniaeth gyda chefnogaeth y rhai o’i chwmpas.

‘Rwy’n mynd yn anghofus ond rwy’n dal i weithredu, gallaf ymdopi,’ meddai. ‘Rwy’n byw bywyd fel y daw.’

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

Gallwch chi helpu i sicrhau bod pawb â dementia yn derbyn yr un gefnogaeth gan Alzheimer’s Society Cymru ag a gafodd Anne – rhowch yr hyn a allwch.

Rhoddwch nawr

Dementia together magazine: Feb/Mar 21

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now