Partneriaeth hosbis: Gwell cymorth i bobl yr effeithir arnyn nhw gan ddementia

Partneriaeth hosbis sy’n cynnig cyngor a chymorth i bobl â dementia a’u gofalwyr.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Mae angen cymorth ar bobl â dementia i gynnal eu cysur a’u lles wrth i’r cyflwr ddatblygu. Darllenwch am brosiect i wella’r gofal sydd ar gael.

Hospice activities

Yn 2014, lansiodd Hosbis y Cymoedd y Prosiect Her mewn partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer i wella cymorth i bobl yr effeithir arnyn nhw gan ddementia ym Mlaenau Gwent, de Cymru.

Yn draddodiadol mae hosbisau wedi arbenigo mewn cefnogi pobl â chanser. Os caiff pobl â dementia eu hatgyfeirio iddyn nhw, mae’n tueddu i fod ar ddiwedd oes yn hytrach na’u helpu nhw i aros mor gyfforddus â phosibl cyn hynny.

Fe ddechreuodd y prosiect fel cynllun peilot dwy flynedd. Mae ei lwyddiant wedi dibynnu ar waith Alison Jones, nyrs gofal lliniarol cymunedol yn yr hosbis, a Michelle Morgan, Gweithwraig Gymorth Dementia’r Gymdeithas.

Maen nhw’n darparu addysg a chymorth i bobl â phob math a cham o ddementia, eu teuluoedd, gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr a’r cyhoedd.

Man cyswllt

‘Mae teuluoedd yn teimlo bod ganddyn nhw un man cyswllt,’ meddai Alison. ‘Gallan nhw ein ffonio ni am wybodaeth neu i drafod materion iechyd. Mae hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr.’

Dywed Kim Williams, y cafodd ei mam, 83 oed, ddiagnosis o ddementia fasgwlaidd yn 2015, ‘Os ydyn ni am ofyn rhywbeth o gwbl, fe gawn ni’r ateb.

‘Fe ofynnais i Alison am feddyginiaeth fy mam ac mae Michelle yn ein helpu ni ag unrhyw beth rydyn ni ei eisiau.’

Mae’r cyswllt uniongyrchol hwn yn golygu y gall pobl osgoi’r angen i aros i apwyntiadau gael eu hatgyfeirio gan weithwyr proffesiynol penodol.

Mae’r prosiect hefyd wedi gweld Cymdeithas Alzheimer a’r hosbis yn cyfnewid hyfforddiant, ac mae staff a gwirfoddolwyr yr hosbis i gyd wedi dod yn Ffrindiau Dementia.

Dywed Alison, ‘Erbyn hyn mae gennym ni ddealltwriaeth well o ddementia ac rydyn ni wedi addasu ein hymagwedd, gan gynnwys gwneud ein hadeilad yn fwy cyfeillgar i ddementia.’

Dywed Michelle ei bod hi wedi gwella ei dealltwriaeth o gynllunio gofal datblygedig, a sut mae tîm yr hosbis yn gweithio gyda’i gilydd i wneud y defnydd gorau o’u hamser gydag unigolyn.

Agos wrth law

Mewn grŵp wythnosol yng nghanolfan ddydd yr hosbis, mae pobl â dementia a’u gofalwyr yn mwynhau gemau, garddio, sgwrsio a gweithgareddau eraill, â chefnogaeth arbenigol wrth law.

Mae Alan Fletcher, cyn-ddarlithydd coleg 86 oed sydd ag Alzheimer’s, yn mynychu gyda’i wraig Anne.

Meddai, ‘Mae’n dda dod yma, mae’r grŵp yn wych. Mae arnon ni ddyled fawr iddyn nhw.’

Dywed Anne fod Alan wedi dod yn fwy tawedog oherwydd ei ddementia, ond yn ystod y grŵp bydd e’n eistedd ac yn siarad yn hapus am awr neu ddwy.

Mae hi’n esbonio, ‘Roedd dementia yn gwbl newydd i mi, roedd yn dipyn o ysgytwad. Ond mae pawb wedi bod mor garedig, mae’n hyfryd dod yma. Dwi ddim yn gwybod sut bydden ni’n ymdopi heb y grŵp.’

Fe gafodd David Williams, cyn-ddarlithydd peirianneg 67 oed, ei ddiagnosis o ddementia cymysg - dementia fasgwlaidd a chlefyd Alzheimer - yn 2015.

Mae David Birch, ei ffrind gorau ers dros 50 mlynedd, yn mynd gyda David i’r grŵp, a rhyngddyn nhw maen nhw’n gofalu am ardd y ganolfan.

‘Dw i’n gwneud tipyn o bopeth. Mae wedi bod yn dda,’ meddai David Williams.

Pan ofynnir iddo a yw wedi gwneud ffrindiau yn y grŵp, mae’n ateb, ‘Yn bendant iawn!’

Dywed ei frawd, John, fod budd mynychu bob wythnos wedi bod yn amlwg.

‘Mae David yn fewnblyg iawn a dydy e ddim yn berson sy’n ymuno â grwpiau’n eiddgar, ond mae e wedi dod i adnabod pobl yma. Mae unrhyw ryngweithio yn hynod o bwysig iddo fe.’

I David Birch, mae’r grŵp wedi darparu rhwydwaith cymorth i ofalwyr.

‘Gan fod pawb yn yr un cwch, rydych chi’n casglu awgrymiadau gan bobl eraill. Mae’r staff hefyd yn rhoi cyngor i chi ar bethau fel cyllid a pha help y gallwch chi ei gael.’

Trwy wasanaeth cyfeillio, mae gwirfoddolwyr fel Alvina Forsey hefyd yn ymweld â phobl â dementia yn eu cartrefi. Mae Alvina wedi bod yn ymweld ag un fenyw yn wythnosol am bron i 18 mis.

Meddai, ‘Mae’n golygu nad oes rhaid i’w theulu boeni am yr ychydig oriau hynny.’

Hospice activities

Effaith gadarnhaol

Fe werthusodd Marie Curie, sy’n cefnogi pobl ag afiechydon terfynol, effaith dwy flynedd gyntaf y Prosiect Her. Roedd yn canmol gwell mynediad at wasanaethau, gofal diwedd oes a gwybodaeth gofalwyr, yn ogystal â’i ddylanwad ar sut yr oedd gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yn atgyfeirio pobl.

Dywed Michelle fod angen i ofal lliniarol gwell - sef helpu pobl â dementia datbygedig i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl - a gofal ar ddiwedd oes fod ar gael ledled y wlad.

‘Fel prosiect, rydyn ni wedi cael llwyddiant mawr wrth drefnu cael llinell gymorth glir o’r diagnosis i ofal diwedd oes.

‘Weithiau gall gofal ostwng pan fydd pobl ei angen fwyaf. Weithiau methir y sgyrsiau cynllunio gofal datblygedig. Dydy rhai pobl ddim hyd yn oed yn sylweddoli bod dementia yn cyfyngu ar fywyd.

‘Rydyn ni’n helpu ac yn rhoi gwybodaeth iddyn nhw i’w reoli yn y ffordd iawn.’

Dementia together magazine: Dec 16/Jan 17

Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now