Gwell mewn argyfwng: Llai o alwadau ingol am ambiwlans

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gweithio gyda phobl yr effeithir arnynt gan ddementia fel y gall wella eu profiadau.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Roedd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, oedd yn cael eu galw allan i nifer gynyddol o bobl â dementia ar gyfer argyfyngau a chludiant a gynlluniwyd, am sicrhau ei fod yn bodloni eu hanghenion ac yn parchu eu hawliau, ynghyd â hawliau gofalwyr.

Mae wedi bod yn gwneud newidiadau yn seiliedig ar Gynllun Dementia, a ddatblygwyd o adborth gan gleifion.

‘Fe wnaethom ymrwymiad i wella eu profiadau nhw a phrofiadau eu gofalwyr a'u teuluoedd,’ meddai Alison.

‘Disgwylir i bobl â dementia dderbyn ymateb amserol mewn argyfwng,’ meddai Alison Johnstone, Rheolwraig Rhaglen ar gyfer Dementia yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

‘Fodd bynnag, fe wnaethon nhw adrodd am brofiadau gwael ynghylch galw gwasanaethau 999 gan ddweud eu bod yn ei gael yn anodd defnyddio’r ffôn i gyfathrebu mewn sefyllfa ingol.

‘Fe wnaethom ymrwymiad i wella eu profiadau nhw a phrofiadau eu gofalwyr a’u teuluoedd.’

A member of the Welsh Ambulance Service

Llais caredig

Fe wnaeth y Cynllun Dementia arwain at hyfforddiant newydd i staff, gan gynnwys sesiynau ymwybyddiaeth dementia i’r rhai hynny sy’n gweithio yn yr ystafell reoli, y mae pobl sy’n byw â dementia wedi helpu i’w gyflwyno.

Mae Leigh Keen, parafeddyg a Hyrwyddwr Ffrindiau Dementia, wedi bod yn cyflwyno sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia i barafeddygon a staff cludo cleifion ers y pedair blynedd diwethaf.

‘Os yw person â dementia yn sâl neu os oes ganddo haint, nid yw’r driniaeth yn wahanol, mae’n ymwneud yn fwy â chyfathrebu,’ meddai. ‘Mae’n rhoi mwy o hyder i’n staff rheng flaen - gallai’r wybodaeth ychwanegol roi rhywfaint o driciau i rywun i roi sicrwydd i berson â dementia neu i ddechrau sgwrs gyda nhw.’

‘Fe wnaethon nhw wir gymryd amser i wneud i mi deimlo'n gyfforddus, heb fod yn gynhyrfus,’ meddai Andy.

Cafodd Andy Woodhead, sydd â dementia gyda chyrff Lewy, ei drin gan griw ambiwlans ar ôl llewygu yn ei gartref.

‘Doeddwn i ddim yn glaf hawdd ei drin wrth ddod ataf fy hun, ond roedd y parafeddygon yn wych,’ meddai. ‘Esboniodd fy ngofalwr bod gen i ddementia ac rwy’n credu eu bod wedi fy nhrin yn unol â hynny. Fe wnaethon nhw wir gymryd amser i wneud i mi deimlo’n gyfforddus, heb fod yn gynhyrfus.

‘Roedden nhw’n ymwybodol o’r problemau y gall dementia eu hachosi. Mae ofn yn broblem fawr, a gorbryder. Ac mewn gwirionedd rydych chi yn dod yn gynhyrfus iawn. Rwy’n credu bod treulio amser yn fy nhawelu wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Roedd hi’n hyfryd clywed llais caredig - roedd hynny’n werth mwy na miliwn o bunnoedd i mi.

‘Dwi ddim yn ofni ambiwlans yn dod nawr. Dydw i ddim yn byw â hynny, oherwydd y profiadau da dw i wedi’u cael yn y sefyllfa honno.’ 

Ffurflen ddwyieithog i rannu cefndir, ffafriaeth ac anghenion person gyda dementia.

Cyfeillgar i ddementia

Mae pobl yr effeithir arnynt gan ddementia hefyd wedi bod yn ymweld â gorsafoedd ambiwlans a chanolfannau cyswllt i roi eu barn ar pa mor gyfeillgar i ddementia roedden nhw’n canfod y cerbydau, y cyfarpar a’r amgylchedd. Maen nhw hefyd wedi cwrdd â thrinwyr galwadau ac uwch reolwyr.

Wedi’i gydnabod gan Gymdeithas Alzheimer fel corff sy’n gweithio tuag at fod yn gyfeillgar i ddementia ym mis Hydref 2017, cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei enwi’n Sefydliad Cyfeillgar i Ddementia y Flwyddyn ar gyfer sefydliadau mwy yng Ngwobrau Cyfeillgar i Ddementia y llynedd.

Mae ei Gynllun Dementia hefyd wedi creu proses well ar gyfer atgyfeiriadau cleifion a phartneriaethau cryfach â gwasanaethau eraill.

Roedd Leigh yn cymryd rhan mewn treial, sydd nawr ar waith ar draws Abertawe, lle gallai staff ambiwlans atgyfeirio cleifion maen nhw’n credu y gallai fod ganddynt ddementia ond nad oeddent wedi’u diagnosio.

Meddai hi, ‘Byddan nhw’n eu gwirio ac yn cael sgwrs. Os nad yw rhywbeth yn gwbl iawn, neu os yw’r teulu’n sôn am rywbeth, gall yr aelod o staff wneud prawf cof. Os oes ganddynt bryderon o hyd, gallant atgyfeirio’r person at ein tîm clinigol acíwt a chychwyn y broses o gael diagnosis.’

An ambulance from the Welsh Ambulance Service

Llais cryf

Mae Tasglu Dementia arbennig wedi'i greu i sicrhau bod y Cynllun Dementia yn parhau i ddatblygu a chyflenwi. Mae’n cynnwys Hyrwyddwyr Ffrindiau Dementia, staff y gwasanaeth ambiwlans a chynrychiolwyr cleifion. 

Mae Nigel Hullah, sydd ag atroffi cortigol pen-ôl, yn aelod o’r tasglu ac roedd hefyd yn rhan o’r hyfforddiant trinwyr galwadau.

‘Sylweddolodd y tasglu nad oedd yn ymwneud â sut i’n datrys ni - y bobl â dementia - fel problem,’ meddai. ‘Roedd yn ymwneud ag ymgysylltu â ni a rhoi llais inni ym mhob rhan o’r broses. Gwerthfawrogwyd ein cyfraniadau a gweithredwyd arnyn nhw.’

‘Rydym yn parhau i siarad ag a gwrando ar bobl yr effeithir arnynt gan ddementia fel y gallant gael llais cryf yn ein cynlluniau,’ meddai Alison.

Mae’r gwasanaeth ambiwlans hefyd wedi cynhyrchu canllaw cyfathrebu ar gyfer staff a gwirfoddolwyr er mwyn cynorthwyo eu rhyngweithiadau â phobl â dementia. Crëwyd hwn â grwpiau o bobl â dementia wedi'u hwyluso gan y Gymdeithas sy'n cwrdd i ddweud eu dweud ar faterion lleol a chenedlaethol.

‘Rydym yn parhau i siarad ag a gwrando ar bobl yr effeithir arnynt gan ddementia fel y gallant gael llais cryf yn ein cynlluniau,’ meddai Alison. ‘Mae disgwyliadau a phrofiadau cleifion yn ysgogi gwelliant ar draws ein gwasanaethau.

‘Rydym mor falch o’r effaith gadarnhaol mae ein gwaith yn ei chael ar bobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr.’
  

Dementia together magazine: Feb/Mar 19

Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now