Real stories
Ewch ymlaen: Y stori y tu ôl i’n hysbyseb deledu Taith Gerdded y Cof
Rydyn ni’n cwrdd â’r Ffrind Dementia sy’n serennu yn ein hysbysebion teledu ar gyfer Taith Gerdded y Cof i annog pobl eraill i brofi’r digwyddiad pleserus a boddhaus hwn.
Darllenwch y stori hon yn Saesneg
Dechreuodd teulu Claire gymryd rhan mewn Taith Gerdded y Cof ar ôl diagnosis ei mam yn 2013, ac mae effaith ei thro cerdded cyntaf wedi aros gyda hi.
‘Roeddwn i’n teimlo’n unig oherwydd nad yw dementia yn cael ei drafod fel canser neu glefyd y galon,’ meddai hi. ‘Ond wrth ymuno â Thaith Gerdded y Cof, rydych chi’n teimlo nad ydych chi ar eich pen eich hun.’
Bob hydref, mae miloedd o bobl yn uno mewn Teithiau Cerdded y Cof ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn ogystal â chodi miliynau ar gyfer ymchwil a chymorth, mae’n ffordd wych o ddod at eich gilydd dros yr achos.
‘Doeddwn i ddim yn siŵr iawn beth i’w ddisgwyl,’ meddai Claire, sydd bellach yn 44 oed ac yn Ffrind Dementia. ‘Ond fe wnes i gerdded i mewn i awyrgylch cadarnhaol, hapus a chyffrous iawn, a oedd yn anhygoel.’
Gwir bwysig
Mae mam Claire, Gill, yn byw yn ne Cymru ac roedd yn 69 oed pan gafodd hi ei diagnosio â Chlefyd Alzheimer, er i hyn gael ei newid yn ddiweddarach i ddementia cymysg - Alzheimer a dementia fasgwlaidd.
‘Mae Taith Gerdded y Cof wedi bod yn bwysig iawn i ni fel teulu,’ meddai Claire.
A hithau’n byw yn Llundain, roedd Claire wedi sylwi ar newid yn ei mam dros y ffôn cyn iddi ddod yn amlwg ei bod hi’n tynnu’n ôl o sgyrsiau a gweithgareddau dyddiol.
Ymunodd Gill a John â Theithiau Cerdded y Gof Abertawe am ddwy flynedd yn olynol, ac mae Claire a’i chwaer wedi cymryd rhan mewn rhai eraill.
‘Mae wedi bod yn bwysig iawn i ni fel teulu,’ meddai Claire.
Seren y teledu
Yn awyddus i gael pobl eraill i gymryd rhan, mae Claire yn serennu yn ein hysbysebion teledu ar gyfer Taith Gerdded y Cof. Mae hi’n dweud y bu ffilmio’r hysbyseb yn ddifyr iawn. ‘Roedd yn teimlo fel diwrnod difyr gyda ffrindiau.’
Gan ddefnyddio ei ffôn, dangosodd Claire yr hysbyseb i Gill, sydd wedi bod mewn gofal preswyl ers blwyddyn ac sydd bellach yn dweud ambell air yn unig.
‘Prin mae Mam wedi siarad ar yr ychydig ymweliadau diwethaf, ychydig iawn o ryngweithio neu adnabod sy’n digwydd.
‘Roedd hi’n edrych yn astud ar y sgrîn. Fe wnes i ddangos yr hysbyseb iddi hi yr ail dro, ac roedd hi’n ei hamgyffred hyd yn oed yn fwy.
‘Fe wnes i ofyn iddi hi a oedd hi’n ei hoffi a dywedodd,“ Ydw.” Roedd fel ei bod hi’n ei chymeradwyo i mi, fel peetai hi’n dweud, “Ewch ymlaen.”’
Dewch o hyd i’ch Taith Gerdded y Cof agosaf
Ewch i’n gwefan Taith Gerdded y Cof i ddod o hyd i daith gerdded yn eich ardal leol (yn Saesneg).