Real stories
Mae gwneud galwadau Companion Calls yn ffordd werthfawr i gefnogi pobl â dementia a gofalwyr
Mae Linda Davies yn Sir Gaerfyrddin yn dweud wrthym ni am wneud gwahaniaeth i bobl a effeithiwyd gan ddementia drwy fod yn wirfoddolwr ar gyfer Companion Calls.
Dechreuais wirfoddoli gyda Alzheimer’s Society am fy mod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl. Roedden nhw wedi fy nghefnogi pan oedd dementia fy mam wedi gwaethygu.
I ddechrau, roeddwn yn cadw mewn cysylltiad â phobl drwy ein gwasanaeth rheolaidd Dementia Connect. Yna, mewn ymateb i’r pandemig, dechreuom ni’r galwadau Companion Calls, a chefais hyfforddiant i fod yn wirfoddolwr Companion Calls.
Sgyrsiau wythnosol
Rwy’n siarad yn wythnosol gyda nifer o ofalwyr a phobl â dementia, i sicrhau eu bod yn iawn a gweld a oes ganddyn nhw unrhyw bryderon.
Os ydynt yn ofalwr ac yn ei chael yn anodd, buaswn yn cyfeirio hyn at fy rheolwr rôl yn y Gymdeithas i weld sut y gallant gael cefnogaeth ychwanegol. Rwy’n siarad yn aml am bwysigrwydd gofalwyr yn gofalu amdanynt eu hunain hefyd.
Os ydw i’n siarad â’r person â dementia, rwy’n ceisio gweld eu bod yn iawn, yn ofidus neu’n ofnus, yn gynnes neu’n oer, neu a ydynt wedi bwyta’r diwrnod hwnnw neu fod ganddynt rywun sy’n dod a bwyd iddynt (mae rhai’n byw ar eu pennau eu hunain a does dim gofalwyr yn galw i weld pawb).
Rwy’n siarad â nhw am yr hyn maent yn hoffi ei weld ar y teledu, beth maen nhw’n hoffi ei wneud.
Rwy’n rhannu unrhyw bryderon gyda fy rheolwr rôl, fel y gallwn sicrhau bod y person dan sylw yn cael unrhyw gefnogaeth arall sydd ei angen arnynt Rwy’n cael galwadau misol drwy Zoom gyda fy rheolwr. Mae hi’n aml yn anfon e-bost ataf i weld a ydw i’n iawn, ac yn rhoi adborth cyson i fi ynghylch sut rydw i’n gwneud gyda’r rhai rwy’n eu galw.
Gwerth chweil a hanfodol
Yr her bennaf i fi yw ei fod yn fy atgoffa o’r adeg roeddwn yn gofalu am fy Mam. Roedd yn gyfnod anodd iawn ac, ar y dechrau, doeddwn i ddim yn gwybod digon am sut mae dementia yn effeithio ar y person a’r teulu cyfan. Fodd bynnag, mae gwybod fy mod yn helpu eraill yn yr amgylchiadau roedden ni ynddyn nhw yn rhoi boddhad i fi.
Roedd rhoi galwad gyfeillgar i bobl yn hanfodol yn ystod pandemig, pan mae pobl wedi bod mor ynysig. Rwy’n creu cydberthynas â nhw ac rydyn ni’n cael ychydig o hwyl. Rwy’n eu calonogi drwy ddweud wrthyn nhw nad ydynt ar eu pennau eu hunain.
Yn ystod sgwrs 10 munud efallai eich bod wedi siarad â rhywun nad yw’n siarad ag unrhyw un arall gydol y dydd. Mae rhai nad ydynt yn gweld unrhyw un drwy’r wythnos nac yn mynd allan.
Os ydych chi erioed wedi eisiau gwneud gwahaniaeth a bod gennych awr neu ddwy i’w sbario bob wythnos, buaswn i’n argymell bod yn wirfoddolwr Companion Calls – cewch eich synnu o ddeall y boddhad byddwch yn ei deimlo!
Gwirfoddolwr
Dysgwch fwy am fod yn wirfoddolwr Companion Calls – e-bostiwch [email protected] heddiw.