Gall diffyg gwasanaethau arbenigol adael person â dementia ar wahân i’w gymuned

Mae Samia Egeh yng Nghaerdydd yn rhwystredig oherwydd diffyg gwasanaethau diwylliannol briodol i’w thad, sydd â dementia fasgwlaidd.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

‘Rwy’n gweld pa gymorth sydd ar gael i eraill, ac mae’n drist iawn nad yw yno i Dad,’ meddai Samia Egeh, y cafodd ei thad Ali ddiagnosis o ddementia fasgwlaidd tua 10 mlynedd yn ôl. 

Magwyd Ali yn Somaliland – rhanbarth ymreolaethol o Somalia yn nwyrain Affrica – cyn symud i Gaerdydd yn ei arddegau, lle mae’n dal i fyw. 

Bellach mae’n well ganddo gyfathrebu yn yr iaith Somalieg, ond dywed Samia nad oes unrhyw wasanaethau lleol sy’n diwallu ei anghenion diwylliannol. Mae hyn yn ei adael wedi’i dorri i ffwrdd o gymuned – fel rhan ohoni, roedd yn ffynnu o’r blaen.

‘Byddai’n braf pe gallai elwa ar wasanaethau,’ meddai Samia. ‘Rwy’n meddwl ei bod yn annheg bod rhywun sydd wedi cyfrannu a thalu trethi nawr yn methu â chael dim byd yn ôl.’ 

Samia Egeh

Mae Samia yn galw ar y rhai sydd mewn grym i wrando ar leisiau’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. 

‘Maen nhw wedi cael gwybod drosodd a throsodd, mae adroddiadau wedi’u gwneud – rydw i wedi cymryd rhan mewn cymaint o bethau, mae’n eich blino chi. Ac nid ydym yn cael ein clywed o hyd,’ meddai. 

‘Dyma neges i Lywodraeth Cymru roi arian ar eu gair.’ 

Cariadus ac addfwyn 

Daeth Ali, sydd bellach yn 83, i Gymru gyntaf i ymuno ag aelod o’r teulu a oedd eisoes yn y wlad. 

‘Roedd fy nhad o deulu dosbarth gweithiol – roedd gan ei dad fywyd eithaf caled,’ meddai Samia. ‘Dechreuodd dad weithio yn syth, yn golchi llestri mewn bwytai. Bu ganddo lawer o swyddi gwahanol, swyddi caled, fel gweithio mewn gwaith dur.’ 

Aeth Ali i’r coleg ond nid i’r brifysgol, gan ei fod yn teimlo mai cefnogi ei deulu ddylai fod yn flaenoriaeth. 

‘Roedd yn gwybod eu bod yn ei chael hi’n anodd, felly roedd am eu helpu’n ariannol,’ meddai Samia. ‘Roedd yn arfer cael ei dalu £21 a dywedodd wrthyf ei fod yn gwario saith, cynilo saith a rhoi saith i’w deulu.’ 

Mae Samia, sy’n un o bedwar o frodyr a chwiorydd, yn disgrifio ei thad fel un sy’n gweithio’n galed, yn gariadus ac yn addfwyn. 

‘Doedd e ddim eisiau i ni fynd trwy’r hyn aeth drwyddo, felly fe sicrhaodd ein bod ni’n cael bywyd da,’ meddai. 

Old pictures of Ali and Samia's family

Yn ddyn balch a oedd bob amser yn hoffi edrych yn smart, roedd Ali wrth ei fodd yn cerdded a natur, yn ogystal â chwarae cardiau a gwneud croeseiriau. Roedd hefyd yn gysylltiedig iawn â’i gymuned ac eisiau i’w blant brofi cydbwysedd o ddiwylliant Somalieg, Cymreig a Phrydeinig. 

‘Roedd bob amser yn ein hyrwyddo fel dinasyddion parchus,’ meddai Samia. ‘Roedd yn wir yn credu yn ei deulu, ac rydym yn falch iawn ohono.’ 

Colli hyder 

Tua 10 mlynedd yn ôl, cafodd Ali ddwy strôc. Arweiniodd hyn at sgan CT ar yr ymennydd ac ymweliad gan y gwasanaeth cof, a diagnosis o ddementia fasgwlaidd. 

‘Roedden ni wedi sylweddoli ei fod yn mynd yn anghofus, ac yn dechrau colli hyder,’ meddai Samia. ‘Roedd wedi bod yn berson allblyg, byrlymus erioed ond dechreuodd beidio bod eisiau gweld pobl, oherwydd roedd yn teimlo embaras o’u hanghofio. 

‘Ar y dechrau fe wnaethon ni i gyd ddal ati. Roeddem ni’n eithaf anwybodus ein hunain a doedden ni ddim yn gwybod llawer am ddementia na sut i ddelio ag ef, felly wnaethon ni ddim.’ 

Yn dilyn diagnosis Ali, gwellodd Samia ei dealltwriaeth o’r cyflwr. 

‘Es i ar hyfforddiant a hyd yn oed newid swyddi i weithio gyda phobl hŷn,’ meddai. ‘Roeddwn i eisiau ceisio sicrhau bod fy nhad yn cael gwell ansawdd bywyd.’ 

Picture of Ali on Samia's phone

Fodd bynnag, nid yw Samia wedi cael ei phlesio gan rywfaint o’r gefnogaeth broffesiynol a gynigiwyd i Ali a’r teulu. 

‘Ymwelodd nyrs dementia ar gyfer ei feddyginiaeth. Un ymweliad oedd hwnnw a dyna ni, a chefais dipyn o sioc am hynny,’ meddai. 

Awgrymwyd pecyn gofal, gan gynnwys ymweliadau cartref, ar gyfer Ali, ond teimlai Samia fod yr ymweliadau hyn yn rhy fyr i fod o unrhyw fudd gwirioneddol i’w thad. 

‘Mae ganddo anghenion diwylliannol a chrefyddol i’w diwallu, a rhai cysuron cartref sy’n hanfodol iawn, felly byddai angen iddynt fod yn ymweliadau hirach, hyd yn oed os nad ydynt mor aml,’ meddai. 

Gwasanaethau arbenigol 

Mae Samia hefyd yn gofidio bod diffyg gwasanaethau lleol sy’n ddiwylliannol briodol wedi gadael Ali wedi ei ynysu’n gymdeithasol. 

‘Roedd dad yn arfer mwynhau gweld ei ffrindiau a phobl yn y gymuned, neu hyd yn oed dim ond gwrando ar bobl yn siarad am yr hyn sy’n digwydd yn y gymuned,’ meddai. 

‘Mae eisiau siarad Somalieg a siarad am atgofion ei blentyndod, ond does yna ddim gwasanaethau wedi’u teilwra sy’n diwallu ei anghenion.’ 

Mae’r diffyg ysgogiad cymdeithasol a chysylltiad diwylliannol hwn wedi cael effaith negyddol ar y teulu cyfan. 

‘Mae wedi effeithio ar Dad yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mae’n golygu y bydd yn dirywio’n gynt,’ meddai Samia. ‘Mae’n drist ac yn ofidus iawn nad yw’n mynd allan, a dydy’r teulu ddim yn cael unrhyw seibiant chwaith.’ 

Mae Samia yn teimlo y gellid gwneud llawer mwy i wella’r sefyllfa, drwy ddatblygu gwasanaethau arbenigol. 

‘Hoffwn weld caffi cof gyda gwahanol weithgareddau. Gallech gael clwb cinio neu wneud gwaith pontio’r cenedlaethau gydag ysgolion. Gallech gael arbenigwyr yn dod i mewn i roi awgrymiadau am fwyd neu fwyta, i helpu i wneud yn siŵr bod llesiant pobl yn cael sylw. 

‘Unwaith y byddwch chi’n meithrin perthnasoedd, gallwch chi weld beth mae’r bobl yn ei fwynhau a beth yw eu hanghenion. Gallai hyd yn oed fod o dan yr un to â gwasanaethau presennol. 

‘Byddai o fudd i Dad yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol. Byddai’n gweld pobl a byddai’n hapusach, gyda gwell ansawdd bywyd.’ 

Samia looking at a photo album

Cyrraedd pawb 

Mae Samia yn credu y dylid gwneud mwy i gefnogi pobl fel ei thad. 

‘Pam mae pobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill yn cael eu trin yn wahanol?Mae gennym ni’r un hawliau â phawb arall. Pam nad ydyn nhw’n dod allan i’n cyrraedd ni?’ meddai. 

‘Mae yna ddiffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth. Nid yw rhywun fel Dad yn cael ei gydnabod na’i gynrychioli – mae’n cael ei anwybyddu’n llwyr. Yn amlwg does dim ots ganddyn nhw. Mae’n eithaf ffiaidd, a dweud y gwir.’ 

Nid yn unig ei thad y mae Samia yn poeni amdano, ond hefyd eraill a all fod mewn sefyllfa debyg neu waeth. 

‘Rwy’n siŵr nad ydym yn achos ynysig,’ meddai. ‘Mae mam yn ei helpu, ac rydyn ni’n ei gefnogi – mae gennym ni system. Ond beth am y rhai sydd ddim mewn sefyllfa mor ffafriol? Dwi wir yn poeni amdanyn nhw. 

‘Ar ryw adeg mae dementia yn mynd i effeithio arnom ni i gyd. Rwyf am godi ymwybyddiaeth a sicrhau bod y neges yn cyrraedd pawb.’ 

A boed hynny yn ei bywyd proffesiynol neu bersonol, bydd Samia yn parhau i eirioli dros bobl hŷn. 

‘Maen nhw wedi gwneud cymaint,’ meddai. ‘Oni bai amdanyn nhw, fydden ni ddim pwy ydyn ni.’ 

Adnoddau hygyrch

Ein gwybodaeth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys cyfieithiadau, Hawdd eu Darllen, BSL, sain a fideo.

Darganfyddwch fwy

Dementia together magazine

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories