‘Dawnsio yn erbyn dementia’ – cymryd camau i fyw’n dda gyda dementia cymysg

Mae Graham Bond yng Nghydweli, 74 oed, yn rhannu’r hyn y mae’n ei wneud i fyw cystal â phosibl gyda dementia cymysg.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Dwi’n cael trafferth cadw gwybodaeth. Dwi newydd fod yn darllen cylchgrawn Dementia Together, ond dwi’n cofio dim.

Yn yr ardd, byddaf yn dod o hyd i rhaw drannoeth, lle dwi wedi hanner gwneud tasg a’i gadael. 

Fe wn am ffaith fy mod i yno ar gyfer genedigaethau dau o’m plant, ond mae wedi mynd yn gyfan gwbl. Mae’n ymddangos bod gennyf fwlch, sy’n fy ngwylltio. 

Graham Bond

Dim seibiant 

Dwi’n byw gyda Barry, sef fy ngofalwr di-dâl. Yn ffodus, roedd yno pan gefais ddiagnosis; fel arall byddwn wedi mynd i ddarnau. 

Dwi wedi gorfod rhoi’r gorau i goginio ac maen nhw hefyd wedi tynnu fy nhrwydded yrru oddi arnaf, felly mae Barry yn mynd â fi i bobman.

Mae’n hapus iawn i wneud y cyfan, ond dwi’n teimlo’n ddrwg am ddibynnu arno gymaint gan nad yw’n cael unrhyw seibiant. Ond dwi’n ddigymorth hebddo. 

Dwi wir yn teimlo dros y bobl hyn sydd â dementia ar eu pen eu hunain – mae’n rhaid bod hynny’n hunllef go iawn. 

Dwi’n brwydro yn erbyn y dementia, ond dwi’n poeni am waethygu a sut y byddai Barry yn ymdopi. Pan es i i’r ysbyty, gwelais bobl ymhellach i lawr y lón. Dwi’n ofni hynny’n fawr, a dweud y gwir, a’r pwysau y bydd yn ei roi ar Barry. 

Rhoi yn ôl 

Pan gefais i ddiagnosis, roedd yr Alzheimer Society yn anhygoel. Fe wnaethon nhw fy helpu gyda phŵer atwrnai, a hyd yn oed helpu i archebu trên ar gyfer fy ngwyliau. 

Fe wnaethon nhw hefyd fy rhoi mewn cysylltiad â gwirfoddolwr o’r enw Gary – mae’n wych, yn ddyn hyfryd. Rydym yn cyfnewid gwybodaeth a negeseuon testun am arddio. Cawsom alwadau ffôn yn ystod COVID ond nawr gallwn gwrdd wyneb yn wyneb. 

Fe wnes i hefyd rai sgyrsiau i bobl sy’n meddwl am adael rhywbeth yn eu hewyllys, gan siarad am sut mae’r Alzheimer Society wedi fy helpu. Doeddwn i erioed wedi siarad ar lwyfan o’r blaen, ond roeddwn i wrth fy modd! Os gallaf wneud unrhyw beth o gwbl i roi rhywbeth yn ôl, fe wnaf. 

Dwi’n mynd i’r grŵp Elevenses wythnosol yn Llanelli, sy’n cael ei redeg gan People Speak Up, lle gallwch chi sgwrsio am unrhyw broblemau. Rydyn ni hefyd wedi bod yn mynd i grŵp o’r enw Tŷ Golau bob wythnos ers blwyddyn mwy na thebyg. Mae’n cael ei redeg gan ddynes ryfeddol o’r enw Jan a’i chriw hyfryd o wirfoddolwyr. Mae’n ddefnyddiol iawn ac rydym wrth ein bodd yn mynychu. 

Dawnsio a garddio 

Mae dawnsio llinell yn fy nghadw i fynd – dwi wrth fy modd! Oherwydd bod yn rhaid i mi gofio’r camau, dwi’n siŵr mai dyna sy’n cadw fy ymennydd i fynd. Dwi’n ei alw’n ddawnsio yn erbyn dementia.

Hyd yn oed pan dwi gartref, dwi’n rhoi’r dawnsiau ar YouTube ac yn cael ymarfer yn yr ystafell fyw. Baswn i’n gallu dawnsio drwy’r nos! 

Fy angerdd arall yw garddio. Mae’n therapi gwych ac mae fy holl broblemau’n diflannu pan fyddaf yn yr ardd. 

Dementia Voice

Darganfyddwch sut y gallwch chi ddefnyddio eich profiad o ddementia i helpu i siapio ein gwaith ni a gwaith pobl eraill.

Darganfyddwch fwy

Dementia together magazine

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories