Gwybodaeth am ddementia yn Gymraeg

Rydyn ni'n cynhyrchu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth dementia ar-lein ac wedi ei argraffu trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Adnoddau dementia yn Gymraeg

Dyma fi / This is me (dwyieithog – Cymraeg a Saesneg)

Mae 'Dyma fi' yn daflen syml ar gyfer unrhyw un sy'n derbyn gofal proffesiynol sy'n byw gyda dementia neu’n profi deliriwm neu anawsterau cyfathrebu eraill.

Darllenwch Dyma fi ar-lein / Lawrlwytho fersiwn i’w argraffu

Y canllaw dementia

Mae 'Y canllaw dementia' ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael gwybod yn ddiweddar bod dementia arnynt. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i ffrindiau a theulu rhywun sydd wedi cael diagnosis diweddar. 

Darllenwch Y canllaw dementia ar-lein / Lawrlwytho fersiwn i’w argraffu

Dalenni ffeithiau yn Gymraeg

Copïau wedi eu hargraffu o wybodaeth yn Gymraeg

Gallwch ofyn i gael derbyn copi am ddim, wedi ei argraffu o'n gwybodaeth trwy ein ffurflen ar-lein. Neu, i archebu nifer o gopïau, anfonwch e-bost (yn Saesneg) at [email protected]

Copïau unigol Copïau lluosog

Cefnogaeth yn Gymraeg

Cysylltwch â’n llinell gymorth Dementia Connect:

Bydd ein cynghorwyr dementia yn gwrando ac yn cynnig cefnogaeth a chyngor i chi, gan eich rhoi mewn cysylltiad â’r cymorth rydych ei angen. 

Straeon ac erthyglau am ddementia yn Gymraeg

Rydym yn cyhoeddi straeon ac erthyglau yn Gymraeg o bob rhifyn o'n cylchgrawn, Dementia together. 

Gallwch weld yr holl erthyglau ac adnoddau diweddaraf yn Gymraeg o’n tudalen Gymraeg