Dementia a’r pandemig: Cadw fy ymennydd i weithio yn ystod y cyfnod clo
Mae Jim Ibell, Hyrwyddwr Ffrindiau Dementia yng ngogledd Cymru, yn 77 oed ac mae ganddo Alzheimer. Mae’n rhannu sut mae wedi cadw’n brysur yn ystod y cyfnod clo.
Darllenwch y stori hon yn Saesneg
Rwy’n byw mewn pentref bach yng Nglannau Dyfrdwy Sir y Fflint. Mae wedi bod yn eithaf caled yn y pandemig, methu â mynd allan i gwrdd â phobl – mae hynny’n rhan fawr o gadw fy ymennydd i weithio, nid yn unig i mi ond i bawb sy’n byw gyda dementia.
Croesi bysedd, trwy gadw at y rheolau, gallai fod drosodd yn fuan.
Cyswllt teuluol
Rwy’n credu mai un o’r rhannau gwaethaf o’r cyfnod clo yw peidio cael cysylltiad â fy nheulu, yn enwedig fy ngor-wyres. Mae hi’n bump oed a byddem ni’n chwarae ac yn mynd am dro, mae hi wir yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed. Rwy’n dal i’w gweld pan fyddwn ni i gyd yn sgwrsio ar FaceTime a’r teulu i gyd yn cadw mewn cysylltiad ar y ffôn. Nid yw’r un peth, ond bydd yn rhaid iddo wneud am y tro.
Yn ystod y pandemig, mae Alzheimer’s Society Cymru wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â mi ar y ffôn i ofyn a yw popeth yn iawn a gofyn a allant helpu mewn unrhyw ffordd, ond hyd yn hyn rydym wedi ymdopi’n iawn gyda chymorth teulu.
Alzheimer’s Society Cymru oedd yr unig rai, gan gynnwys y proffesiwn meddygol, a helpodd fi trwy fy nementia ar y dechrau. Fe wnaeth eu help fy nghodi o dwll dwfn iawn roeddwn i ynddo. Roeddwn i’n meddwl nad oedd unrhyw ffordd allan, ac roedd rhoi’r holl gefnogaeth a roddon nhw i mi wedi dod â mi yn ôl at y person rydw i heddiw.
Zoom, Zoom, Zoom
Ers mis Mawrth 2020, rwyf wedi cadw’n brysur trwy wneud llawer o gyfarfodydd Zoom – rwyf wedi eistedd ar wahanol baneli ac wedi gwneud sesiynau holi ac ateb, a hefyd wedi gwneud dros 400 yn fwy o Ffrindiau Dementia, ynghyd â gweithio gyda Gweithgor Dementia y 3 Gwlad a DEEP (y Prosiect Ymgysylltu a Grymuso Dementia)… felly ydw, dwi wedi cadw fy hun yn eithaf prysur! Mae’r mwyafrif o’r rhain yn wythnosol, weithiau ddwywaith yr wythnos.
Rwyf bob amser yn credu y bydd pob Ffrind Dementia rwy’n ei wneud yn helpu i gael y gair allan o sut beth yw byw gyda dementia.
Trwy wneud hyn, mae’n helpu pobl sydd newydd gael diagnosis – a phobl eraill y byddant yn siarad â nhw – i ddeall ychydig am ddementia. Dwi bob amser yn dweud bod gwybod ychydig am ddementia yn well na gwybod dim byd o gwbl.
Ymunais â Gweithgor Dementia y 3 Gwlad am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2020. Es i ar wyliau am Chwefror i gyd a dod yn ôl ym mis Mawrth, mewn pryd i groesawu’r cyfnod clo! Rwy’n gwneud cymaint o gyfarfodydd Zoom gyda nhw, ni allaf eu cofio i gyd, ond ni fyddwn hebddyn nhw – maen nhw’n sicr yn cadw fy ymennydd yn brysur.
Sicrwydd brechlyn
Pan gefais yr hysbysiad i gael fy mrechiad COVID, roeddwn yn eithaf gofidus. Ond pan euthum roedd y staff yn barod iawn i helpu ac yn tawelu fy meddwl ar unwaith. Byddwn yn ei argymell i bawb, ac rwy’n edrych ymlaen at fy ail un i gael gorffen â’r cyfan.
Pan ddywedwyd wrthym am y brechlyn roeddwn yn falch iawn. Roeddwn i’n meddwl po gyntaf y bydd pawb wedi ei gael, y cynharaf y bydd y pandemig hwn drosodd. Nid ydym am i hyn fod o gwmpas y flwyddyn nesaf.
Mae angen eich help arnom
Ni allwn gadw ein llinellau ffôn ar agor na rheoli’r cynnydd yn y galw am ein gwasanaethau heb gymorth ariannol ar frys. Cyfrannwch heddiw – gyda’ch help chi, gallwn ni ddangos i bobl sy’n byw gyda dementia nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.