Trying out HUG

Mae’r bobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia yn rhoi cynnig ar HUG – cwtsh meddal, cysurlon

Mae ein panel yn edrych ar gysurwr sydd wedi’i ddatblygu’n arbennig ac sydd wedi’i gynllunio i wneud i chi deimlo fel eich bod yn cael eich cofleidio.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Fe wnaethon ni ymweld â grŵp o bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia yng Nghasnewydd, de Cymru, i ddangos cynnyrch iddynt o HUG gan LAUGH, cwmni a sefydlwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. 

Roedd grŵp lleol Dementia Voice newydd ddechrau cyfarfod yn bersonol eto, gan rannu eu barn i ddylanwadu ar ein gwaith ni ac eraill. 

Roeddem am wybod beth oedd eu barn am HUG – cysurwr meddal y mae ymchwil yn dangos ei fod yn gallu lleihau gorbryder unigolyn a hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol. 

Mae partneriaeth â Rhaglen Cyflymydd y Gymdeithas yn sicrhau bod HUG ar gael i fwy o bobl, gan gynnwys trwy ein siop ar-lein. 

Ymateb uniongyrchol 

Dyluniwyd HUG i gael ei gofleidio, gydag aelodau â phwysau a chorff meddal sy’n cynnwys dyfais sy’n chwarae curiad calon a’ch cerddoriaeth eich hun. 

Fe gafodd pawb yn y grŵp gyfle i roi cynnig ar HUG, ac roedd eu hymatebion yn uniongyrchol.  

‘Mae fel dal babi,’ meddai Mike, a oedd wedi dechrau anwesu ei HUG ar ei gefn yn awtomatig. 

‘Mae’n reddf,’ meddai Linda, a oedd wedi gwneud yr un peth â’i HUG hi. 

‘Mae mor gysurus, cysurus iawn,’ ychwanegodd hi. ‘Rwy’n hoffi’r ffordd y gallwch chi ollwng gafael ac mae’n eich cofleidio.’ 

Er gwaethaf y breichiau â phwysau, cafodd Ian ei synnu gan ba mor ysgafn yr oedd ei HUG yn teimlo, ‘Dydy e ddim yn drwm iawn, ydy e?’ 

Gallai Mike weld ar unwaith faint y gallai ei dawelu i ddal HUG, yn arbennig gyda’r curiad calon a’i hoff ganeuon yn chwarae. 

‘Os oeddech chi dan straen, gallwch chi wrando ar y gerddoriaeth,’ meddai.

Trying out HUG

Rydych chi’n defnyddio cysylltiad USB i lwytho’ch cerddoriaeth eich hun ar chwaraewr HUG, a gallwch chi addasu dwyster y curiad calon ac uchder y gerddoriaeth fel ei fod i’r dim ar gyfer y sawl sy’n ei ddefnyddio.

Mae HUG hefyd yn dod â manylion am Rhestr Chwarae am Oes, a all eich helpu i greu rhestr chwarae wedi’i phersonoli am ddim. 

Wrth feddwl am rywun nad oedd wedi gallu gweld ymwelwyr oherwydd COVID, dywedodd Shirley, ‘Gallech chi gael neges wedi’i hanfon oddi wrth eu hwyrion a chwarae honno.’ 

Awgrymodd aelodau’r grŵp lawer o bobl eraill a allai elwa o HUG, gan gynnwys plant sy’n awtistig. 

‘Cwtsh’ 

Roedd Adele o’r farn y byddai’n well ganddi hi pe byddai breichiau ei HUG yn cysylltu y tu ôl i’w gwddf, gan ddefnyddio’r gair Cymraeg atgofus am gofleidiad arbennig o gynnes i fynegi’r hyn roedd hi’n ei olygu. 

‘Hoffwn i gael felcro i gadw ei ddwylo gyda’i gilydd – mae hynny’n gyffyrddus, dyna beth yw “cwtsh”.’ 

Er bod ei ddylunwyr wedi penderfynu peidio â chysylltu dwylo’r HUG fel na fyddai’n gyfyngol, dywedon nhw y bydden nhw’n edrych ar sut y gallen nhw eu cysylltu ond iddyn nhw ddal i gael eu tynnu oddi wrth ei gilydd yn ddiogel ac yn hawdd. 

Mae HUG yn lliw llwydwyn cynnes gyda theimlad mwy fflwffog i’w ben, ac roedd gan aelodau’r grŵp lawer o syniadau ar gyfer lliwiau a gweadau eraill. 

Dywedodd Adele, ‘Hoffwn iddo fod yn oren, oherwydd oren yw fy lliw hapus!’ 

‘Byddai gweadau gwahanol yn braf,’ meddai Linda, ac awgrymodd Ian ledr golchadwy. 

Ychwanegodd Adele, ‘Hoffwn i i’r hyn sydd ar ei ben fod yma hefyd,’ gan dynnu sylw at ble roedd ei llaw yn gorwedd ar ei gefn.  

Roedd Shirley o’r farn y byddai poced gyda gweadau gwahanol y tu mewn yn ddiddorol i’r person sy’n dal HUG ei deimlo. 

‘Fel mewn myff troi,’ esboniodd hi, ‘gyda rhubanau, pompoms, toglau a botymau.’ 

Trying out HUG

Mor syml 

Wrth edrych ar y daflen gyfarwyddiadau a ddaw gyda HUG, dywedodd Adele ac Ian y dylai’r testun fod yn fwy o ran maint. Roedd y grŵp yn hoffi’r syniad o ddarllen y cyfarwyddiadau ar-lein, lle gallwch chi addasu maint y testun, gan gynnwys defnyddio cod QR i’w cyrchu. Roedden nhw hefyd o’r farn y gallai fideo ar-lein fod yn ddefnyddiol. 

Roedd Ian o’r farn bod y gwefrydd yn edrych fel un y byddech chi’n ei gael gyda dril diwifr. Mae’n cymryd pedair awr am wefr lawn, sy’n parhau am oddeutu dau ddiwrnod. 

Fe daw HUG gyda bag rhwyll i’w olchi mewn peiriant golchi, ar ôl tynnu’r ddyfais electronig a chlustog fewnol, ac yna gellir ei sychu mewn aer. 

Croesawodd aelodau’r grŵp y syniad y gallwch noddi HUG i rywun arall, gan na fyddai rhai pobl yn gallu ei fforddio fel arall. 

Ar y cyfan, roedd ein panel wrth eu bodd gyda’u HUGs. 

‘Dw i wir ddim am adael iddo fynd!’ meddai Adele. 

‘Mae wedi gostwng cyfradd fy nghalon,’ ychwanegodd Linda. 

‘Mae’n wych,’ cytunodd Ian. ‘Rhywbeth mor syml, ond maen nhw’n dweud mai’r pethau syml sy’n gwneud gwahaniaeth, onid ydyn nhw?’ 

Pris (yn gywir ym mis Rhagfyr 2021):

  • Mae HUG yn £125 a TAW hefyd (fel gyda rhai cynhyrchion eraill sydd wedi’u cynllunio’n arbennig, does dim rhaid i chi dalu TAW os ydyn nhw i’w defnyddio gan berson â dementia).
Cynhyrchion bob dydd defnyddiol

Mae gennym ystod eang o gynhyrchion sydd wedi’u cynllunio i helpu pobl â dementia a’u gofalwyr i fod yn fwy cysurus yn eu cartrefi, wrth gefnogi annibyniaeth a diogelwch.

Pori ein siop

Mae ein siop ar-lein yn cynnig llawer o gynhyrchion sydd wedi’u cynllunio i helpu pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia i fyw’n dda gartref.

Nid oes rhaid i chi dalu TAW ar lawer o gymhorthion byw bob dydd os ydyn nhw i’w defnyddio gan berson â dementia neu gyflwr arall – ticiwch y blwch gan nodi eich bod chi’n gymwys i gael rhyddhad TAW wrth y ddesg dalu.

Dementia together magazine

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now