Dathlu Elf Day mewn gwasanaeth sy’n cefnogi pobl gartref

Mae Courtney Jones yng ngogledd Cymru yn cofio’r llawenydd ddaeth Elf Day i gydweithwyr a’r bobl maent yn eu cefnogi.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Dwi’n Gynorthwyydd Gweinyddol/Cydlynydd Gofal yn Liberty Care yn Sir y Fflint. Rydym yn darparu gofal i oedolion sydd angen cefnogaeth gartref, gan gynnwys gofal arbenigol i bobl â dementia. 

Fe welsom ni nodyn am Elf Day ar grŵp Facebook Alzheimer’s Society llynedd, a’i roi ar ein grŵp sgwrs ein hunain. Roedd pawb yn barod i fynd amdano, roedd pobl yn neidio at y cyfle, yn cynnig awgrymiadau – roedd pob un am gymryd rhan!

Elf Day at Liberty Care Flintshire

Courtney (ar y dde) a chydweithwyr.

Fel teulu

Yn ystod y cyfnod clo, gwelsom ni gynnydd enfawr yn y bobl oedd yn teimlo ynysig ac unig, heb weld eu teuluoedd.

Mae gan tua 70% o’n cleientiaid dementia, ac mae ein gofalwyr yn hoff iawn ohonyn – maent mwy fel teulu. 

Mae Alzheimer’s Society yn golygu llawer i fi hefyd, gan fod gan fy Mam-gu Ffrith hyfryd dementia.

Mae wedi bod yn broses araf iddi hi, ac i’n cleientiaid â dementia. Y diagnosis cychwynnol yn gyntaf, ac mae’n anodd meddwl am beth sydd nesaf – byddwch yn sylwi ar ddirywiad.

Un diwrnod byddwn yn mynd yno a byddai mam-gu yn fy nghofio ac yn siarad am yr hen ddyddiau. Yna byddwn yn mynd i baratoi paned o de a byddai hi’n gofyn, ‘Pwy ydych chi?’

Mae wedi effeithio arnaf fi ac aelodau eraill o’n teulu. 

Mae’n fuddiol bod yn gadarnhaol, ac rydym am ledaenu hyn. 

Diwrnod llawn hwyl

Fe wnaethom ychydig o bethau ar gyfer Elf Day, er ein bod wedi’n cyfyngu oherwydd y pandemig. Roedd staff wedi gwisgo fel coblynnod wrth ymweld â chleientiaid. Roedden nhw chwerthin yn iach pan fyddai’r staff yn cerdded mewn!

Roedd cydweithiwr wedi gwneud tua 30 bocs o gacennau ar thema coblynnod; bocs o 12 am £6. Roedd ‘da ni Secret Santa a Dyfalwch yr Enw hefyd a’r wobr oedd tegan coblyn mawr iawn; roedd 40 enw i ddewis ohonynt, ar thema Nadoligaidd.

Codwyd dros £500, ac roedd cleientiaid wedi cynnig rhoddion hefyd – mae Alzheimer’s Society yn achos da sydd wedi eu helpu yn y gorffennol.

Roedd yn ddiwrnod hwyliog iawn, mor wahanol i’r hyn roeddem wedi ei brofi’r flwyddyn gynt. Y tro nesaf rydym am ei wneud yn fwy o faint a hyd yn oed yn well!

Cymerwch ran yn Elf Day

Rhyddhewch eich coblyn mewnol ar gyfer Elf Day ar 3 Rhagfyr 2021 neu ar ddyddiad arall sy’n gyfleus i chi. 

Cofrestrwch nawr ar gyfer Elf Day
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories