C&A: Ian Boyd, sy’n byw gydag Alzheimer’s cynnar a dementia fasgwlaidd

Mae Ian Boyd, dyn 61 oed yng Ngwent sy’n byw gydag Alzheimer’s cynnar a dementia fasgwlaidd, yn ateb ein cwestiynau.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Beth sydd wedi newid fwyaf ers eich diagnosis? 

Cefais y diagnosis pan yn 57, a nawr rwy’n 61. Roeddwn yn benderfynol nad hyn oedd y diwedd, ond y byddai rhaid i mi addasu fy mywyd o gwmpas y diagnosis hwn.

Mae rhai pethau wedi bod yn anodd, fel colli hyder pan wyf allan ar fy mhen fy hun, ond rwy’n ymdopi â’m trefn fach fy hun. 

Yn ogystal, ers y diagnosis rwyf wedi dod yn aelod gweithredol o grŵp dementia, yn cyfarfod yn fisol ac yn cysylltu â sefydliadau gwahanol i helpu cynyddu ymwybyddiaeth o ddementia. 

Ian Boyd

Beth fyddech chi’n ei gymryd i’ch ynys anghyfannedd? 

Buaswn yn mynd a CDs Jim Reeves a The Seekers – cerddoriaeth retro iawn, sy’n fy helpu i ymlacio. 

Llyfr ar rygbi’r gynghrair Wigan, fy hoff dîm a’m hoff gêm. Er fy mod o Gymru mae’n well gen i rygbi’r gynghrair na rygbi’r undeb.

Buaswn yn mynd â’m bocs offer hefyd gan fy mod wrth fy modd yn stwna ac yn gwneud pethau. 

Sut mae Alzheimer’s Society wedi’ch helpu chi? 

Roedd gen i wirfoddolwr oedd yn ymweld am ddwy awr yr wythnos, yn mynd i leoedd gwahanol. Roedd hyn yn wych, gan ei fod yn helpu fy hyder ac yn helpu fy nheulu hefyd. 

Mae’r grŵp Dementia Voice rwy’n perthyn iddo hefyd wedi fy helpu i adfer fy hyder wrth siarad mewn grwpiau a chwrdd â phobl sydd hefyd wedi cael diagnosis cynnar, fel fi. 

Pa gân neu dôn sy’n crynhoi eich bywyd hyd yn hyn? 

Welcome to My World gan Jim Reeves, gan nad yw’n lle mor ddrwg wedi’r cyfan. Er gwaethaf popeth, mae bywyd yno i’w fyw. 

Pa un peth fyddai’n gwella ansawdd eich bywyd? 

Cael fy ngwirfoddolwr yn ôl am ddwy awr yr wythnos, gan fod hyn mwy fel cwrdd â ffrind. Pan fyddwn yn mynd adref, byddwn yn cofio’r pethau roedden ni wedi eu gwneud a’r pethau roeddwn ni wedi siarad amdanynt; roedd hyn yn helpu fy ngweithrediad gwybyddol. 

Pe gallech chi fynd yn ôl mewn amser, ble fyddech chi’n mynd? 

Buaswn i’n mynd yn ôl i’r canol oesoedd a gweld sut roedden nhw’n codi cestyll, eglwysi ac ati. 

Mae gen i ddiddordeb yn y ffordd roedd strwythurau godidog fel y rhain yn cael eu codi, sut roedden nhw’n gweithio, yr offer a’r deunyddiau oedd ar gael a sut roedd y rhain yn gweithio. 

Beth yn eich meddiant rydych yn ei drysori mwyaf? 

Fy nheulu, gan eu bod yn deall ac yn fy nghefnogi. 

Atebwch ein cwestiynau

Os oes gennych chi ddementia ac yr hoffech ateb ein cwestiynau ar gyfer erthygl yn y dyfodol, neu os ydych yn adnabod rhywun fyddai’n hoffi gwneud, rhowch wybod i ni drwy e-bost.

E-bostiwch ni

Dementia together magazine

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now