C ac A: Diana Carmichael

Mae menyw â chlefyd Alzheimer yn Sir y Fflint, gogledd Cymru, yn ateb ein cwestiynau.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Diana Carmichael

Beth sydd wedi newid fwyaf ers eich diagnosis?

Dw i bellach yn fwy ymwybodol o’r problemau mae pobl eraill yn eu hwynebu a dw i’n teimlo y galla i eu helpu i addasu i’w sefyllfaoedd. Dw i’n ceisio eu codi, gadael iddyn nhw weld sut y gallan nhw ddod allan ohono.

Beth fyddech chi’n ei gymryd i’ch ynys anghyfannedd?

Ffotograff o’r teulu, ynghyd â chyswllt ar ffurf ffôn symudol! Hefyd, cadwyn am y gwddf a wnaeth un o fy wyresau i mi, o ddarnau o bren.

Sut mae Cymdeithas Alzheimer wedi’ch helpu chi?

Oherwydd y gwirfoddolwyr, y gweithgareddau a’r staff, galla i helpu pobl eraill i gael agwedd fwy cadarnhaol tuag at eu bywydau.

Pa gân neu dôn sy’n crynhoi eich bywyd hyd yn hyn?

Emyn fy mam pan oeddwn yn fach - O bresenoldeb tirion, heddwch, llawenydd a grym.

Pa un peth fyddai’n gwella ansawdd eich bywyd?

Mae fy ansawdd bywyd bob amser yn dda nawr, dw i’n deffro’n hapus a dw i’n mynd i’r gwely’n hapus!

Beth yn eich meddiant rydych yn ei drysori mwyaf? 

Fy ngŵr Clive a’n teulu gwerthfawr. Mae gennym ni bum plentyn a 10 o wyrion, ac rydyn ni yno bob amser i’n gilydd

Os oes gennych ddementia a hoffech chi ateb ein cwestiynau ar gyfer colofn yn y dyfodol, anfonwch e-bost atom ni.

Anfonwch e-bost atom ni

Dementia together magazine: Aug/Sept 17

Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for everyone in the dementia movement and anyone affected by the condition.
Subscribe now