Alzheimer's Society

Alzheimer's Society

Help support the Society

Accessibility settings | Advanced search

Colli'r cof mewn gorffwylledd

Os ydych yn gofalu am rywun sydd â gorffwylledd byddwch am ganfod ffyrdd i'w helpu i ddygymod â phroblemau cofio fel y gall gadw ei hyder a'i annibyniaeth mor hir â phosibl. Dyma ychydig o awgrymiadau.

Colli'r cof yw un o arwyddion cynharaf gorffwylledd mewn llawer achos. Mewn pobl hyn gellir ei gamgymryd am yr anghofrwydd arferol y mae pobl yn ei brofi wrth heneiddio neu pan fyddant dan straen mawr. Fodd bynnag, fe ddaw'n amlwg yn ddiweddarach fod problemau cof y person yn ddifrifol ac yn barhaus, a'u bod yn cyd-fynd â newidiadau o ran meddwl a theimlo sy'n ei gwneud yn fwy anodd iddo ymdopi â bywyd bob dydd.

Mae pawb yn wahanol

Mae llawer o agweddau gwahanol ar y cof ac fe effeithir ar bobl sydd â gorffwylledd mewn gwahanol ffyrdd. Gallech weld, er enghraifft, fod y person yn cadw'r cof am rai medrau yn eithaf hir, neu ei fod yn eich synnu drwy sôn am ryw ffeithiau neu brofiadau arbennig y gall eu cofio o hyd, er ei fod yn anghofus mewn meysydd eraill.

Ceisiwch fod yn hyblyg ac yn amyneddgar ac annog y person i gofio yr hyn a all heb roi bwysau o unrhyw fath arno.

Cof am y gorffennol

Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd â gorffwylledd yn cofio'r gorffennol pell yn gliriach na digwyddiadau diweddar. Efallai y bydd yn ei chael yn anodd cofio'r hyn a ddigwyddodd ychydig eiliadau'n ôl ond yn gallu cofio ei fywyd pan oedd yn ieuengach o lawer yn fanwl iawn. Fodd bynnag, bydd yr atgofion tymor hir hyn hefyd yn dirywio yn y pen draw.

  • Gallai'r person fod yn bryderus ynghylch colli ei gof, yn enwedig yng nghyfnodau cyntaf ei orffwylledd. Mae cyfleoedd i rannu atgofion am y gorffennol yn gallu helpu i adfer ei ymdeimlad o gydlyniad.
  • Gellir cael pleser yn aml o sôn am y gorffennol a gall hynny helpu rhywun i gadw ei ymdeimlad o hunaniaeth.
  • Defnyddiwch luniau, cofroddion ac eitemau priodol eraill i helpu i symbylu atgofion y person o'r gorffennol.
  • Os yw'n ymddangos fod rhai atgofion o'r gorffennol yn peri gofid mawr, ceisiwch roi cyfle i'r person fynegi ei deimladau a dangoswch iddo eich bod yn deall.

Gwybodaeth newydd

Mae pobl sydd â gorffwylledd yn ei chael yn anodd amgyffred gwybodaeth newydd a'i chofio.

  • Rhowch wybodaeth syml a'i hailadrodd yn aml.
  • Rhannwch weithgareddau newydd yn gamau bychain.

Osgoi straen ychwanegol

Os yw'r person yn flinedig, yn sâl, yn bryderus neu'n isel ei ysbryd, bydd cofio yn fwy anodd byth. Bydd problemau cof yn fwy amlwg hefyd os yw'n ceisio gwneud mwy nag un peth ar y tro neu os tynnir ei sylw gan swn neu brysurdeb.

  • Os credwch y gallai'r person fod yn sâl neu'n isel ei ysbryd, cysylltwch â'r meddyg teulu.
  • Gofalwch fod digon o gefnogaeth i'r person. Ceisiwch leihau straen gymaint ag y gallwch.
  • Helpwch y person i ganolbwyntio ar un peth ar y tro.
  • Ceisiwch sicrhau nad oes dim i dynnu ei sylw.
  • Rhowch awgrymiadau yn hytrach na gofyn cwestiynau. Er enghraifft: 'Dyma Dafydd, mab eich chwaer, wedi dod i'ch gweld', yn hytrach na 'Ydych chi'n cofio'r dyn yma?'

Cadw annibyniaeth

  • Dylid helpu'r person i aros yn annibynnol mor hir â phosibl. Fodd bynnag, bydd angen ichi gymryd rhai camau diogelwch os yw'r person mewn perygl oherwydd anghofrwydd.
  • Helpwch y person i barhau i wneud pethau drosto'i hun, gan ei atgoffa o bethau'n aml a gwneud pethau 'gyda' yn hytrach na 'dros' y person.

Trefn reolaidd

Er bod amrywiaeth a symbyliad yn bwysig, bydd gormod o newidiadau'n peri dryswch.

  • Bydd trefn reolaidd yn helpu'r person i deimlo'n fwy diogel ac yn ei gwneud yn haws iddo gofio beth sy'n digwydd fel arfer yn ystod y diwrnod.
  • Gadewch bethau yn yr un lle fel y gall y person ddod o hyd iddynt yn hawdd.

Cymhorthion cof

Yn y cyfnodau cynnar, mae cymhorthion cof fel rhestrau, dyddiaduron a chyfarwyddiadau ysgrifenedig, eglur yn gallu bod o gymorth wrth brocio cof os yw'r person yn barod ac yn alluog i'w defnyddio. Fodd bynnag, bydd raid ichi fod yn ymwybodol, wrth i'r gorffwylledd ddatblygu, na fydd yn deall pwrpas y cymhorthion hyn.

Colli synnwyr amser

Mae'n bosibl y gwelwch fod y person yn dechrau colli ei synnwyr amser yn eithaf cynnar yn ei orffwylledd. Efallai y bydd y person yn ei chael yn anodd barnu faint o amser a aeth heibio am nad yw'n cofio beth a wnaeth neu beth y mae i fod i'w wneud y diwrnod hwnnw.

Ceisiwch gadw at drefn reolaidd. Gallai fod o gymorth ei atgoffa'n dringar o'r diwrnod a'r amser a'r hyn y byddwch yn ei wneud nesaf.

Gwir a gau

Wrth i'r gorffwylledd ddatblygu, gellir drysu rhwng y gwir a'r dychymyg. Gwell fel arfer yw peidio â dadlau â'r person. Ceisiwch roi'ch hun yn ei esgidiau ef a deall beth y gallai fod yn ceisio'i ddweud neu beth y mae'n ei deimlo a'i gysylltu â hynny.

Os oes rhaid ichi wrth-ddweud y person neu ei gywiro, gwnewch hynny mewn modd nad yw'n codi cywilydd arno ac yn dangos nad ydych yn feirniadol.

Byw yn y gorffennol

Os bydd cof tymor-byr y person yn dirywio'n raddol mae'n bosibl y bydd yn cael fod atgofion, teimladau ac arferion sy'n gysylltiedig â'r gorffennol yn fwy real na rhai'r presennol.

Gall ymddangos weithiau ei fod yn byw yn y gorffennol gan fynnu, er enghraifft, fod rhaid iddo aros i'w fam fynd ag ef i'r ysgol. Ceisiwch beidio â gwrth-ddweud. Defnyddiwch hyn fel cyfle i gysylltu â'r hyn y gallai fod yn ei gofio neu ei deimlo. Gallech ei annog i sôn am y gorffennol neu ei gysuro os yw'n ymddangos ei fod yn drist.

Methu adnabod

Gall pobl â gorffwylledd golli'r gallu i adnabod pobl, lleoedd neu bethau yn y pen draw am nad yw eu hymennydd yn gallu cofio neu roi gwybodaeth at ei gilydd. Gallent hyd yn oed fethu ag adnabod eu hadlewyrchiad mewn drych a meddwl fod rhywun arall yno, neu gallent boeni fod perthynas neu ffrind agos yn rhywun sy'n tresmasu yn eu cartref.

Bydd esboniadau a geiriau i'w atgoffa yn gymorth yn aml i roi sicrwydd i'r person a'i alluogi i ddal i wneud rhyw synnwyr o'i amgylchedd a'r bobl o'i gwmpas.

Mae'n peri gofid mawr os nad yw'r person bellach yn eich adnabod chi ac eraill sy'n agos iddo. Siaradwch â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo ynghylch eich teimladau.

Carers' advice sheet 526

Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000

Further information

Coping with memory loss

An English version of this factsheet.

Contact the Society

Telephone: +44 (0) 20 7423 3500

Send your feedback or find key contact details.