Alzheimer's Society
 

Alzheimer's Society

Help support the Society

Accessibility settings | Advanced search

Ymddygiad anarferol

Bydd pobl â gorffwylledd yn ymddwyn weithiau mewn ffyrdd y mae pobl eraill yn eu cael yn rhyfedd neu'n anodd eu trafod. Mae'r daflen gyngor hon yn ystyried nifer o wahanol fathau o ymddygiad ac yn awgrymu ffyrdd o ymdopi. Ni fydd y rhain yn effeithio ar bawb sydd â gorffwylledd.

Mae pob person sydd â gorffwylledd yn unigolyn ag anghenion gwahanol. Mae llawer o'i ymddygiad yn ymgais i roi gwybod am yr hyn y mae arno'i angen neu sut y mae'n teimlo. Wedi inni ddeall y rhesymau pam y mae rhywun yn ymddwyn mewn modd arbennig, mae'n haws cael hyd i ffyrdd o ymdopi.

Os na all y person ddweud wrthych sut y mae'n teimlo, rhowch gynnig ar nifer o ddulliau gweithredu. Gofynnwch am gyngor gan weithwyr proffesiynol neu ofalwyr eraill cyn ichi ddod o dan ormod o straen.

Weithiau gellir defnyddio meddyginiaeth i drin y mathau yma o ymddygiad. Rhaid i feddyg fonitro'r triniaethau hyn yn ofalus iawn a dylid eu hadolygu'n rheolaidd. Holwch am sgil-effeithiau unrhyw gyffuriau oherwydd os gwelwch y rheini ni fyddwch wedyn yn rhagdybio fod y gorffwylledd wedi gwaethygu.

Cofiwch bob amser nad yw'r person yr ydych yn gofalu amdano'n tynnu'n groes o fwriad. Gofynnwch i chi'ch hun a yw ei ymddygiad yn broblem mewn gwirionedd. Sicrhewch fod gennych gefnogaeth a bod seibiant yn bosibl pan fydd arnoch ei angen.

Aildadrodd cwestiynau

Gallai rhywun â gorffwylledd ofyn yr un cwestiwn drosodd a throsodd. Mae'n debyg nad yw'n cofio gofyn y cwestiwn neu'r ateb a roesoch am ei fod wedi colli ei gof tymor byr. Mae'n bosibl hefyd fod teimladau o ansicrwydd neu bryder ynghylch ei allu i ymdopi yn cyfrannu at ailadrodd cwestiynau gan y person. Ceisiwch roi eich hun yn ei sefyllfa ef bob tro a dychmygwch sut y gallai deimlo a beth y gallai fod yn ceisio ei fynegi.

  • Ceisiwch fod yn dringar wrth ateb. Peidiwch â dweud: 'Rwyf wedi dweud hynny wrthych chi'n barod', gan y bydd hynny'n cynyddu ei bryder. Ceisiwch gael y person i weld yr ateb drosto'i hun os oes modd. Er enghraifft:

C: 'A yw'n amser cinio?'
A: 'A ydych chi wedi edrych ar y cloc.'

C: 'A oes angen mwy o laeth arnom?'
A: 'Pam na wnewch chi edrych yn yr oergell?'

  • Ceisiwch dynnu sylw'r person drwy roi rhywbeth iddo'i wneud os yw hynny'n briodol.
  • Os na allwch gelu'ch dicter, rhowch esgus ac ewch o'r ystafell am ychydig.

Bydd pobl â gorffwylledd yn pryderu'n aml ynghylch digwyddiadau sydd i ddod a gall hyn arwain at ailadrodd cwestiynau. Os yw'n ymddangos mai hynny sy'n digwydd, gallech ystyried peidio â sôn am bethau a allai beri pryder iddo - bod rhywun i fod i alw, er enghraifft, neu'ch bod am fynd i'r siopau - tan yn union cyn i hynny ddigwydd. Bydd hyn yn rhoi llai o amser iddo bryderu.

Ailadrodd brawddegau neu symudiadau

Weithiau bydd pobl â gorffwylledd yn ailadrodd yr un frawddeg neu symudiad lawer gwaith. Efallai y byddwch yn clywed gweithwyr meddygol proffesiynol yn galw hyn yn 'orbarhad' neu 'perseveration'.

  • Gallai hyn fod yn ganlyniad i ryw fath o anghysur. Sicrhewch nad yw'r person yn rhy boeth neu'n rhy oer, ag eisiau bwyd neu ddiod, neu'n rhwym. Cysylltwch â'r meddyg teulu os oes rhyw bosibiliad ei fod yn sâl, mewn poen neu os yw meddyginiaeth yn effeithio arno.
  • Efallai fod ei amgylchoedd yn rhy swnllyd iddo neu'n achosi gormod o straen.
  • Efallai ei fod wedi diflasu neu'n ceisio ei symbylu ei hun. Rhowch anogaeth iddo wneud rhywbeth. Mae rhai pobl yn cael mwynhad mawr o roi mwythau i anifail anwes, er enghraifft, neu o fynd am dro neu wrando ar eu hoff fiwsig.
  • Efallai mai fel hyn y mae'r person yn ei dawelu ei hun. Mae gan bawb ei ffordd o'i gysuro ei hun.
  • Gallai fod o ganlyniad i'r niwed i'r ymennydd.

Cynigiwch gymaint o gysur ag y gallwch.

Ymddygiad ailadroddus

Mae'n bosibl y bydd yn ymddangos fod y person yn gwneud yr un peth o hyd fel pacio a dadbacio bag neu aildrefnu cadeiriau mewn ystafell.

  • Gallai'r ymddygiad hwn fod yn gysylltiedig â gweithgaredd neu waith blaenorol fel teithio, trefnu swyddfa neu ddiddanu ffrindiau. Hwyrach y byddwch yn gallu darganfod beth yw'r gweithgaredd hwn. Gallai hynny'ch helpu i ddeall beth y mae'r person yn ei deimlo ac yn ceisio'i wneud, a gallai hefyd fod yn fan cychwyn i sgwrs.
  • Efallai fod y person wedi diflasu a bod arno angen mwy o weithgareddau i'w symbylu neu fwy o gysylltiad â phobl eraill.

Dilyn a galw arnoch

Gwyddom fod y profiad o fyw gyda gorffwylledd yn peri i lawer o bobl deimlo'n ansicr ac yn bryderus iawn. Felly gallai rhywun â gorffwylledd eich dilyn drwy'r amser neu alw arnoch i gael gwybod lle'r ydych. Mae colli'r cof a dryswch ynghylch amser yn golygu y gallai ychydig eiliadau ymddangos fel oriau i rywun sydd â gorffwylledd ac efallai na fydd yn teimlo'n ddiogel oni bai eich bod chi gerllaw. Gall fod yn anodd iawn dygymod ag ymddygiad o'r math hwn.

  • Ceisiwch beidio â siarad mewn llais miniog. Ni fyddech ond yn cynyddu pryder y person drwy wneud hynny.
  • Rhowch rywbeth i'r person ei wneud a fydd yn mynd â'i holl sylw os ydych chi'n brysur yn gwneud rhywbeth arall - anifail anwes neu degan meddal cyfarwydd neu ddol hwyrach.
  • Gallai fod yn gysur i'r person eich clywed yn mwmian neu'n canu. Neu, os ydych mewn ystafell arall, efallai y gallech roi'r radio ymlaen.
  • Ceisiwch sicrhau fod gennych amser i chi'ch hun.

Gweiddi a sgrechian

Gallai'r person alw allan am rywun o hyd neu weiddi'r un gair neu sgrechian neu nadu drosodd a throsodd. Mae sawl rheswm posibl dros ymddygiad o'r fath.

  • Efallai ei fod mewn poen neu'n sâl neu efallai ei fod yn profi rhithwelediadau. Os yw un o'r rhain yn ymddangos yn bosibl, cysylltwch â'r meddyg teulu.
  • Gallai fod yn unig neu'n ofidus. Os yw'n gweiddi yn y nos, gallai golau nos yn yr ystafell wely fod yn gysur.
  • Efallai ei fod yn bryderus am fod ei gof yn methu. Ceisiwch ei gysuro neu dynnu ei sylw. Os yw'n galw am rywun o'i orffennol, gallai fod yn gymorth siarad ag ef am y gorffennol.
  • Efallai ei fod wedi diflasu. Mae ar bawb angen rhywbeth i'w wneud, gan gynnwys rhai sydd â gorffwylledd. Gwrando ar fiwsig gyda'ch gilydd neu fwytho llaw rhywun yw rhai o'r pethau a fu o gymorth.
  • Hwyrach fod gormod o sŵn a mynd a dod. Efallai fod arno angen amgylchedd mwy distaw.
  • Gallai fod o ganlyniad i niwed i'r ymennydd oherwydd gorffwylledd. Gofynnwch i'r meddyg teulu gyfeirio'r person at arbenigwr os credwch mai hyn sydd wedi digwydd.

Chwerthin a chrio

Gallai'r person chwerthin neu grio'n afreolus heb reswm amlwg.

  • Gallai hyn fod yn gysylltiedig â rhithwelediadau neu rithdybiau (gweld neu glywed pobl neu bethau nad ydynt yno, neu gredu pethau nad ydynt yn wir). Os credwch mai hynny yw'r rheswm, cysylltwch â'r meddyg teulu.
  • Gallai hyn fod o ganlyniad i niwed i'r ymennydd. Mae'n fwy cyffredin ymysg pobl sydd â gorffwylledd fasgwlaidd. Nid yw'n golygu o reidrwydd fod y person yn drist iawn neu'n hapus iawn. Efallai y byddai'n well ganddo pe baech yn anwybyddu'r episodau hyn. Ar y llaw arall fe allai ymateb i gysur.

Diffyg ataliad

Gallai'r person ymddwyn mewn modd sy'n peri annifyrrwch i bobl eraill oherwydd bod ei gof yn methu a dryswch cyffredinol. Mewn rhai achosion gallai fod o ganlyniad i niwed penodol i'r ymennydd. Ceisiwch ymateb yn dawel.

  • Mae'n bosibl fod dadwisgo neu ymddangos yn noeth yn gyhoeddus yn arwydd fod y person wedi anghofio pryd a ble y mae'n briodol iddo dynnu ei ddillad. Ewch ag ef i rywle preifat a gwiriwch a yw'n rhy boeth neu'n anghyfforddus neu a yw am ddefnyddio'r toiled.
  • Os yw'n codi ei sgert neu'n chwarae â'i falog neu gopish, gallai hynny fod yn arwydd fod ar y person eisiau defnyddio'r toiled.
  • Os yw rhywun yn dechrau anwesu ei organau rhywiol yn gyhoeddus, anogwch ef yn dringar i beidio a cheisiwch dynnu ei sylw. Os ceir ymddygiad o'r fath yn aml neu'n gyson, cysylltwch â'r meddyg teulu.
  • Os yw'r person yn ymddwyn yn anweddus - er enghraifft, drwy sarhau pobl neu regi neu boeri - peidiwch â cheisio dadlau neu gywiro. Ceisiwch dynnu ei sylw. Gallwch egluro i bobl eraill yn ddiweddarach fod ei ymddygiad yn ganlyniad i'r gorffwylledd ac nad oedd wedi'i gyfeirio atynt yn bersonol.

Camu

Mae nifer o resymau pam y gallai rhywun â gorffwylledd gamu ar hyd ystafell.

  • Gallai fod arno angen bwyd neu ddiod neu efallai ei fod yn rhwym, mewn poen, neu am ddefnyddio'r toiled ac yn methu â dweud wrthych. Gwiriwch bosibiliadau o'r fath.
  • Gallai fod yn teimlo'n sâl neu'n dioddef gan sgil-effeithiau rhyw feddyginiaeth. Os ydych yn amau mai hynny yw'r achos, cysylltwch â'r meddyg teulu.
  • Gallai fod wedi diflasu, neu efallai nad yw'n defnyddio ei holl egni. Ceisiwch ddod o hyd i weithgareddau priodol neu ffurfiau o ymarfer corff sy'n rhoi pleser.
  • Gallai fod yn ofidus oherwydd amgylchedd swnllyd neu brysur. Efallai y bydd yn rhoi'r gorau i gamu ar hyd yr ystafell os gall ddod o hyd i le tawel i eistedd.
  • Gallai fod yn ddig, mewn gofid neu'n bryderus. Ceisiwch ddarganfod ei deimladau a dangos eich bod yn deall.

Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gallai'r camu fod yn ganlyniad i newidiadau a ddigwyddodd yn ymennydd y person. Ceisiwch dynnu ei sylw. Fodd bynnag, os na allwch ei atal rhag camu:

  • Ceisiwch ddod o hyd i rywle lle y gall gerdded yn ddiogel heb darfu ar neb arall.
  • Anogwch y person i ddewis dillad cyfforddus ac esgidiau sy'n cynnal ei draed yn iawn.
  • Gwiriwch ei draed yn rheolaidd am unrhyw gochni, chwyddiadau neu bothelli a allai ofyn sylw. Cysylltwch â'r meddyg teulu neu nyrs gymunedol os ydych yn bryderus.
  • Ceisiwch berswadio'r person i orffwys o bryd i'w gilydd a chynigiwch ddiodydd a byrbrydau.

Gwingo

Gallai rhywun sydd â gorffwylledd wingo'n barhaus. Gallai fod yn anghyfforddus, yn ofidus, wedi diflasu neu fod ag angen mwy o ymarfer corfforol. Gallai'r gwingo fod yn gysylltiedig â'r niwed i'w ymennydd.

  • Gwiriwch i weld a yw'r person yn rhy boeth, yn rhy oer, ag angen bwyd neu ddiod neu a yw am ddefnyddio'r toiled, er enghraifft.
  • Os yw'n ymddangos yn ofidus, ceisiwch ganfod y rheswm a rhowch gysur.
  • Ceisiwch dynnu ei sylw â gweithgaredd diddorol neu ei gynnwys mewn rhywffurf o ymarfer.
  • Rhowch rywbeth iddo'i wneud â'i ddwylo fel tegan meddal neu leiniau, neu darparwch flwch yn llawn o bethau diddorol. 

Cuddio a cholli

Gallai'r person guddio pethau'n fwriadol i'w cadw'n ddiogel ac wedyn anghofio ym mhle y maent neu anghofio ei fod wedi'u cuddio o gwbl.

  • Gallai'r dymuniad i guddio pethau fod yn ganlyniad yn rhannol i deimladau o ansicrwydd ac awydd i ddal gafael ar yr ychydig sydd ganddo o hyd. Ceisiwch roi cysur i'r person, ni waeth pa mor ddiamynedd yr ydych yn teimlo.
  • Peidiwch â gadael dogfennau pwysig o gwmpas a gofalwch fod gennych set sbâr o allweddi os yw'n debygol o roi pethau dan glo.
  • Ceisiwch ddarganfod cuddfannau'r person fel y gallwch ei helpu'n dringar i ddod o hyd i'r eitemau 'coll'.

Mae'n bosibl y bydd rhai pobl yn cuddio bwyd, gan fwriadu ei fwyta'n ddiweddarach, efallai. Os felly, mae'n bosibl y bydd angen ichi edrych mewn cuddfannau'n rheolaidd, a chael gwared o unrhyw bethau sy'n gallu pydru heb dynnu sylw.

Drwgdybiaeth

Weithiau bydd pobl sydd â gorffwylledd yn mynd yn ddrwgdybus. Gallent boeni fod pobl eraill yn manteisio arnynt neu'n bwriadu gwneud niwed iddynt mewn rhyw fodd. Er enghraifft, pan fyddant yn colli rhywbeth, gallent gyhuddo rhywun o'i ddwyn oddi arnynt, neu gallent ddychmygu fod cymydog cyfeillgar yn cynllwynio yn eu herbyn. Gallai syniadau o'r fath fod yn ganlyniad i fethiant y cof neu anallu i adnabod pobl sy'n gyfarwydd iddynt, ac yn rhannol o ganlyniad i'r angen a deimlwn oll i wneud synnwyr o'r hyn sy'n digwydd o'n cwmpas.

  • Er bod agweddau o'r fath yn gallu bod yn anodd iawn dygymod â hwy, ceisiwch beidio â ffraeo. Dywedwch yn dawel yr hyn a wyddoch sy'n wir, os yw hynny'n briodol, ac wedyn rhowch gysur iddo neu dynnu ei sylw.
  • Eglurwch i eraill sydd mewn cysylltiad â'r person fod unrhyw gyhuddiadau di-sail wedi'u hachosi gan y gorffwylledd ac na ddylid eu cymryd o ddifrif.
  • Fodd bynnag, ni ddylech ddiystyru amheuon y person yn ddifeddwl os oes rhyw bosibliad y gallent fod yn wir.

Carai'r Gymdeithas ddiolch i Janet Keane o'r Adran Seiciatreg ym Mhrifysgol Rhydychen am ei chymorth wrth baratoi'r daflen gyngor hon.

Carers' advice sheet 525

Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000

Further information

Unusual behaviour

An English version of this factsheet.

Contact the Society

Telephone: +44 (0) 20 7423 3500

Send your feedback or find key contact details.