Deall a pharchu'r person sydd â gorffwylledd
Os ydych yn gofalu am rywun sydd â gorffwylledd byddwch am sicrhau ei fod yn cael ei drin â pharch ac urddas bob amser. Mae'n fod dynol unigryw a gwerthfawr.
Mae rhywun sydd â gorffwylledd, a'i alluoedd meddyliol yn dirywio, yn debygol o deimlo'n agored i niwed a bod ag angen cysur a chefnogaeth. Mae'n bwysig fod y rhai o'i gwmpas yn gwneud popeth yn eu gallu i'w helpu i gadw ei ymdeimlad o hunaniaeth a hunan-barch. Bydd raid i'r bobl hynny gofio:
- Fod pob person sydd â gorffwylledd yn unigolyn unigryw â'i brofiadau gwahanol iawn o fywyd, ei anghenion a'i deimladau ei hun a'i hoff bethau a'i gas bethau.
- Er bod symptomau o orffwylledd sy'n gyffredin i bawb, bydd pob person yn cael ei effeithio'n wahanol gan ei orffwylledd.
- Fod pawb yn ymateb i'r profiad o orffwylledd yn ei ffordd ei hun. Mae'r profiad yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Bydd raid i'r rhai sy'n gofalu am rywun â gorffwylledd gymryd i ystyriaeth ei alluoedd, ei ddiddordebau a'i hoff a'i gas bethau.
Bydd raid iddynt fod yn ymwybodol y gallai'r pethau hyn newid wrth i'r gorffwylledd ddatblygu. Dylent fod yn barod i ymateb yn hyblyg ac yn sensitif.
Hanes bywyd y person
Gorau po fwyaf o wybodaeth gefndir y gallwch ei rhoi am hanes y person, yn ogystal â'i sefyllfa bresennol, i eraill sy'n ymwneud â gofalu. Bydd y wybodaeth hon yn ei gwneud yn haws i eraill weld y person fel person cyflawn yn hytrach nag un â gorffwylledd yn unig. Wedyn gallai'r rhai sy'n ymwneud â gofal a chefnogi deimlo'n fwy hyderus o gael pethau i sgwrsio yn eu cylch neu o awgrymu gweithgareddau y gallai'r person eu mwynhau.
Efallai y bydd angen ichi atgoffa pobl eraill:
- Nad yw gorffwylledd yn rhywbeth y dylid bod â chywilydd ohono. Nid oes bai ar neb.
- Y gall gorffwylledd achosi i'r person ymddwyn mewn ffyrdd a allai beri annifyrrwch neu ofid i eraill ond nad yw hyn yn fwriadol.
- Y gall pobl â gorffwylledd mewn llawer achos gofio'r gorffennol pell yn gliriach na'r gorffennol diweddar a'r presennol. Byddant yn falch yn aml o sôn am eu hatgofion. Ond cofiwch y gallai hen atgofion fod yn boenus.
Mae ein henwau'n bwysig
Mae cysylltiad agos rhwng ein hymdeimlad o bwy ydym a'r enw neu'r enwau sydd gennym. Mae'n bwysig sicrhau fod pobl eraill yn cyfarch y person â gorffwylledd mewn modd y mae'n ei dderbyn ac yn ei hoffi.
- Mae'n bosibl y bydd rhai'n fodlon i rywun eu cyfarch wrth eu henw cyntaf neu'r enw a arferir gan eu teulu a'u ffrindiau agos.
- Efallai y bydd yn well gan eraill i bobl ifanc a rhai nad ydynt yn eu hadnabod eu cyfarch wrth deitlau parch fel 'Mr' neu 'Mrs'.
Efallai fod gennych gefndir diwylliannol sydd â'i ffordd arbennig ei hun o ddefnyddio enwau a chyfarch pobl er mwyn dangos parch. Os felly, sicrhewch eich bod yn egluro hyn i rywun sydd mewn cysylltiad â'r person sydd â gorffwylledd sydd o gefndir gwahanol fel y gall ddefnyddio'r enw neu deitl priodol.
Diwylliant a chrefydd
Gofalwch fod unrhyw un sy'n gofalu am y person, ni waeth pa mor fyr yw'r cyfnod, yn cael manylion priodol am unrhyw arferion neu gredoau diwylliannol neu grefyddol fel y gellir eu parchu. Gallai'r rhain amrywio o ddiet, dillad a'r defnydd o dlysau, er enghraifft, i ddulliau o ddadwisgo, gwneud gwallt, ymolchi neu ddefnyddio'r toiled.
Mae rhai ffurfiau ar gyffwrdd a gymerir yn ganiataol mewn rhai diwylliannau yn rhai y gellid eu hystyried yn amharchus mewn eraill. Efallai y bydd angen hefyd ichi egluro defodau fel gweddïo a gwyliau crefyddol i rai o ddiwylliant gwahanol.
Trin y person fel oedolyn
Mae'n bwysig fod pawb yn parhau i drin y person yn gwrtais ac fel oedolyn, ni waeth i ba raddau y mae ei orffwylledd wedi datblygu. Ceisiwch ddychmygu sut y carech chi gael eich cyfarch pe baech yn ei esgidiau.
- Byddwch yn garedig ac yn gysurlon heb fod yn nawddoglyd tuag at y person a'i drin fel pe bai'n blentyn. * Peidiwch byth â siarad ar ei draws neu uwch ei ben fel pe na bai yno.
- Peidiwch â siarad am y person â phobl eraill pan yw'r person yn bresennol. Rhowch le iddo yn y sgwrs bob amser.
- Ceisiwch beidio â dwrdio neu feirniadu'r person - bydd hynny'n peri iddo deimlo'n fach.
- Bydd yr holl bethau hyn yn ymosod ar yr ymdeimlad bregus o hunan-barch sydd gan y person.
- Chwiliwch am yr ystyr sydd y tu ôl i'r geiriau hyd yn oed os nad yw'n ymddangos fod llawer o synnwyr iddynt ar yr wyneb. Mae bron yn sicr fod y person yn ceisio cyfathrebu â chi ynghylch ei deimladau.
Canolbwyntiwch ar y galluoedd sydd yn aros
Ceisiwch osgoi sefyllfaoedd lle y mae'r person yn sicr o fethu oherwydd gall hynny godi cywilydd arno. Chwiliwch am dasgau y gall eu cyflawni o hyd a gweithgareddau sydd yn dal i roi mwynhad iddo.
- Rhowch ddigon o anogaeth iddo. Gadewch iddo wneud pethau wrth ei bwysau ac yn ei ffordd ei hun.
- Gwnewch bethau gyda'r person, yn hytrach nag ar ei ran, fel y gall gadw rhywfaint o annibyniaeth.
- Rhannwch weithgareddau yn gamau bach fel y gall deimlo ei fod wedi cyflawni rhywbeth, hyd yn oed os nad yw ond yn gallu ymdopi â rhan o'r dasg.
- Mae ein hunan-barch ynghlwm yn aml â'n hymddangosiad. Anogwch y person i ymfalchïo yn ei ymddangosiad a rhowch ddigon o ganmoliaeth.
Parchu preifatrwydd
Ceisiwch sicrhau y perchir hawl y person i breifatrwydd.
- Awgrymwch y dylai pobl guro ar ddrws ei ystafell wely bob amser cyn mynd i mewn, er enghraifft.
- Os oes ar y person angen cymorth gydag arferion personol fel ymolchi neu ddefnyddio'r toiled, dylid gwneud hyn mewn modd sensitif bob amser. Gofalwch fod drws yr ystafell ymolchi neu'r toiled yn cael ei gadw ar gau os oes pobl eraill o gwmpas.
Cynnig dewis
Mae'n bwysig hysbysu'r person, ac ymgynghori ag ef lle bynnag y bo modd, ynghylch materion sy'n ymwneud ag ef. Dylid rhoi pob cyfle iddo wneud dewisiadau priodol.
- Hyd yn oed os nad ydych yn sicr o faint y mae'r person yn ei ddeall, eglurwch beth yr ydych yn ei wneud a pham bob amser. Efallai wedyn y byddwch yn gallu mesur ei ymateb yn ôl yr olwg ar ei wyneb a iaith ei gorff.
- Er bod cynnig gormod o ddewisiadau'n gallu peri dryswch gallwch barhau i gynnig dewis drwy eirio cwestiynau fel mai ond ateb cadarnhaol neu negyddol sy'n angenrheidiol, fel 'A fyddech chi'n hoffi gwisgo'ch siwmper las heddiw?' yn hytrach na 'Pa siwmper yr hoffech ei gwisgo heddiw?'
Mynegi teimladau
Mae gorffwylledd yn effeithio ar y rhan o'r ymennydd a'r cof sy'n ymwneud â meddwl a rhesymu. Nid yw'n golygu nad oes teimladau gan y person bellach. Bydd rhywun â gorffwylledd yn teimlo'n drist neu'n ofidus ar brydiau, yn ôl pob tebyg. Mae ganddo hawl i ddisgwyl i'r rhai sy'n gofalu amdano geisio deall sut y mae'n teimlo, a rhoi amser i gynnig cefnogaeth yn hytrach na'i anwybyddu neu ei gymell yn glên.
Yn y cyfnodau cynnar, mae'n bosibl y bydd y person am siarad am ei bryderon a'r problemau y mae'n eu profi. Mae'n bwysig nad yw pobl eraill yn gwthio'r pryderon hyn o'r neilltu, ni waeth pa mor boenus y maent, a'u bod yn gwrando ac yn dangos eu bod yn barod i'w helpu.
Teimlo gwerth
Mae ar y person sydd â gorffwylledd angen teimlo ei fod yn cael ei barchu a'i werthfawrogi am yr hyn ydyw'n awr, yn ogystal ag am yr hyn ydoedd yn y gorffennol. Mae o gymorth os yw'r rhain sy'n gofalu amdano:
- Yn hyblyg ac yn oddefgar.
- Yn gallu neilltuo amser i wrando a chael sgwrs a mwynhau bod gyda'r person.
- Yn gallu dangos hoffter ohono fel y bo'n briodol.
Carers' advice sheet 524
Last updated: January 2004
Last reviewed: January 2004
Further information
Understanding and respecting the person with dementia
An English version of this factsheet.
Contact the Society
Email: enquiries@alzheimers.org.uk
Telephone: +44 (0) 20 7423 3500
Send your feedback or find key contact details.

Alzheimer's Society is a registered Charity No. 296645.
RSS