Alzheimer's Society
 

Alzheimer's Society

Help support the Society

Accessibility settings | Advanced search

Gofalwyr - gofalu amdanoch eich hun

Mae ond yn rhy hawdd ichi anwybyddu'ch anghenion eich hun wrth ofalu am rywun sydd â gorffwylledd ac anghofio eich bod chi'n bwysig hefyd. Mae'n bwysig cymryd camau i ddiogelu'ch iechyd a'ch lles eich hun, fel y gallwch barhau i ymdopi a chadw'ch hyder. Dyma ychydig o awgrymiadau.

Ceisiwch ddarganfod pa gymorth a allai fod ar gael wrth ofalu am y person sydd â gorffwylledd cyn y bydd arnoch ei angen. Drwy hynny byddwch yn gwybod at bwy i droi pan ddaw'r amser. Gofynnwch i'ch meddyg teulu, y gwasanaethau cymdeithasol a changen leol y Gymdeithas, er enghraifft. Fe gewch rif ffôn y gwasanaethau cymdeithasol o dan enw'r cyngor awdurdod lleol yn y llyfr ffôn. Bydd swyddfa genedlaethol y Gymdeithas yn dweud wrthych sut i gysylltu â'r gangen neu grwp cefnogi agosaf.

Daliwch ati os oes rhaid i chi. Mae gennych hawl i gael cymorth.

Trefnir llawer o wasanaethau drwy'r gwasanaethau cymdeithasol. Gofynnwch iddynt am asesiad o anghenion y person yr ydych yn gofalu amdano, os na wnaed un eisoes. Dylid rhoi ystyriaeth i'ch anhenion fel gofalwr mewn unrhyw asesiad. Mae'r Ddeddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995 yn rhoi hawl i ofalwyr gael asesiad ar wahân o'u hanghenion. Holwch y gwasanaethau cymdeithasol am hynny.

Teulu a ffrindiau

Er ei bod yn bosibl eich bod yn ymdopi'n dda ar hyn o bryd, rhaid ichi sylweddoli y bydd gofalu am rywun â gorffwylledd yn mynd yn fwy anodd o hyd, yn gorfforol ac yn emosiynol.

  • Ceisiwch gynnwys aelodau eraill o'r teulu o'r dechrau fel na fydd yr holl gyfrifoldeb arnoch chi. Hyd yn oed os na allant gynnig gofal o ddydd i ddydd, efallai y byddant yn gallu gofalu am y person tra byddwch yn cael seibiant. Neu efallai y gallent gyfrannu'n ariannol at gost y gofal.
  • Ceisiwch dderbyn cymorth oddi wrth ffrindiau neu gymdogion bob amser pan gynigir ef. Os dywedwch eich bod yn gallu ymdopi, mae'n bosibl na fyddant yn gofyn eto.
  • Awgrymwch ffyrdd i bobl helpu. Er enghraifft, gallech ofyn iddynt aros gyda'r person am awr neu fynd â'r person am dro, fel y gallwch fynd ymlaen â rhywbeth arall.
  • Rhowch ar ddeall eich bod yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth y mae pobl yn ei rhoi a bod galw heibio am sgwrs neu siarad ar y ffôn yn rheolaidd yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.
  • Eglurwch i'ch teulu a'ch ffrindiau agos sut y gall gorffwylledd effeithio ar ymddygiad rhywun. Rhannwch y wybodaeth sydd gennych gyda hwy. Wedyn byddant yn gallu deall yr anghysonderau yn ymddygiad y person, a faint yn union yr ydych yn gorfod ei wneud.

Eich iechyd

Ewch i weld eich meddyg teulu'n rheolaidd er mwyn rhoi sylw i'ch iechyd eich hun a sicrhau ei fod yn ymwybodol o unrhyw straen a phroblemau'r ydych yn eu profi.

  • Os dechreuwch deimlo'n bryderus, o dan bwysau neu'n isel iawn eich ysbryd, ewch i weld eich meddyg teulu gynted ag y bo modd. Mae'n haws ymdrin â hyn yn gynnar cyn iddo fynd yn waeth.
  • Ceisiwch sicrhau'ch bod yn bwyta diet cytbwys. Bydd yn gymorth ichi deimlo ac ymdopi'n well.
  • Gofalwch eich bod yn cael digon o gwsg. Os bydd y person sydd â gorffwylledd yn tarfu arnoch o hyd pan ydych yn cysgu, gofynnwch am gyngor gan y meddyg, gweithiwr cymdeithasol neu nyrs seiciatryddol gymunedol.
  • Gofalwch beidio â gwneud niwed i'ch cefn os ydych yn helpu'r person i symud. Gallwch gael cyngor ar hyn gan ffisiotherapydd cymunedol drwy eich meddyg.
  • Mae ymarfer corfforol rheolaidd yn hanfodol er mwyn eich iechyd a bydd yn rhoi mwy o egni i chi. Ceisiwch gerdded yn yr awyr iach bob dydd os gallwch neu gwnewch ymarferiadau yn eich cartref. Gall eich meddyg teulu roi cyngor.

Materion cyfreithiol ac ariannol

Mae'n bosibl yr effeithir ar eich sefyllfa ariannol a chyfreithiol os ydych yn gofalu am rywun â gorffwylledd.

Os ydych yn gweithio ac yn gorfod rhoi'r gorau i'ch gwaith dros dro neu'n barhaol, holwch ynghylch eich pensiwn.

Edrychwch i weld a oes gennych hawl i dderbyn budd-daliadau ac, os oes, pa rai.

Mynnwch gael gwybod y ffordd orau o reoli materion ariannol y person pan fydd angen gwneud hynny. Gellid gwneud hynny drwy fod yn un penodedig neu drwy bwer atwrnai parhaol.

Edrychwch i weld beth yw'ch seyllfa eich hun mewn perthynas â chartref ac arian y person os bydd yn cael ei dderbyn i ofal tymor-hir neu'n marw.

Amser i chi'ch hun

Gofalwch eich bod yn cael rhywfaint o amser i chi'ch hun i ymlacio neu i wneud rhywbeth sy'n arbennig i chi. Os na ellir gadael y person yr ydych yn gofalu amdano ar ei ben ei hun, gofynnwch i'ch ffrindiau neu aelodau o'ch teulu a oes modd iddynt roi seibiant i chi neu holwch ynghylch gwasanaethau sydd ar gael yn lleol fel gofal yn y cartref, gofal dydd neu ofal seibiant preswyl.

  • Ceisiwch neilltuo ychydig o amser bob diwrnod i chi'ch hun, os gallwch - i gael 'paned o de a darllen y papur, i wrando ar fiwsig, i wneud y croesair neu i fynd am dro, er enghraifft. Peidiwch â theimlo'n euog.
  • Ceisiwch fynd allan bob wythnos i gwrdd â ffrind, cael gwneud eich gwallt, dilyn hobi neu barhau i gymryd rhan yng ngwaith eich eglwys, er enghraifft. Mae'n bwysig gwneud rhywbeth sy'n rhoi mwynhad i chi ac sy'n eich cadw mewn cysylltiad â'r byd y tu allan.
  • Ceisiwch gymryd seibiant yn rheolaidd ar benwythnosau neu am ychydig o ddiwrnodiau i gael eich cefn atoch. Holwch i weld pa wasanaethau cefnogi sydd ar gael yn eich ardal a beth yw'r gost. Neu gofynnwch i aelod o'ch teulu neu ffrind ddod i aros gyda'r person.

Galwadau croes

Ceisiwch fynd wrth eich pwysau. Dim ond hyn a hyn y gallwch ei wneud. Efallai y byddwch yn teimlo'ch bod yn cael eich tynnu i ddau gyfeiriad am eich bod yn ceisio gofalu am blant, yn gofalu am rywun sydd yn sâl neu'n mynd i weithio yn ogystal â gofalu am y person sydd â gorffwylledd.

  • Ceisiwch sicrhau fod eraill sy'n agos i chi'n deall y problemau ac yn gallu cynnig cefnogaeth i chi.
  • Holwch i weld a oes gwasanaethau ar gyfer y person â gorffwylledd a allai liniaru rhywfaint o'r pwysau sydd arnoch.

Cefnogaeth

Mae ar bob gofalwr angen cefnogaeth a phobl y gall drafod ei deimladau ag ef.

Efallai y byddwch yn cael y gefnogaeth angenrheidiol gan ffrindiau ac aelodau o'ch teulu, gan weithwyr proffesiynol sydd â chydymdeimlad neu gan grwp cefnogi lleol lle y gallwch sgwrsio ag eraill a gafodd brofiadau tebyg ac sy'n deall y sefyllfa'n iawn.

Holwch y gwasanaethau cymdeithasol, y ganolfan gynghori neu swyddfa genedlaethol y Gymdeithas ynghylch canghennau a grwpiau cefnogi lleol.

Canmolwch eich hun

Gallech deimlo weithiau eich bod yn cyflawni tasg ddiddiolch. Efallai nad yw'r person sydd â gorffwylledd yn ymddangos ei fod yn gwerthfawrogi'ch ymdrechion bellach ac efallai fod eraill heb fod yn ymwybodol o faint yr ydych yn ei wneud. Rhaid ichi ganmol eich hun o bryd i'w gilydd:

  • Am lwyddo i ddygymod o ddydd i ddydd â sefyllfa anodd iawn.
  • Am ddod yn fwy hyblyg a goddefgar a darganfod cryfderau a medrau newydd ynoch chi'ch hun.
  • Am fod yno ar gyfer rhywun y mae arno'ch angen.

Carers' advice sheet 523

Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000

Further information

Looking after yourself

An English version of this factsheet.

Contact the Society

Telephone: +44 (0) 20 7423 3500

Send your feedback or find key contact details.