Cadw'n iach
Os ydych yn gofalu am rywun sydd â gorffwylledd byddwch am sicrhau ei fod yn aros mor iach a heini ag y bo modd. Gorau'n y byd y bydd y person yn teimlo, mwyaf y mwynhad y mae'n debygol o'i gael o fywyd, a hawsaf i'r ddau ohonoch ymdopi.
Archwiliadau
Iechyd cyffredinol
Gallwch ofyn i feddyg teulu'r person wneud archwiliad iechyd cyffredinol os ydych yn bryderus ynghylch ei iechyd neu os byddai hynny'n rhoi tawelwch meddwl i chi. Gyda llaw, mae gan rywun 75 oed a drosodd hawl i gael archwiliad iechyd blynyddol gan bractis ei feddyg teulu. Os yw'r meddyg teulu sydd gennych chi yn wahanol i un y person sydd â gorffwylledd, bydd angen ichi gysylltu eich hun.
Os oes rhyw faes sy'n peri pryder penodol, fel pwysedd gwaed uchel neu glefyd siwgwr, sicrhewch y caiff y person ei archwilio'n rheolaidd yn y feddygfa.
Y llygaid, y clustiau a'r dannedd
Mae hefyd yn syniad da archwilio'r holl agweddau eraill ar iechyd y person, fel ei lygaid, ei glustiau a'i ddannedd. Dylid gwneud hyn mor fuan â phosibl ar ôl y diagnosis tra yw'r person:
- yn dal i allu rhoi gwybodaeth amdano'i hun.
- yn fwy galluog i addasu i unrhyw newidiadau angenrheidiol, fel sbectol newydd, cymorth clywed gwahanol neu ddannedd gosod newydd.
Bydd yn haws gwneud archwiliadau rheolaidd hefyd os yw'r gweithiwr cysylltiedig dan sylw wedi gallu creu perthynas â'r person mewn cyfnod cynnar.
Meddyginiaeth
Ar y cyfan, gorau po leiaf o gyffuriau y bydd y person yn eu cymryd, ar gyfer ei orffwylledd a'i iechyd cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys cyffuriau ar bresgripsiwn a rhai parod.
- Cyn gynted â phosibl ar ôl y diagnosis, holwch y meddyg teulu er mwyn sicrhau nad yw'r person yn cymryd cyffuriau diangen. Bydd pobl weithiau'n parhau i gymryd cyffuriau a roddir ar bresgripsiwn rheolaidd am gyfnod hwy na'r angen. Dylid adolygu'r cyffuriau ar bresgripsiwn ar gyfer rheoli ymddygiad yn aml iawn.
- Sicrhewch hefyd ei fod yn cymryd y dos effeithiol lleiaf posibl o unrhyw gyffur y mae arno'i angen. Bydd ar bobl hŷn angen dosau llai o gyffuriau na phobl ifanc mewn llawer achos.
- Gallai rhai cyffuriau neu gyfuniadau o gyffuriau gynyddu dryswch y person neu achosi sgil-effeithiau annymunol eraill. Rhowch wybod i'r meddyg teulu bob amser os ydych yn amau fod hyn yn digwydd.
Bydd raid ichi ganfod ffyrdd i sicrhau fod y person sydd â gorffwylledd yn cymryd y feddyginiaeth iawn ar yr amser iawn.
- Os nad yw'r person ond yn profi problemau cof cymedrol, mae'n bosibl y gallai'r fferyllydd helpu drwy ddarparu blwch ag adrannau wedi'u labelu â'r dydd a'r amser ar gyfer wythnos gyfan, neu drwy ddarparu tabledi ar ddalen gyda labeli ar gyfer y dydd a'r amser.
- Os yw'r problemau cof yn fwy difrifol mae'n bosibl y bydd raid ichi arolygu ei feddyginiaeth rhag ofn iddo anghofio cymryd dos neu gymryd dos ychwanegol drwy gamgymeriad. Rhowch feddyginiaethau o'i gyrraedd ac o'r golwg fel mesur diogelwch ychwanegol.
Cadw gwyliadwriaeth
Wrth i'r gorffwylledd ddatblygu mae'n eithaf arferol i'r person fynd yn fwy ansad ar ei draed. Gallai fod yn fwy tueddol o ddisgyn neu gallai gael damweiniau eraill. Fodd bynnag, mae'r problemau cof sydd ganddo'n golygu ei bod yn bosibl na fydd bob amser yn dweud wrthych am y digwyddiadau hyn. Bydd raid ichi edrych yn rheolaidd, heb dynnu sylw, rhag ofn bod cleisiau neu doriadau y mae angen eu trin.
Chwiliwch hefyd am frechau neu friwiau pan fyddwch yn helpu'r person i ymolchi neu wisgo amdano. Bydd raid ichi fod yn arbennig o wyliadwrus am friwiau gwasgu os nad yw'r person yn symud o gwmpas ryw lawer bellach. Os sylwch ar unrhyw fannau coch nad ydynt yn diflannu ar ôl ychydig oriau, cysylltwch â'r meddyg teulu neu'r nyrs gymunedol gynted ag y bo modd.
Cadw'n gynnes
Mae'n bosibl na fydd y person sydd â gorffwylledd yn ymwybodol ei fod yn oeri neu'n methu â rhoi gwybod i chi. Ond rhaid ichi gofio fod oeri am gyfnod o amser, ni waeth pa mor fyr, yn niweidio iechyd a gall fod yn beryglus, yn enwedig yn achos pobl hŷn. Mae gostyngiad yn nhymheredd y corff i lefel beryglus, a elwir yn hypothermia, yn arwain at arafu graddol yn y corff a'r meddwl. Os na chaiff ei drin, gall hynny arwain at golli ymwybyddiaeth a hyd yn oed marwolaeth.
- Ceisiwch sicrhau fod yr ystafelloedd lle y bydd y person yn eistedd ac yn cysgu yn ystod y dydd yn cael eu cadw'n gynnes. Bydd atal drafftiau ac inswleiddio'r to, os oes croglofft, o gymorth.
- Gwisgo haenau o ddillad yw'r dull gorau o aros yn gynnes, yn enwedig os yw'r dillad o ffeibr naturiol fel gwlân.
- Anogwch y person i wisgo het, menyg a sanau cynnes os bydd yn mynd allan mewn tywydd oer. Mae hynny'n berthnasol hefyd yn y tŷ os na ellir ei wresogi'n ddigonol.
Cofiwch y gallai'r person deimlo'r oerni'n fwy o lawer nag yr ydych chi. Gallai cylchrediad ei waed fod yn wael os nad yw'n symud o gwmpas ryw lawer. Fodd bynnag, efallai na fydd yn gallu dweud wrthych pan yw'n oer.
Diet
Mae diet digonol a chytbwys yn hollbwysig i iechyd da. Bydd peidio â bwyta digon neu fethu maetholion hanfodol yn lleihau gallu'r person i ymladd salwch a gallai hefyd gynyddu graddau'r dryswch.
- Gallai'r person anghofio bwyta os yw ar ei ben ei hun. Hwyrach y bydd angen ichi geisio trefnu i rywun fod gyda'r person ar adeg prydau bwyd. Ar ôl rhyw bwynt, ni fydd yn briodol cael prydau bwyd gan y gwasanaeth pryd ar glud oherwydd gallai'r person anghofio eu bwyta.
- Os yw'r person yn gwrthod bwyta'r math o fwyd y teimlwch fod arno ei angen i gadw'n iach, gallai'r meddyg teulu awgrymu dewisiadau eraill neu ragnodi fitaminau neu ychwanegion eraill.
- Mae bwyta bwydydd â llawer o galorïau neu fwydydd melys yn rhoi cysur. Fodd bynnag, gall hynny arwain at ennill llawer o bwysau a gallai arwain at broblemau iechyd pellach.
- Os yw'r person yn bwyta cymaint fel ei fod yn ei wneud ei hun yn anghyfforddus, ceisiwch gyfyngu ar faint y bwyd sydd ar gael, heb dynnu sylw at hynny, neu cynigiwch fwydydd heb lawer o galorïau fel byrbrydau.
- Mae'n bwysig i'r person yfed digon bob diwrnod. Fel arall gallai sychu ac mae hynny'n berygl i iechyd a gall arwain at fwy o ddryswch.
Rhwymedd
Mae hon yn broblem gyffredin ymysg pobl hŷn a rhai nad ydynt yn symud o gwmpas ryw lawer. Gall achosi poen ac anghysur a gall ychwanegu at ddryswch y person. Helpwch i atal rhwymedd drwy:
- Digon o fwydydd â llawer o ffeibr fel grawnfwyd, bara blawd cyflawn, ffrwythau a llysiau.
- Digon o ddiod.
- Ymarfer rheolaidd.
Mae mesurau o'r fath yn well ar gyfer iechyd y person na defnyddio moddion neu ffisig gweithio. Fodd bynnag, os bydd y problemau'n parhau, cysylltwch â'r meddyg teulu.
Cwsg
Gallai'r person sydd â gorffwylledd ddechrau drysu rhwng nos a dydd a gallai godi yn y nos a gwisgo amdano, gan feddwl ei bod yn fore. Mae'n bwysig i bawb gael noson dda o orffwys lle bynnag y bo modd. Gallai fod o gymorth os gallwch:
- Ceisio peidio â gadael i'r person gael gormod o gwsg yn ystod y dydd drwy ei annog i wneud pethau, ei symbylu a'i gadw rhag diflasu.
- Cyfyngu ar faint o ddiodydd a yfir gyda'r hwyr a pheidio â rhoi diodydd sy'n symbylu fel te a choffi.
- Annog y person i wneud rhyw fath o ymarfer corff yn ystod y dydd.
- Dod o hyd i ffyrdd ymlaciol a hamddenol o annog y peson i gysgu fel rhoi diod llaeth poeth cyn mynd i'r gwely.
Ysmygu
Mae'n bosibl y bydd y person yn anghofio am ysmygu os rhoddir sigarennau a blychau llwch o'r golwg. Fodd bynnag, efallai y byddai ceisio ei atal rhag ysmygu'n creu effaith groes a'i wneud yn fwy pigog. Rhaid rhoi ystyriaeth hefyd i hawl y person sydd â gorffwylledd i barhau i fwynhau gweithgareddau yr arferai eu mwynhau yn y goffennol.
- Gallai anghofrwydd rhywun olygu mwy o berygl o dân felly, os yw'n dymuno parhau i ysmygu, ceisiwch sicrhau'r diogelwch mwyaf posibl - er enghraifft, rhowch daniwr sigarennau tafladwy yn lle matsys.
Alcohol
Gallai diod yng nghwmni rhywun arall fod yn ffordd ddymunol o ymlacio i'r person sydd â gorffwylledd. Fodd bynnag, rhaid ichi fod yn ymwybodol hefyd:
- Y gall rhywun sydd â gorffwylledd ymddangos yn fwy dryslyd ar ôl cael diod. Efallai y bydd raid cyfyngu ar faint o alcohol a yfir.
- Nad yw alcohol yn cyd-fynd yn dda â rhai meddyginiaethau. Os nad ydych yn sicr, gofynnwch i'r meddyg teulu am gyngor.
Os ydych yn bryderus y bydd y person yn yfed gormod am ei fod wedi anghofio faint a yfodd, neu'n yfed mewn sefyllfaoedd amhriodol, mae'n bosibl y byddwch am gadw alcohol o'i gyrraedd ac o'r golwg. Unwaith eto, rhaid ystyried hawl y person i fwynhau gweithgaredd pleserus ochr yn ochr â'r perygl.
Y Clyw
Fe all clyw gwael ychwanegu at ddryswch y person a'i deimlad o fod ar wahân.
- Os credwch fod gan y person broblem â'i glyw, gall y meddyg teulu ei gyfeirio i gael prawf clyw am ddim. Mae cymhorthion clywed yr NHS hefyd ar gael am ddim.
- Os yw'n defnyddio cymorth clywed, gofalwch ei fod wedi ei droi ymlaen a'i fod yn gweithio'n iawn. Wrth i'r gorffwylledd ddatblygu, fe allai'r person ganfod fod y cymorth clywed yn rhy anodd i'w weithio ac nad yw ond yn ychwanegu at y dryswch.
- Mae'n bosibl y bydd raid ichi dynnu sylw'r person cyn siarad ag ef. Gallwch ddangos lle'r ydych drwy gyffwrdd yn ei fraich. Sefwch fel y gall weld eich wyneb, wedyn siaradwch yn araf ac yn glir. Os nad yw'n eich deall, ceisiwch newid ffurf y geiriau yn hytrach nag ailadrodd yr un frawddeg yn uwch. Gofalwch nad oes sŵn sy'n tynnu ei sylw fel y teledu, y radio neu leisiau uchel.
Y Golwg
Fe all problemau â'r golwg ychwanegu at ddryswch hefyd a'i gwneud yn fwy anodd i'r person adnabod pobl neu bethau.
- Gall optometrydd roi prawf ar olwg y person sydd â gorffwylledd. Ceir technegau arbennig i asesu'r golwg, hyd yn oed ar gyfer pobl y mae eu gorffwylledd wedi datblygu ymhell.
- Dylai'r optometrydd chwilio hefyd am bilennau ar y llygaid a glawcoma, gan fod y ddau'n gallu achosi dallineb os byddant heb eu trin. Gall archwilio ar gyfer rhai cyflyrau meddygol eraill hefyd.
- Atgoffwch y person yn gynnil i wisgo ei sbectol os oes angen a sicrhewch fod y lensys yn lân.
Y Dannedd
- Mae gofal rheolaidd o'r geg a'r dannedd yn bwysig er mwyn sicrhau na fydd problemau gyda'r dannedd neu gig y dannedd neu ffitiad dannedd gosod. Bydd unrhyw boen neu anghysur yn peri gofid i'r person a gallai arwain at anawsterau wrth fwyta ac yfed. Gallai hynny gynyddu'r dryswch. Dywedwch wrth y deintydd fod gorffwylledd ar y person. Bydd hyn yn ei helpu i'w drin yn fwy effeithiol.
- Anogwch neu helpwch y person i lanhau ei ddannedd gosod yn rheolaidd.
- Rhowch wybod i'r deintydd ar unwaith os sylwch ar unrhyw broblemau fel chwydd yng nghig y dannedd, briwiau yn y geg, dannedd wedi torri neu llenwadau coll.
Y Traed
Mae traed iach yn hollbwysig os yw'r person sydd â gorffwylledd i allu symud o gwmpas o hyd a mynd o le i le.
- Sicrhewch fod ei esgidiau'n ei ffitio'n dda. Er bod sliperi'n gyfforddus ni ddylid eu gwisgo am fwy nag ychydig oriau ar y tro gan nad ydynt yn cynnal y traed ddigon.
- Cadwch ei draed yn lân ac yn sych, a thorrwch ei ewinedd yn fyr.
- Os yw'r traed neu unrhyw ran o droed yn chwyddo neu'n mynd yn boenus neu os bydd newid yn lliw'r croen, cysylltwch â'r meddyg teulu gynted ag y bo modd.
- Os oes problemau fel cyrn neu ewinedd sy'n tyfu i'r byw, er enghraifft, cysylltwch â chiropodydd gwladol cofrestredig.
Ymarfer corfforol
Mae ymarfer rheolaidd yn llesol i iechyd pob un ohonom, gan gynnwys rhywun sydd â gorffwylledd. o Bydd yn ei alluogi i barhau i symud o gwmpas ac aros yn annibynnol mor hir ag y bo modd.
- Bydd yn gwella cylchrediad y gwaed ac yn helpu i atal anystwythder a dirywiad yn y cyhyrau.
- Bydd yn helpu'r person i deimlo'n well a chysgu'n well.
- Gall helpu i leihau pryder, straen ac iselder ysbryd.
Chwiliwch am ryw ffurf ar ymarfer corfforol y mae'r person yn ei mwynhau neu gofynnwch i'r meddyg teulu, therapydd galwedigaethol neu ffisiotherapydd am gyngor.
Symud o gwmpas
Gorau po mwyaf fydd gallu'r person i symud o gwmpas er mwyn ei iechyd ac er eich mwyn chi wrth ofalu. Chwiliwch am ffyrdd i helpu'r person i barhau i allu symud o gwmpas.
- Os bydd y person yn mynd yn ansad ar ei draed, ceisiwch gyngor gan therapydd galwedigaethol ynghylch cymhorthion ac offer y gellir eu gosod yn y tŷ fel canllawiau gafael i'w alluogi i symud yn fwy diogel.
- Efallai y bydd y person yn treulio llawer o'i amser ar ei eistedd. Os felly, mae'n bwysig iddo gael cadair gadarn, gyfforddus y mae'n hawdd iddo eistedd arni a chodi ohoni.
- Os bydd ar y person angen eich cymorth wrth symud, gofynnwch am gyngor gan therapydd galwedigaethol neu ffisiotherapydd fel na fydd yr un ohonoch yn cael niwed.
Iselder a phryder
Mae rhywfaint o iselder neu bryder yn gyffredin iawn, yn enwedig yng nghyfnodau cynnar y gorffwylledd pan yw'r person yn debygol o fod yn ymwybodol o'r dirywiad yn ei alluoedd.
- Os yw'r person yn gallu siarad am yr hyn sy'n ei boeni, gwrandewch arno a dangoswch eich bod yn ceisio deall ei deimladau. Peidiwch â gwthio ei deimladau o'r neilltu neu geisio ei gymell yn glên. Mae'r teimladau hyn yn rhai real iawn. Mae gan y person bob lle i deimlo'n isel ac yn bryderus.
- Dangoswch eich hoffter ohono, a chynigiwch gysur a chefnogaeth.
- Os teimlwch fod y person yn isel iawn ei ysbryd neu'n bryderus iawn gofynnwch i'r meddyg teulu am gyngor. Mae'n haws ymdrin â phroblem o'r fath mewn cyfnod cynnar mewn llawer achos.
Lles
Mae ymdeimlad o gysur yn agwedd bwysig ar iechyd da. Mae ar y person sydd â gorffwylledd angen:
- Teimlo ei fod yn annwyl gennych a chael sicrwydd gennych ei fod yn bwysig i chi ac yn cael ei werthfawrogi o hyd.
- Rhyddid oddi wrth gymaint â phosibl o straen o'r tu allan.
- Gweithgareddau priodol a symbyliad i'w alluogi i aros yn effro a llawn cymhelliad mor hir ag y bo modd.
Carers' advice sheet 522
Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000
Contact the Society
Email: enquiries@alzheimers.org.uk
Telephone: +44 (0) 20 7423 3500
Send your feedback or find key contact details.

delicious
digg
StumbleUpon
Reddit
Facebook
Alzheimer's Society is a registered Charity No. 296645.
RSS