Alzheimer's Society

Alzheimer's Society

Help support the Society

Accessibility settings | Advanced search

Cadw medrau

Mae rhywun â gorffwylledd yn unigolyn unigryw. Fel gofalwr, byddwch am wneud popeth yn eich gallu i gadw ei urddas a'i hyder. Bydd pob person yn profi gorffwylledd yn ei ffordd ei hun ond, drwy anogaeth, trefn bob dydd gysurlon a mesurau synnwyr cyffredin, gallwch ei helpu i barhau i ddefnyddio'i fedrau a'i alluoedd i'r eithaf wrth i'w gyflwr newid.

Ceisiwch annog y person sydd â gorffwylledd i wneud beth bynnag y mae'n gallu ei wneud drosto'i hun a pheidiwch â chynnig ond y cymorth hwnnw sy'n angenrheidiol. Os yw'n ymdrechu'n galed i gyflawni tasg, peidiwch â chael eich temtio i gymryd yr awenau'n llwyr er y gallai hynny ymddangos yn haws ac yn gynt. Os byddwch yn cymryd drosodd, mae'r person yn debygol o golli hyder a methu ag ymdopi gystal.

  • Os oes angen ichi gynnig cymorth, ceisiwch wneud pethau gyda'r person yn hytrach nag ar ei ran. Bydd y person wedyn yn fwy tebygol o deimlo ei fod yn cymryd rhan.
  • Ceisiwch ganolbwyntio ar yr hyn y gall y person ei wneud bob amser yn hytrach na'r hyn na all ei wneud.
  • Cofiwch na fydd ond yn gallu canolbwyntio am ychydig amser ac y bydd yn ei chael yn anos cofio oherwydd y gorffwylledd.
  • Ceisiwch fod yn amyneddgar a rhowch ddigon o amser. Os ydych yn teimlo'ch bod yn dechrau colli amynedd, cymerwch hoe fach. Gofalwch fod y person yn ddiogel; wedyn ewch i ystafell arall am ychydig funudau i gael rhywfaint o amser ar eich pen eich hun.
  • Rhowch ddigon o glod ac anogaeth.

Ffyrdd o helpu

Mae'n bosibl y bydd y person yn cael rhai tasgau'n gynyddol anodd wrth i'r gorffwylledd ddatblygu, tra bydd rhai medrau'n aros yn hwy o lawer. Addaswch unrhyw gymorth a gynigiwch yn unol â hynny fel ei fod yn parhau i ddefnyddio'r medrau sydd ganddo o hyd i'r eithaf. Dyma rai o'r ffyrdd o helpu a allai fod yn briodol ar wahanol adegau:

  • Efallai y bydd y person yn gallu cyflawni rhywfaint o'r dasg o'i rhannu'n adrannau, hyd yn oed os na all ei chwblhau. Enghraifft o hynny yw gwisgo. Drwy osod y dillad yn ôl y drefn o'u gwisgo, mae'n bosibl y bydd modd i'r person barhau i wasgo amdano'i hun. Mae'n bosibl y bydd cyflawni ond un neu ddau gam o'r dasg yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad iddo.
  • Rhowch gyfarwyddiadau syml neu awgrymiadau tringar i'w atgoffa. Ceisiwch ddychmygu mai chi yw'r person sy'n derbyn cymorth a siaradwch mewn modd a fyddai o gymorth i chi.
  • Fe all fod o gymorth gwneud pethau gyda'ch gilydd, fel plygu dillad neu sychu llestri.
  • Mae'n bwysig iawn nad yw'r person â gorffwylledd yn teimlo ei fod yn cael ei arolygu neu ei feirniadu mewn unrhyw fodd. Fe all goslef y llais awgrymu beirniadaeth yn ogystal â'r geiriau eu hunain.
  • Weithiau gall pwyntio, dangos neu lywio gweithred fod yn fwy defnyddiol nag esboniadau llafar pan fydd y gorffwylledd wedi datblygu ymhellach. Er enghraifft, hwyrach y bydd modd i'r person frwsio ei wallt ei hun os dechreuwch drwy dywys ei law yn ysgafn.

Ceisiwch gyngor

Mae'n bosibl y bydd rhywun â gorffwylledd yn ei chael yn anodd ymdopi â rhai tasgau un ai oherwydd y gorffwylledd neu oherwydd anableddau eraill. Gall therapydd galwedigaethol roi cyngor am gymhorthion ac addasiadau a dulliau eraill o helpu'r person i gadw ei annibyniaeth mor hir ag y bo modd. Gallwch gysylltu â therapydd galwedigaethol drwy'r gwasanaethau cymdeithasol (edrychwch yn y llyfr ffôn o dan yr awdurdod lleol) neu drwy'ch meddyg teulu.

Mae unrhyw newidiadau sy'n ymwneud ag offer neu wahanol ddulliau o wneud tasgau ymarferol yn fwy tebygol o lwyddo os cyflwynir hwy'n gynnar pan yw'r person â gorffwylledd yn gallu amgyffred gwybodaeth newydd.

Teimlo'n ddiogel

  • Mae teimlo'n ddiogel yn angen dynol mor sylfaenol fel y gallai rhywun ddweud fod ein parhad yn dibynnu arno. Mae rhywun â gorffwylledd yn debygol o brofi'r byd yn lle anniogel y rhan fwyaf o'r amser. Ni allwn ond dychmygu pa mor frawychus yw profi'r byd fel hyn. Dyna pam y gallai rhywun â gorffwylledd geisio gadw mor agos ag y bo modd at bobl y mae'n eu hadnabod.
  • Po leiaf o bryder a straen y bydd y person â gorffwylledd yn eu teimlo, mwyaf tebygol ydyw o ddefnyddio'i fedrau yn y ffordd orau. Mae'n bwysig iawn felly cael awyrgylch hamddenol a difeirniadaeth.
  • Mae amgylchiadau cyfarwydd a threfn bob dydd reolaidd yn gysur i bobl sydd â gorffwylledd.
  • Mae gormod o seiniau ar draws ei gilydd a gormod o bobl yn gallu ychwanegu at y dryswch. Os oes modd, diffoddwch y radio neu'r teledu neu, os oes arno angen canolbwyntio ar rywbeth yn benodol, ewch â'r person i rywle distaw.
  • Mae rhywun â gorffwylledd yn debygol iawn o deimlo gofid neu gywilydd am fod ei alluoedd yn dirywio neu am ei fod yn teimlo'n lletchwith. Bydd arno angen llawer o gysur. * Er y bydd raid ichi fod yn dringar ac yn galonogol, y peth gorau weithiau pan fydd pethau'n mynd o chwith yw chwerthin yn braf gyda'ch gilydd.

Cadw'n brysur

Mae ar bawb ohonom angen teimlo ein bod yn ddefnyddiol. Nid yw hynny'n newid pan fydd rhywun yn datblygu gorffwylledd. Mae cyflawni gweithgareddau priodol o gwmpas y tŷ neu yn yr ardd, os oes un, yn ffordd o alluogi rhywun â gorffwylledd i deimlo'n ddefnyddiol ac ymarfer medrau bob dydd.

Ymhlith y gorchwylion o gwmpas y tŷ gellir awgrymu codi llwch, polisio, plygu dillad, gosod a chlirio'r bwrdd, sychu llestri a chadw cyllyll a ffyrc. Yn yr ardd gellid palu, dyfrio, cribinio neu ysgubo dail.

Byddwch yn gwybod beth oedd diddordebau'r person yn y gorffennol. Ystyriwch a oes modd ichi eu helpu i gadw medrau sy'n gysylltiedig â diddordebau yn y gorffennol. Os oedd yn arfer mwynhau gwaith coed, gallai gael boddhad o lyfnu darn o bren, er enghraifft. Os arferai fwynhau coginio, hwyrach y gallai roi cyngor neu gymorth i chi wrth baratoi pryd bwyd arbennig.

  • Mae'n bwysicach i'r person deimlo'n ddefnyddiol nag iddo orffen y dasg yn berffaith.
  • Os oes rhaid ichi ail-wneud rhywbeth, byddwch yn dringar iawn a gofalwch na chaiff wybod am hynny.
  • Cofiwch ddiolch i'r person am ei gymorth.

Cymhorthion i'r cof

Mae'n bosibl y gellir galluogi'r person i arfer ei fedrau am gyfnod hwy drwy gymhorthion i'r cof a'i atgoffa am bethau'n aml ar yr adeg briodol. Mae mesurau synnwyr cyffredin fel labeli ar gypyrddau a droriau, calendr mawr, hysbysfwrdd ar gyfer negeseuon, a nodiadau wrth y drws ffrynt, er enghraifft, yn gallu helpu yng nghyfnodau cynnar gorffwylledd pan yw'r person yn gallu deall y neges a'i dilyn.

Medrau cymdeithasol

  • Bydd cyfarfod â phobl a chodi allan o'r tŷ yn galluogi pobl â gorffwylledd i gadw eu medrau cymdeithasol yn hwy. Gallai hynny hefyd wrthweithio'r difaterwch a'r encilio sydd mor gyffredin mewn gorffwylledd. Fodd bynnag, cofiwch y bydd ar y person angen digon o sylw unigol mewn cyfarfodydd cymdeithasol ac ar dripiau.
  • Eglurwch y sefyllfa i ffrindiau a chymdogion fel y byddant yn deall y newidiadau mewn ymddygiad.
  • Rhowch anogaeth i'r person fynychu canolfan dydd os cynigir lle addas. Bydd y ddau ohonoch yn elwa o gael hoe, hyd yn oed am ychydig oriau, a bydd canolfan dydd dda yn helpu i gadw medrau cymdeithasol a medrau eraill.
  • Ewch gyda'r person sydd â gorffwylledd i fannau lle y bydd eraill yn mynd. Gallai hynny fod yn drip i'r siopau, i ganolfan arddio, i oriel neu i barc, yn ôl ei ddiddordebau.
  • Os yw'r person yn mwynhau mynd allan am ddiod neu am bryd bwyd, daliwch i wneud hynny hyd y gellir. Bydd gair bach gyda rheolwr rhyw dafarn, caffi neu fwyty croesawus yn aml yn fodd i baratoi'r ffordd os yw mân bethau chwithig yn debygol o ddigwydd.
  • Rhowch anogaeth i'r person ymfalchïo yn ei olwg fel y bydd yn teimlo'n fwy hyderus. Drwy helpu'r person i wisgo amdano cyn mynd allan neu cyn i ymwelwyr ddod ceir cyfle i'w wneud yn ddigwyddiad mwy arbennig.

Information sheet 521

Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000

Further information

Maintaining skills

An English version of this factsheet.

Contact the Society

Telephone: +44 (0) 20 7423 3500

Send your feedback or find key contact details.