Beth fydd yn digwydd os ydw i â gorffwylledd?
Mae diagnosis o orffwylledd yn rhoi ysgytwad. Hyd yn oed os buoch yn ei hanner disgwyl, bydd hon yn adeg bryderus a gofidus. Bydd yn anodd hefyd i'r rhai sy'n agos i chi. Bydd angen llawer o gysur a chefnogaeth arnoch i gyd. Fodd bynnag, mae llawer y gallwch ei wneud yn y cyfnodau cynnar a fydd yn gwneud bywyd yn haws ac yn fwy pleserus, yn awr ac yn y dyfodol.
Byddwch am aros yn annibynnol mor hir ag y gallwch. Er y bydd arnoch angen mwy o gymorth yn raddol mae'n bwysig sicrhau na fydd pobl eraill yn cymryd eich bywyd drosodd pan ydych chi'n dal i allu ei drefnu. Gofalwch, hefyd, y bydd eraill yn ymgynghori â chi ar faterion sydd o bwys i chi. Dylech gael cyfle i ddewis drosoch chi'ch hun mor hir ag y gallwch. Mae'n hollbwysig ichi gadw'ch hyder a'ch hunan-barch.
Siarad am y sefyllfa
Bydd arnoch angen trafod cynlluniau ar gyfer y dyfodol gyda'r rhai sy'n agosaf i chi a gyda rhai gweithwyr proffesiynol.
- Os nad yw'ch teulu a'ch ffrindiau yn gwybod am eich diagnosis eisoes, ceisiwch ddweud wrthynt mor fuan â phosibl. Efallai na fyddant yn eich credu ar y dechrau am fod y newyddion yn peri cymaint o ofid iddynt. Ceisiwch drafod pethau'n dawel.
- Bydd o gymorth os gallwch sôn am eich dymuniadau'ch hun ar gyfer y dyfodol. Ond peidiwch â gofyn i bobl roi addewidion yn awr a allai fod yn anodd eu cadw yn y dyfodol.
- Gallai fod o gymorth ichi siarad â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo y tu allan i'r teulu.
Rhoi trefn ar eich pethau
Dyma'r adeg ichi sicrhau fod trefn ar unrhyw ddogfennau pwysig fel manylion eich morgais neu gytundeb tenantiaeth, polisïau yswiriant, datganiadau banc neu lyfrau cymdeithas adeiladu a bod modd dod o hyd iddynt yn rhwydd. Ewch drwy'r holl fanylion gydag aelod o'ch teulu, eich cymar neu ffrind agos.
- Rhowch drefn ar unrhyw filiau, gwarantau a thaliadau rheolaidd diweddar. Gallai fod yn syniad da trefnu i dalu biliau rheolaidd y cartref drwy ddebyd uniongyrchol os nad ydych yn gwneud hynny eisoes. Ceir manylion am sut i wneud hynny ar bob bil.
- Edrychwch eto ar eich ewyllys a sicrhau ei fod yn mynegi'ch dymuniadau, neu ymgynghorwch â chyfreithiwr ynghylch gwneud ewyllys newydd.
- Gwnewch Bwer Atwrnai Parhaol, os na wnaethoch hynny eisoes. Bydd hyn yn eich galluogi i benodi un neu ddau o bobl i drefnu'ch busnes er y budd gorau i chi os bydd angen hynny. (Gweler y daflen wybodaeth, Trefniadau ariannol a chyfreithiol.)
Gwaith
Os ydych yn dal i weithio mae'n debyg fod hynny'n peri straen i chi. Efallai y ceir cyfle i newid i swydd lai anodd neu i leihau'ch oriau. Beth bynnag yw'r sefyllfa, bydd angen ichi ystyried gadael eich gwaith yn eithaf buan, yn ôl pob tebyg.
- Bydd arnoch angen cyngor arbenigol ar eich hawliau pensiwn os ydych i fod i dderbyn pensiwn gyda'ch swydd. Gallai fod yn bosibl trafod er mwyn cael swm mewn un taliad.
- Cyn gadael eich gwaith, holwch ynghylch y budd-daliadau y gallech chi neu'ch teulu fod yn gymwys i'w derbyn. Os oes angen, dylai fod modd i'r adran bersonél neu'ch rheolwr eich helpu i wneud ymholiadau.
Gwasanaethau
Edrychwch i weld pa wasanaethau sydd ar gael. Hyd yn oed os na fydd arnoch eu hangen yn awr fe allent fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol. Ni ddylai'r rhai sydd agosaf i chi ymgymryd â'r cwbl o'r cyfrifoldeb dros eich helpu.
- Cysylltwch â'r adran gwasanaethau cymdeithasol lleol i gael manylion am y gwasanaethau y gall eu trefnu. Holwch ynghylch asesiad gofal cymunedol. Ceir rhestr o'r adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn y llyfr ffôn o dan enw'r awdurdod lleol.
- Holwch pa wasanaethau a drefnir drwy'r meddyg teulu neu'r meddyg ymgynghorol.
- Holwch pa fathau o wasanaethau a chefnogaeth a ddarperir gan fudiadau gwirfoddol lleol fel Cymdeithas Alzheimer. Gall y gwasanaethau cymdeithasol neu'r ganolfan gynghori leol roi gwybod i chi am hyn.
Iechyd
Mae'n bwysig ichi ofalu am eich iechyd. Ni dddylai'r ffaith fod gennych orffwylledd olygu y byddwch yn teimlo'n sâl. Felly holwch eich meddyg os ydych yn teimlo'n sâl. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall unrhyw salwch beri ichi deimlo'n fwy dryslyd neu anghofus.
- Ceisiwch fwyta prydau cytbwys.
- Ceisiwch ymarfer yn rheolaidd.
- Cymerwch ambell ddiod os dymunwch ond peidiwch ag yfed gormod o alcohol oherwydd bydd hynny'n peri ichi deimlo'n fwy dryslyd.
- Os ydych yn cymryd meddyginiaeth gofynnwch i'ch meddyg teulu a yw'n hanfodol. Weithiau gall cyffuriau gynyddu dryswch.
- Gall golwg a chlyw gwael eich gwneud yn fwy dryslyd. Mae'n bwysig ichi gael archwilio'ch golwg a'ch clyw yn rheolaidd.
- Fe all dannedd, cig y dannedd neu ddannedd gosod poenus wneud bywyd yn fwy anodd hefyd. Gofalwch eich bod yn cael archwiliad gan y deintydd yn rheolaidd.
Gyrru
Os ydych yn gyrru mae'n bosibl y bydd raid ichi roi'r gorau i hynny yn awr neu yn y dyfodol.
Mae rhywun sy'n gyrru a gafodd ddiagnosis o orffwylledd yn gorfod hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLC) yn Abertawe a fydd yn trin pob achos yn unigol.
Dylech bob amser gael cadarnhad gan eich cwmni yswiriant fod eich yswiriant yn eich cynnwys o hyd.
Y Cof
- Peidiwch ag ofni gofyn cwestiynau.
- Peidiwch ag ofni dweud nad ydych wedi deall.
- Peidiwch ag ofni dweud eich bod wedi anghofio'r hyn a ddywedwyd.
- Nid eich bai chi yw nad ydych yn gallu cofio gystal ag yr oeddech. Chwiliwch am ffyrdd i helpu'ch cof.
- Rhowch rifau ffôn defnyddiol wrth y ffôn lle gallwch eu gweld.
- Rhowch labeli ar gypyrddau neu ddroriau i'ch atgoffa o leoliad pethau.
- Ysgrifennwch nodiadau i'ch atgoffa eich hun i gloi'r drws yn y nos neu i roi'r sbwriel allan ar ddiwrnod penodol, er enghraifft.
- Rhowch bethau a ddefnyddiwch drwy'r amser, fel eich allweddi neu'ch sbectol, mewn lle amlwg - fel powlen fawr yn yr ystafell fyw, er enghraifft.
Trefn bob dydd
Ceisiwch gymryd pethau'n arafach. Gallwch gael cysur hefyd o wneud pethau yr un adeg bob diwrnod neu bob wythnos. Ond ceisiwch barhau i fynd ar ambell ymweliad neu drip.
Mwynhau bywyd
Efallai y bydd rhai o'ch diddordebau blaenorol yn ymddangos yn rhy anodd neu ddirdynnol. Ond byddwch yn dal i gael pleser o lawer o weithgareddau.
- Ceisiwch ddod o hyd i bethau sy'n dal i roi pleser i chi fel gwrando ar gerddoriaeth, gwau, chwarae dominos, siarad â ffrind.
- Mae gofalu am anifail anwes yn gallu rhoi llawer o gysur a boddhad. Mae mynd â chi am dro yn ffordd dda o gael ymarfer corff rheolaidd.
- Gall fod yn anodd dilyn sgwrs rhwng llawer o bobl. Efallai y byddai'n well gennych pe bai'ch ffrindiau a'ch teulu'n ymweld un neu ddau ar y tro.
- Ceisiwch ganolbwyntio ar y pethau hynny y gallwch eu gwneud o hyd yn hytrach na phoeni am y pethau hynny yr ydych yn methu eu gwneud.
Gallwch gael cyngor manylach yn y llyfryn I'm told I have dementia, sydd ar gael oddi wrth Gymdeithas Alzheimer am £3, yn cynnwys pacio a phostio.
Information sheet 518
Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000
Contact the Society
Email: enquiries@alzheimers.org.uk
Telephone: +44 (0) 20 7423 3500
Send your feedback or find key contact details.

delicious
digg
StumbleUpon
Reddit
Facebook
Alzheimer's Society is a registered Charity No. 296645.
RSS