Alzheimer's Society
 

Alzheimer's Society

Help support the Society

Accessibility settings | Advanced search

Rhywun sy'n byw ar ei ben ei hun

Os oes rhywun agos i chi â gorffwylledd ac yn byw ar ei ben ei hun, rydych yn sicr o deimlo'n bryderus yn ei gylch. Lle bynnag y bo modd, trafodwch y sefyllfa gyda'r person dan sylw, gydag aelodau'r teulu a gyda gweithwyr proffesiynol profiadol. Mae sawl ffordd o alluogi rhywun i fyw gartref yn hwy. Dyma ychydig o awgrymiadau.

Mae lle cyfarwydd a threfn arferol yn cynnig sicrwydd os yw rhywun yn ddryslyd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hapusach os gallant barhau i fyw yn eu cartref eu hunain gyn hwyed â phosibl. Yn wir, bydd rhai pobl â gorffwylledd yn dirywio'n gyflym iawn pan symudant oddi cartref i fyw gydag aelod o'r teulu neu mewn gofal preswyl.

Fodd bynnag, mae'n debyg y bydd ar rywun â gorffwylledd angen llawer iawn o gefnogaeth, yn enwedig wrth i'r gorffwylledd ddatblygu. Mae'n syniad da cysylltu'n gynnar â'r gwasanaethau sy'n gallu cynnig cymorth. Peidiwch ag aros nes bydd argyfwng yn datblygu. (Gweler taflenni gwybodaeth y Gymdeithas Pwy all helpu? ac Asesiad gofal cymunedol.)

Ymdrin â pheryglon

Er y gellir lleihau llawer o beryglon drwy feddwl a chynllunio, mae'n bosibl na ellir osgoi rhywfaint o risg os yw'r person â gorffwylledd i gadw ei annibyniaeth a mwynhau ansawdd bywyd da. Nid oes y fath beth ag amgylchedd diberygl. Bydd o gymorth os gallwch drafod sut i ymdrin â'r cwestiwn o berygl yn y modd mwyaf gofalgar gydag aelodau eraill o'r teulu. Mae hefyd yn beth da trafod hynny ag unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig. Mae angen ichi gytuno ar yr hyn a ystyriwch yn lefel risg dderbyniol ar ôl cymryd camau diogelwch rhesymol. Wedyn, os bydd rhywbeth yn mynd o'i le, ni ellir bwrw'r bai ar un person. Wrth gwrs, bydd angen gwneud trefniadau gofal eraill os bydd ansawdd bywyd y person yn dirywio'n ormodol neu os bydd y peryglon i'r person neu i bobl eraill yn mynd yn rhy fawr.

Cyfrifoldeb teuluol 

 Mae'n beth cyffredin iawn i un aelod o'r teulu gael a derbyn cyfrifoldeb dros y person sydd â gorffwylledd ac i eraill fethu â sylweddoli'r straen sy'n gysylltiedig â hynny. Mae'n well i bawb yn y teulu gyfrannu i benderfyniadau os byddant yn cymryd rhan yn y gofal o'r dechrau.

Ceisiwch gael cyfarfod o'r teulu'n gynnar a phenderfynu'r hyn y gall pob aelod o'r teulu ei gynnig yn ymarferol yn awr ac yn y dyfodol. Gallai hyn fod yn gymorth i osgoi teimladau o ddrwgdeimlad neu euogrwydd yn ddiweddarach.

  • Mae ymweliadau rheolaidd neu gytundeb i fynd â'r person i siopa unwaith yr wythnos neu i wneud y golchi, er enghraifft, yn ffyrdd o ddarparu cefnogaeth.
  • Mae'n bosibl y bydd perthnasau nad ydynt yn byw'n lleol yn gallu cyfrannu tuag at gost gofal yn y cartref, neu gallent gytuno i aros yn lleol (yn y tŷ neu gerllaw) tra bydd y prif ofalwr yn cael gwyliau.
  • Cadwch mewn cysylltiad drwy ymweliadau rheolaidd, llythyrau neu alwadau ffôn fel bod pawb yn ymwybodol o newidiadau yn y sefyllfa ac yn gallu cyfrannu i'r penderfyniadau y mae'n rhaid eu gwneud.
  • Os yw'n debygol y bydd tyndra neu drafferthion cyfathrebu ymysg aelodau'r teulu, rhowch wahoddiad i'r cyfarfod teuluol i rywun o'r tu allan sy'n gallu bod yn wrthrychol, fel gweithiwr cymdeithasol neu nyrs seiciatryddol gymunedol.

Ymrwymiadau eraill

Gallech deimlo'ch bod yn cael eich tynnu rhwng cynnig cefnogaeth i'r person sydd â gorffwylledd ac ymrwymiadau eraill.

  • Os oes gennych gymar neu blant, ceisiwch sicrhau eu bod yn llwyr ddeall anghenion y person sydd â gorffwylledd. Os gallwch eu cynnwys mewn rhai agweddau ar ofalu gallent fod yn fwy tueddol o roi'r gefnogaeth y mae arnoch ei hangen.
  • Os ydych yn gweithio, eglurwch y sefyllfa i'ch cyflogwr ac i gydweithwyr yr ydych yn ymddiried ynddynt.

Cadw'ch egni 

Mae gorffwylledd yn gyflwr sy'n gwaethygu. Gall barhau am flynyddoedd lawer. Ni fydd o les i neb os byddwch wedi ymlâdd. Ystyriwch beth yr ydych yn ei wneud yn ofalus a phenderfynwch ar y ffordd orau i gyfeirio'ch egni.  

  • Efallai y bydd rhai gorchwylion, fel cadw tŷ'r person yn daclus, yn ddiangen.
  • Gallai rhywun arall gyflawni rhai gweithgareddau, fel siopa, lawn cystal â chi. Derbyniwch gymorth gan eraill.
  • Hyd yn oed os ydych yn barod i fod yn brif ofalwr, rhaid ichi roi ar ddeall i weddill y teulu ac i unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig fod arnoch angen cefnogaeth. Mae gennych hawl i'ch bywyd eich hun.

Agweddau at gymorth

Gallai rhywun yng nghyfnodau canol gorffwylledd fod yn amharod i gyfaddef fod arno angen cymorth. Fodd bynnag, mae'n haws dechrau rhoi cefnogaeth effeithiol i rywun yn y cyfnodau cynnar.

  • Ceisiwch berswadio'r person fod arno angen cymorth er mwyn aros yn annibynnol. Wedyn, os bydd yn gwrthwynebu'n ddiweddarach, gallwch ei atgoffa am y penderfyniad a wnaethoch gyda'ch gilydd. Mae hyn yn effeithiol yn aml a gall helpu'r ddau ohonoch i aros yn dawel.
  • Mae'n bosibl weithiau y bydd raid ichi droi at strategaethau eraill er mwyn peidio â pheri gofid i'r person. Er enghraifft, gallech drefnu i fynd â'r person allan tra bydd rhywun arall yn glanhau'r tŷ'n drylwyr. Neu gallech gael ffrind i dreulio ychydig o amser gyda'r person tra byddwch yn clirio'r oergell.
  • Mae'n eithaf arferol i rywun â gorffwylledd wrthwynebu talu am ei ofal neu anghofio gwneud hynny. Efallai y byddwch yn gallu gwneud taliadau ar ei ran (gweler y daflen wybodaeth ar drefniadau ariannol a chyfreithiol). Os yw'n derbyn Lwfans Byw'r Anabl neu Lwfans Gweini, cofiwch mai ei bwrpas yw talu am ofal ychwanegol.
  • Rhaid i rywun sy'n rhoi cymorth i rywun â gorffwylledd fod yn barod i gael ei feirniadu. Rhaid iddo hefyd disgwyl cael ei anwybyddu neu glywed y person yn honni nad oes neb yn ei helpu. Er bod hyn yn brifo, ceisiwch beidio â chymryd atoch. Mae'r ffaith fod nam ar gof a mewnwelediad y person yn golygu nad yw'n cofio o gwbl am yr hyn yr ydych yn ei wneud drosto.

Awgrymiadau

Dweud wrth bobl eraill

Ar ôl ichi gael diagnosis iawn gan y meddyg, eglurwch salwch i person i bobl y mae'n eu hadnabod, gan gynnwys ei ffrindiau a'i gymdogion, siopwyr lleol a staff y swyddfa bost, y dyn llaeth, y postmon ac, os oes angen, yr heddlu lleol. Bydd y bobl hyn yn gweld y person yr ydych yn pryderu yn ei gylch yn rheolaidd a gallent gymryd amser i sgwrsio, cynnig cymorth mewn gwahanol ffyrdd neu gadw golwg ar y person mewn modd disylw. Rhowch eglurhad byr o symptomau gorffwylledd, fel problemau ynghylch canolbwyntio a cholli'r cof. Eglurwch ei bod yn beth da defnyddio brawddegau byr ac eglur a siarad mewn goslef garedig a defnyddio arwyddion a chyffwrdd er mwyn helpu i gyfathrebu. Pwysleisiwch na ddylid byth fod yn nawddoglyd tuag at y person sydd â gorffwylledd neu ei drin fel petai'n dwp.

Iechyd

Gallai salwch o ryw fath gynyddu dryswch y person. Os oes modd, ewch gyda'r person i weld y meddyg teulu neu i apwyntiad mewn ysbyty, siaradwch â'r meddyg eich hun a gwiriwch unrhyw feddyginiaeth. Mae angen archwilio cymhorthion clywed, sbectol a dannedd gosod yn rheolaidd. Dylid archwilio traed y person hefyd, yn enwedig os yw'n profi problemau wrth gerdded. Hwyrach y gallech drefnu i optegydd, deintydd neu chiropodydd alw yng nghartref y person os yw'n gaeth i'r tŷ.

Meddyginiaeth

Gall gyffuriau ychwanegu at ddryswch. Gofalwch nad yw'r person ond yn cymryd meddyginiaeth y mae'r meddyg yn ei hystyried yn gwbl angenrheidiol.

Gall fod yn anodd sicrhau fod y person â gorffwylledd yn cymryd y maint iawn o feddyginiaeth ar yr adeg iawn. Mae rhai gweithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig â gofal cymunedol wedi'u gwahardd rhag rhoi meddyginiaeth. Trafodwch hyn gyda'r meddyg, y fferyllydd a'r nyrs gymunedol. Gallech brynu blychau Dosset sydd o gymorth gyda'r broblem hon. Mae'r blychau hyn yn cynnwys adrannau ar wahân sydd wedi'u labelu'n eglur ar gyfer pob diwrnod o'r wythnos a gwahanol adegau'r dydd. Bydd rhai fferyllwyr yn cytuno i roi wythnos o feddyginiaeth yn y blychau hyn ar eich rhan neu gallech wneud hynny'ch hun. Ar ôl trefnu'r feddyginiaeth fel hyn gallai un alwad ffôn gennych chi i atgoffa'r person fod yn ddigon yn y cyfnodau cynnar. Dyma un o'r meysydd gofal lle y bydd raid ichi newid ac addasu wrth i'r cyflwr ddatblygu.

Gwaredwch unrhyw hen feddyginiaethau sydd heb eu defnyddio oherwydd gellid eu rhoi mewn camgymeriad. Cadwch y cyflenwadau cyfredol o feddyginiaeth mewn man lle na all y person eu gweld neu eu cyrraedd. Holwch y fferyllydd cyn rhoi unrhyw ffisig neu foddion parod fel asbirin neu parasetamol.

Arian

Bydd angen cymorth ar y person sydd â gorffwylledd wrth drefnu ei arian. Os ydych yn un Penodedig neu os oes gennych Bŵer Atwrnai Parhaol (gweler y daflen wybodaeth ar drefniadau ariannol a chyfreithiol) gallwch drin ei arian a thalu ei filiau'n uniongyrchol. Dylai rhywun sydd yn trafod arian ar ran y person â gorffwylledd gadw cyfrif gofalus o'r hyn a werir er mwyn osgoi unrhyw broblemau posibl. Gallai rhai sydd â gorffwylledd anghofio'r hyn a gytunwyd a chyhuddo gofalwyr (yn ofalwyr teuluol ac yn rhai sy'n cael eu talu) o ddwyn eu harian. Y rheswm am hynny yw bod eu cof diffygiol yn golygu na allant gofio sut y gwariwyd yr arian. Ceisiwch sicrhau fod holl filiau'r cartref yn cael eu talu drwy ddebyd uniongyrchol fel na chaiff unrhyw gyflenwad ei dorri'n sydyn. Os nad oes modd gwneud hynny, rhowch wybod i'r cwmnïau trydan, nwy a dŵr yn yr ardal am y sefyllfa a rhowch eich enw fel cysylltydd.

Cymhorthion cof

Yn y cyfnodau cynnar gallai fod o gymorth cael hysbysfwrdd mewn lle amlwg ac arno rifau ffôn defnyddiol. Bydd o gymorth rhoi manylion am bwy sydd i alw ar y person a pha bryd, gwybodaeth fel lleoliad y stopfalf a'r blychau ffiwsiau a rhifau cyswllt argyfwng. Bydd hyn o gymorth i'r gofalwr hefyd, yn enwedig os ceir argyfwng.

Cloc

Gallai cloc hawdd ei weld sy'n rhedeg ar fatri fod o gymorth i'r person gadw golwg ar yr amser, ar y dechrau o leiaf. Dylai'r cymhorthion cof a'r cloc helpu i leihau pryder, ar y dechrau o leiaf. Gofalwch fod wyneb y cloc yn un hawdd ei ddarllen a'i fod yn y lle iawn. Yn yr un modd, os bydd rhywun yn galw bob diwrnod, gallai groesi allan y dyddiau ar galendr gyda'r person hwnnw. Fe allai labeli neu nodiadau ar gypyrddau, droriau a drysau fod yn fuddiol. Mae'n dibynnu a ydynt o gymorth i'r person ai peidio.

Bwyd

Mae'n bwysig sicrhau fod y person yn bwyta diet cytbwys. Wrth i'r gorffwylledd ddatblygu, mae'n bosibl na fydd siopa a choginio drosto yn ddigon. Efallai y bydd raid i rywun fod gyda'r person er mwyn sicrhau ei fod yn bwyta o leiaf un pryd iawn y diwrnod. Hwyrach y bydd raid ichi edrych yn rheolaidd hefyd i sicrhau na adawyd bwyd i bydru. Dylid fod yn dringar wrth wneud hyn. Mae hyn yn bwysig iawn oherwydd gallai rhywun â gorffwylledd fwyta bwyd sydd wedi pydru am nad yw bellach yn sylweddoli nad yw'n addas i'w fwyta. Nid yw prydau'r gwasanaeth Pryd ar Glud yn addas i bobl â gorffwylledd. Byddant yn cael eu gadael heb eu bwyta.

Diogelwch o fewn y cartref

Gofalwch fod digon o olau yn y tŷ ac nad oes peryglon amlwg fel fflecsys yn rhedeg ar hyd y llawr, canllawiau rhydd ar y grisiau neu ddodrefn sigledig. Dylai pethau yn y gegin a ddefnyddir bob dydd fod o fewn cyrraedd hwylus. Symudwch sylweddau peryglus fel hylifau glanhau, cannydd a chodwr paent neu eu rhoi dan glo. Os yw'r gwifrau trydan yn hen iawn fe allent fod yn beryglus. Gofynnwch am gyngor gan drydanwr cymwys. Sicrhewch nad oes modd i'r person fynd â gwresogydd trydan i'r ystafell ymolchi. Tynnwch gloeon o ddrysau'r ystafell ymolchi a'r toiled os yw'r person yn debygol o'i gloi ei hun i mewn (gweler y daflen gyngor ar ddiogelwch yn y cartref).

Cymhorthion ac Offer

Mae'n debyg na fydd y person â gorffwylledd yn gallu dysgu sut i ddefnyddio offer newydd felly mae'n bosibl na cheir llawer o les o osod cawod, os yw wedi arfer â chymryd bath, neu ffwrn neu bopty microdon yn lle un confensiynol. Fodd bynnag, fe allai canllaw ar y grisiau ac wrth y bath a'r toiled fod yn fuddiol. Gall therapydd galwedigaethol roi cyngor ynghylch canllawiau a ffyrdd eraill o wneud y cartref yn ddiogel. Gallwch gysylltu â therapydd galwedigaethol drwy'ch meddyg teulu.

Cynhesrwydd

Mae'n bwysig fod cartref y person yn cael ei wresogi'n ddigonol. Os yw'n byw mewn un ystafell gan mwyaf fe allai fod yn ddigon sicrhau fod yr ystafell honno'n gynnes. Mae'n bosibl y gellir torri ar gostau gwresogi drwy atal drafftiau a gosod deunydd inswleiddio. Mae gwisgo sawl haen o ddillad hefyd yn gallu helpu i'w gadw'n gynnes. Os bydd yn anghofio cynnau'r gwresogi, efallai y bydd raid ichi ystyried rhyw ffurf ar wresogi sy'n ei droi ei hun ymlaen. Gall tanau fod yn beryglus felly gofalwch fod giard gosod ar unrhyw dân neu wresogydd. Peidiwch â defnyddio blancedi trydan os yw'r person yn debygol o fod yn anymataliol.

Nwy

Os ydych yn bryderus ynghylch defnyddio offer nwy gan y person - er enghraifft, os yw'n dueddol o agor y nwy heb ei gynnau - cysylltwch ag ymgynghorydd gwasanaeth cartref drwy'r cwmni nwy lleol. Trefnwch i fod yn bresennol pan ddaw yno. Bydd yn rhoi cyngor ynghylch addasiadau defnyddiol ac amryw o fesurau diogelwch.

Dŵr

Mae'n bosibl y byddwch yn poeni y bydd y person yn anghofio cau'r tap ac yn gadael i'r dŵr orlifo yn y tŷ. Mae nifer o ddyfeisiau ar gael, fel tapiau sydd ond yn gollwng swm penodol o ddŵr. Cysylltwch â'r cwmni dŵr lleol er mwyn cael cyngor. Er nad yw dyfeisiau o'r fath yn rhad gallent fod yn rhatach na chost clirio ar ôl gorlifiad a byddant yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i chi.

Crwydro

Os yw'r person yn dueddol o adael y tŷ a chrwydro'r strydoedd, gallai fod yn ddoeth iddo wisgo rhyw fath o ddull adnabod gyda'ch enw a'r rhif ffôn arno neu rif ffôn cymydog cymwynasgar. Ceir nifer o wahanol ffurfiau o ddulliau adnabod - mae breichled neu dlws ar gael. Gallwch hefyd wnïo label â'r wybodaeth hon i fag llaw neu gôt os yw hynny'n briodol.

Diogelwch

Gall hyn fod yn broblem. Gallai'r person fynd allan gan adael y drysau a'r ffenestri'n llydan agored. Gallai groesawu deithriaid i'r tŷ neu gallai ei gloi ei hun yn y tŷ a pheidio ag ateb y drws. Byddai o gymorth pe bai cymydog yn gallu cadw llygad ar y tŷ a chadw set sbâr o allweddi. Gallech ofyn i'r cymdogion roi gwybod i chi os gwelant ddieithriaid yn mynd i'r tŷ. Bydd swyddog atal troseddu o'r heddlu lleol yn gallu rhoi cyngor ynghylch cloeon addas i'r drysau a'r ffenestri, gan gynnwys drysau y gallwch eu hagor o'r tu allan. Gofalwch nad oes cadwyni neu folltiau a fyddai'n eich atal rhag mynd i'r tŷ pe bai argyfwng.

Information sheet 517

Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000

Further information

Living alone

An English version of this factsheet.

Contact the Society

Telephone: +44 (0) 20 7423 3500

Send your feedback or find key contact details.