Teimladau o euogrwydd
Pan ydych yn gofalu am berson sydd â gorffwylledd gallech deimlo'n euog hyd yn oed pan yw'n ymddangos eich bod yn gwneud eich gorau glas. Mae teimladau o'r fath, sy'n gyffredin iawn ymysg gofalwyr, yn gallu tanseilio'ch hyder a'ch hunan-barch a'i gwneud yn fwy anodd ichi ymdopi. Os gallwch ddeall mwy ynghylch pam yr ydych yn teimlo'n euog fe allech ddod o hyd i ffyrdd o ymdrin â'r sefyllfa.
Mae llawer o wahanol resymau pam y mae gofalwyr yn teimlo'n euog. Efallai fod y teimladau hyn yn deillio o'ch perthynas yn y gorffennol â'r person sydd bellach â gorffwylledd, neu efallai eu bod yn cael eu sbarduno gan sefyllfa benodol. Efallai'ch bod yn disgwyl gormod gennych chi'ch hun. Os gallwch ddarganfod pam yr ydych yn teimlo'n euog a thrafod hynny gyda rhywun sy'n deall, efallai y byddech yn llai tueddol o roi bai arnoch eich hun. Byddwch wedyn yn gallu meddwl am ffyrdd cadarnhaol o fynd ymlaen.
Rhesymau posibl dros euogrwydd ac awgrymiadau er mwyn ymdopi
Camgymeriadau
Bydd gofalwyr yn aml yn teimlo'n euog ynghylch rhyw esgeulustod neu gamsyniad sy'n digwydd o bryd i'w gilydd. Efallai y bydd arnoch angen cael sicrwydd ei bod yn iawn gwneud camgymeriadau - mae pawb yn methu weithiau. Ceisiwch ganolbwyntio ar y nifer mawr o bethau'r ydych yn eu gwneud yn iawn wrth ofalu.
Disgwyliadau anymarferol
Fe allech deimlo'n euog am eich bod rywsut wedi methu cyflawni'ch disgwyliadau'ch hun neu'r hyn y credwch y mae pobl eraill yn ei ddisgwyl gennych. Mae'n wirioneddol bwysig pennu terfynau ar yr hyn y gallwch ei gyflawni. Cofiwch mai bod dynol ydych chi hefyd a bod gennych hawl i'ch bywyd eich hun.
Meddyliau a theimladau annymunol
Gallai fod arnoch gywilydd am deimlo'n chwithig neu wedi'ch ffieiddio oherwydd ymddygiad y person sydd â gorffwylledd er eich bod yn deall na all wneud dim yn ei gylch. Gallech deimlo'n euog am eich bod weithiau am gerdded i ffwrdd o'ch cyfrifoldebau tuag at y person. Neu gallech ddymuno weithiau fod y person yn farw. Mae angen ichi dderbyn fod y rhan fwyaf o ofalwyr wedi profi meddyliau a theimladau tebyg a bod y rhain yn gwbl normal o dan yr amgylchiadau. Gallai fod o gymorth ichi eu trafod gyda gweithiwr proffesiynol sydd â chydymdeimlad neu ffrind da.
Teimladau ynghylch y gorffennol
Hwyrach fod y person sydd bellach â gorffwylledd wedi arfer eich beirniadu yn y gorffennol neu wedi peri ichi deimlo'n annigonol bob amser. Gallai hynny olygu eich bod yn teimlo'n anesmwyth o hyd a bod arnoch ofn na fydd dim a wnewch yn iawn. Fe allech deimlo'n euog am nad ydych erioed wedi hoffi'r person a'i fod bellach yn ymddangos mor ddiymadferth. Neu efallai'ch bod yn dymuno y byddech wedi ymdrechu'n galetach gyda'r berthynas o'r blaen. Mae rhai pobl sy'n teimlo fel hyn yn cael eu temtio i'w gwthio eu hunain yn rhy galed er mwyn ceisio gwneud iawn am y gorffennol. Ceisiwch ddygymod â'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol, fel y gallwch ei adael ar eich ôl a delio â'r presennol a'r dyfodol.
Mynegi pigogrwydd neu ddicter
Efallai y byddwch yn ei chael yn anodd maddau i chi'ch hun am ymddangos yn bigog neu'n ddig ar adegau. Peidiwch â gweld bai arnoch eich hun. Derbyniwch eich bod yn byw o dan lawer o straen. Mae arnoch angen rhyddhad i'ch emosiynau, amser i chi'ch hun a chefnogaeth. Chwiliwch am ffyrdd diogel o fynegi teimladau naturiol o rwystredigaeth - drwy gael lle ac amser i weiddi nerth eich pen, er enghraifft, neu i golbio clustog. Mae'r technegau hyn yn gymorth i lacio tyndra drwy ganiatáu ichi fynegi'r teimladau negyddol a gadwyd dan glawr. Manteisiwch ar unrhyw gymorth a gynigir fel y gallwch ymlacio a dadflino oddi wrth y person sydd dan eich gofal.
Pryderon ynghylch gorffwylledd
Gallech boeni eich bod rywsut wedi achosi'r gorffwylledd sydd gan y person. Bydd meddygon a gweithwyr proffesiynol eraill yn gallu'ch sicrhau nad achoswyd y gorffwylledd gan ddim a ddywedwyd neu a wnaethpwyd gennych chi. Gallech deimlo hefyd mai eich bai chi ydyw os yw'r person yn ymdwyn mewn rhai ffyrdd - fel crwydro'n barhaus neu ymddangos yn aflonydd neu'n ofidus iawn. Mae angen ichi dderbyn fod y mathau hyn o ymddygiad yn gysylltiedig â'r gorffwylledd. Gwnewch eich gorau i ddarparu trefn dawel, hamddenol i helpu'r person i deimlo'n fwy diogel. Ond derbyniwch ei bod yn amhosibl rhagweld ymddygiad rhywun arall drwy'r amser.
Derbyn cymorth
Mae llawer o ofalwyr yn teimlo y dylent allu ymdopi heb unrhyw gymorth. Gallech boeni y bydd y person â gorffwylledd yn teimlo gofid os na fyddwch yno drwy'r amser. Mae gofalu am berson â gorffwylledd ddydd a nos ar hyd y flwyddyn yn blino rhywun yn lân. Drwy dderbyn cymorth bydd gennych fwy o egni a byddwch yn gallu parhau i ofalu am gyfnod hwy. Hyd yn oed os bydd y person â gorffwylledd yn ofidus i ddechrau am fod eraill â rhan yn ei ofal bydd yn arfer â'r syniad yn y pen draw ac yn dod i'w dderbyn. Mae gofal seibiant, fel y'i gelwir, ar gael ar ffurf cymorth yn y cartref, gofal dydd a gofal seibiant preswyl. Mae'n beth arferol i'r gofalwr gael fod y profiad cyntaf o fod ar wahân yn peri iddo deimlo'n euog a methu ymlacio. Ond peidiwch â gadael i hynny'ch bwrw oddi ar eich echel. Bydd y ddau ohonoch yn dod i arfer â bod ar wahân ac, yn raddol, byddwch yn profi manteision o'r seibiant, ar ba bynnag ffurf y mae.
Amser i chi'ch hun
Ar y dechrau gallech deimlo'n euog iawn ynghylch cael amser i chi'ch hun. Gallech deimlo'ch bod yn anffyddlon os ydych yn mwynhau pethau na all y person â gorffwylledd eu rhannu erbyn hyn. Ond mae'n bwysig ichi gael rhywfaint o fywyd heblaw am ofalu. Mae angen ichi gael eich cefn atoch; rydych chi'n bwysig hefyd.
Galwadau croes
Gallech deimlo nad oes modd ichi ennill os ydych yn gofalu am rywun sydd â gorffwylledd a'ch teulu hefyd. Efallai fod gennych swydd ar ben hynny. Rydych yn teimlo'n euog os nad ydych yn rhoi'ch holl gefnogaeth i'r person sydd â gorffwylledd ac rydych yn teimlo'n euog os nad ydych yn rhoi sylw priodol i'ch teulu neu'ch swydd. Peidiwch â cheisio ateb pob galwad. Mae angen ichi benderfynu beth yw'r blaenoriaethau hanfodol sydd gennych a sut y gallwch eu cyflawni. Chwiliwch wedyn i weld pa ffurfiau eraill ar gefnogaeth sydd ar gael.
Teimlo'n gaeth
Ceir rhai amgylchiadau lle y bydd pobl yn teimlo'n arbennig o gaeth. Hwyrach fod eu cymar wedi datblygu gorffwylledd pan oeddent ar fin gwahanu. Efallai fod y gofalwr am barhau â gyrfa lawn-amser yn hytrach nag ymroi i ofalu. Mae o gymorth yn aml trafod y mathau hyn o gyfyng-gyngor gyda rhywun y tu allan i'r sefyllfa fel ffrind, nyrs gymunedol neu gynghorwr. Dylai fod modd iddynt eich helpu i ddod i benderfyniad sy'n teimlo'n iawn i chi.
Gofal preswyl
Pan ddaw'r amser i'r person symud i ofal preswyl mae'n arferol iawn i ofalwyr deimlo'n euog. Gallech deimlo eich bod wedi ei siomi. Efallai eich bod yn teimlo y dylech fod wedi ymdopi'n hwy. Efallai ichi roi addewid iddo'n gynharach y byddech yn gofalu amdano gartref bob amser. Bellach rydych wedi gorfod torri'r addewid honno. Mae'n bwysig trafod hyn gyda rhywun sy'n deall ac sy'n gallu'ch helpu i ddygymod â'ch penderfyniad. Cofiwch fod unrhyw addewidion a roddwyd wedi eu rhoi, yn ôl pob tebyg, pan nad oedd yr un ohonoch yn rhagweld y posibiliad o orffwylledd a'r holl bwysau a straen a ddeuai yn ei sgil. Gall y teimladau hyn barhau'n hir ac mae'n syniad da dod o hyd i grŷp cefnogi gofalwyr lle y gallwch siarad â phobl eraill a gafodd yr un profiad.
Ar ôl i'r person farw
Gallech deimlo rhyddhad i ddechrau am fod y person wedi marw. Wedyn gallech deimlo cywilydd ichi deimlo felly. Mae rhyddhad yn ymateb arferol. Mae'n debyg eich bod wedi galaru'n fawr yn barod - wrth ichi sylwi ar bob dirywiad bach yn y person yn ystod ei oes. Mae'r profiad o ofalu am rywun sydd â gorffwylledd yn hanes o lawer o fân golledion. Bob tro y ceir colled bydd raid ichi newid rhywfaint ar eich bywyd gyda'ch gilydd a mynd ymlaen. Er mwyn byw drwy'r broses gofalu, rhaid ichi ofalu amdanoch eich hun. Gall euogrwydd fod yn emosiwn dinistriol iawn fydd yn llyncu egni y mae arnoch ei angen ar gyfer pethau eraill. Mae'n bwysig deall y rhesymau pam yr ydych yn teimlo felly. Wedyn byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau pendant ynghylch beth sy'n iawn i chi ac i'r person sydd â gorffwylledd. Ceisiwch gael rhywun - ffrind da neu weithiwr proffesiynol - y gallwch drafod eich teimladau ag ef.
Carer's advice sheet 516
Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000
Contact the Society
Email: enquiries@alzheimers.org.uk
Telephone: +44 (0) 20 7423 3500
Send your feedback or find key contact details.

delicious
digg
StumbleUpon
Reddit
Facebook
Alzheimer's Society is a registered Charity No. 296645.
RSS