Alzheimer's Society
Jump to: content Jump to: navigation   Accessibility Settings Site map Basket

Egluro i blant

Pan ydych yn gofidio ynghylch rhywun agos i chi sydd â gorffwylledd, hawdd yw anghofio mor bryderus y gallai'ch plant deimlo. Mae ar blant angen esboniadau clir a digon o gysur er mwyn ymdopi â'r sefyllfa newidiol. Er bod y ffeithiau'n peri gofid gallai fod yn rhyddhad iddynt wybod fod ymddygiad rhyfedd eu perthynas yn rhan o salwch ac nad yw wedi ei gyfeirio atynt hwy. Wrth gwrs, byddwch yn gorfod addasu'ch esboniad yn ôl oedran a dirnadaeth eich plentyn ond ceisiwch fod mor onest ag y gallwch bob amser. Mae'n peri llawer mwy o ofid i blentyn ddarganfod yn ddiweddarach na all ymddiried yn yr hyn a ddywedwch na gorfod dygymod â'r gwirionedd, ni waeth pa mor annymunol, gyda'ch cefnogaeth chi.

Rhoi esboniadau

Mae bob amser yn anodd derbyn gwybodaeth sy'n peri gofid. Yn ôl eu hoedran, mae'n bosibl y bydd ar y plant angen esboniadau a gaiff eu hailadrodd ar sawl achlysur. Mae'n bosibl y bydd raid ichi fod yn amyneddgar iawn.

  • Rhowch anogaeth i'r plant holi cwestiynau. Gwrandewch ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud fel y gallwch ddarganfod beth yn union sy'n eu poeni.
  • Rhowch ddigon o gysur, a'u hanwesu a'u cofleidio lle y mae hynny'n briodol.
  • Gallai fod yn haws ichi egluro pwynt drwy gyfeirio at enghreifftiau o ymddygiad y person sy'n ymddangos yn rhyfedd, fel anghofio cyfeiriad, cymysgu geiriau neu wisgo het yn y gwely.
  • Peidiwch ag ofni defnyddio hiwmor. Bydd o gymorth yn aml os gall pob un ohonoch chwerthin am y sefyllfa.
  • Canolbwyntiwch ar y pethau y gall y person eu gwneud o hyd yn ogystal â'r rhai sy'n dod yn fwy anodd iddo.

Ofnau plant

  • Mae'n bosibl y bydd ar eich plant ofn siarad â chi am eu pryderon neu ddangos eu teimladau am eu bod yn gwybod eich bod o dan straen a hwythau am beidio ag achosi mwy o ofid i chi. Efallai y bydd arnynt angen ychydig o anogaeth i siarad.
  • Gallai plant ifanc gredu mai hwy sy'n gyfrifol am y salwch am iddynt fod yn ddrwg neu 'feddwl pethau drwg'. Mae'r teimladau hyn yn ymateb cyffredin i unrhyw sefyllfa anhapus a allai godi mewn teulu. Gallai plant hŷn boeni fod y gorffwylledd yn gosb am rywbeth a wnaeth y person yn y gorffennol. Yn y ddwy sefyllfa hyn, bydd ar y plant angen tawelwch meddwl nad hynny yw'r rheswm am salwch y person.
  • Mae'n bosibl hefyd y bydd angen ichi sicrhau plant hŷn ei bod yn annhebygol y byddwch chi neu hwythau'n datblygu gorffwylledd dim ond am fod y salwch ar ei berthynas.

Newidiadau er mwyn eich plentyn

Pan fydd rhywun yn y teulu'n datblygu gorffwylledd bydd pawb yn cael ei effeithio. Mae angen i blant wybod eich bod yn deall yr anawsterau a wynebant a'ch bod yn eu caru o hyd, ni waeth pa mor synfyfyriol neu bigog hyd yn oed y byddwch yn ymddangos ar adegau. Ceisiwch neilltuo amser i siarad â'ch plant yn rheolaidd heb i neb dorri ar draws. Efallai y bydd angen atgoffa plant ifanc pam y mae eu perthynas yn ymddwyn yn rhyfedd. Ac mae'n debyg y bydd ar bob plentyn angen sôn am ei deimladau wrth i broblemau newydd godi. Er enghraifft, gallai ddymuno trafod:

  • Gofid a thristwch ynghylch yr hyn sy'n digwydd i'r un y mae'n ei garu a phryderon am y dyfodol.
  • Y teimlad o fod yn ofnus, yn bigog neu'n chwithig ynghylch ymddygiad y person ac o fod wedi diflasu ar ôl clywed hanesion a chwestiynau'n cael eu hailadrodd drosodd a thro. Gallai'r emosiynau hyn fod yn gymysg ag euogrwydd am deimlo felly.
  • Gorfod ymgymryd â chyfrifoldeb dros rywun y gall ei gofio fel un a fu'n gyfrifol drosto ef.
  • Teimladau o golled - am ei bod yn ymddangos nad yr un un yw ei berthynas â'r hyn ydoedd neu am nad yw bellach yn gallu cyfathrebu.
  • Dicter - am fod aelodau eraill y teulu'n teimlo eu bod dan bwysau a llai o amser ganddynt ar ei gyfer.

Mynegi teimladau

Bydd pob plentyn yn ymateb yn wahanol i brofiadau ac yn amlygu gofid mewn gwahanol ffyrdd. Dyma rai o'r pethau y dylid chwilio amdanynt.

  • Bydd rhai plant yn cael hunllefau neu anawsterau wrth gysgu, gall ymddangos eu bod yn ceisio sylw neu'n camymddwyn, neu gallent gwyno am boenau na ellir eu hesbonio. Gallai hyn awgrymu eu bod yn bryderus iawn ynghylch y sefyllfa a bod arnynt angen mwy o gefnogaeth.
  • Bydd gwaith ysgol yn tueddu i ddioddef gan fod plant sydd mewn gofid yn ei chael yn anos canolbwyntio. Mynnwch air ag athro neu bennaeth blwyddyn eich plentyn fel bod y staff yn yr ysgol yn ymwybodol o'r sefyllfa ac yn deall yr anawsterau.
  • Bydd rhai plant yn dangos wyneb rhy siriol neu'n ymddangos yn ddifater er y gallent fod yn ofidus y tu mewn. Efallai y bydd raid ichi eu hannog i sôn am y sefyllfa a mynegi eu teimladau yn hytrach na'u mygu.
  • Gallai plant eraill fod yn drist ac yn ddagreuol a bod ag angen llawer o sylw dros gyfnod eithaf hir. Er y gallech deimlo eich bod o dan lawer o bwysau eich hun, ceisiwch neilltuo rhywfaint o amser bob dydd i sôn am yr hyn sy'n digwydd.
  • Mae'n ymddangos yn aml fod plant yn eu harddegau wedi mynd i'w cragen a gallent encilio rhag y sefyllfa i'w hystafelloedd eu hunain neu aros allan yn fwy nag arfer. Gallent gael y sefyllfa yn un arbennig o anodd dygymod â hi oherwydd yr holl ansicrwydd arall yn eu bywyd. Mae cywilydd yn emosiwn cryf iawn yn y rhan fwyaf o blant yn eu harddegau. Bydd arnynt angen sicrwydd eich bod yn eu caru ac yn deall eu teimladau. Mae'n bosibl y byddai o gymorth iddynt ddatrys rhai o'u pryderon pe baech yn trafod y sefyllfa yn dawel ac yn ddiffwdan.

Cynnwys y plant

Ceisiwch ddarganfod ffyrdd i gynnwys eich plant wrth ofalu a symbylu'r person sydd â gorffwylledd. Ond peidiwch â rhoi gormod o gyfrifoldeb iddynt na gadael i hynny gymryd gormod o'u hamser. Mae'n bwysig iawn annog plant i barhau â'u bywydau arferol.

  • Pwysleisiwch mai bod gyda'r person sydd â gorffwylledd a dangos cariad a hoffter yw'r peth pwysicaf y gallant ei wneud.
  • Ceisiwch sicrhau fod yr amser a dreulir gyda'r person yn bleserus - gallech awgrymu syniadau am weithgareddau ar y cyd fel mynd am dro, chwarae gemau, mynd drwy hen drugareddau neu wneud llyfr lloffion o ddigwyddiadau'r gorffennol.
  • Siaradwch am y person fel yr oedd a dangoswch luniau a phethau o'i orffennol.
  • Tynnwch luniau o'r plant a'r person gyda'i gilydd er mwyn eich atgoffa i gyd am yr amseroedd da hyd yn oed yn ystod y salwch.
  • Peidiwch â gadael y plant mewn gofal ar eu pennau eu hunain, hyd yn oed am gyfnodau byr, oni bai eich bod yn sicr eu bod yn hapus am hynny ac y byddant yn gallu ymdopi.
  • Sicrhewch fod eich plant yn gwybod eich bod yn gwerthfawrogi eu hymdrechion.

Information sheet 515

Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000

Contact the Society

Telephone:
+44 (0) 20 7423 3500

Send your feedback or find key contact details.