Alzheimer's Society
 

Alzheimer's Society

Help support the Society

Accessibility settings | Advanced search

Bwyta

Os ydych yn gofalu am rywun sydd â gorffwylledd byddwch am geisio sicrhau ei fod yn mwynhau ei fwyd a'i fod yn bwyta diet iach a chytbwys. Ond yn achos rhai pobl, wrth i orffwylledd ddatblygu, bydd amseroedd bwyd yn peri straen. Dyma ychydig o awgrymiadau.

Mae trefn dawel a rheolaidd yn cynnig cysur i berson sydd â gorffwylledd. Dylai prydau bwyd fod yn achlysuron hamddenol a digyffro. Ceisiwch ganiatáu digon o amser i fwyta a gofalwch nad oes dim i dynnu ei sylw. Ceir newidiadau mewn arferion bwyta yn aml wrth i orffwylledd ddatblygu.

Diffyg awydd bwyd

Mae sawl rheswm pam y gallai person sydd â gorffwylledd fod heb awydd bwyd a pham y gallai ymddangos nad yw'n ymddiddori mewn bwyta.

  • Yn ystod cyfnodau cynnar gorffwylledd bydd rhai pobl yn colli diddordeb mewn bwyd am eu bod yn isel eu hysbryd. Mae iselder ysbryd yn gyffredin iawn ac yn eithaf dealladwy. Ceir triniaethau cyffuriau effeithiol ar gyfer iselder ysbryd, felly os ydych yn amau mai hynny yw'r broblem, cysylltwch â'ch meddyg teulu. Pan fydd yr iselder yn mynd, dylai awydd bwyd y person ddod yn ôl.
  • Efallai fod problemau oherwydd dannedd gosod nad ydynt yn ffitio'n dda neu am fod cig y dannedd yn brifo. Bydd y ddau beth hynny'n golygu fod bwyta'n anghysurus. Yn yr achos yma, gofynnwch i'ch deintydd gael golwg.
  • Os nad yw rhywun yn symud o gwmpas ryw lawer yn ystod y dydd mae'n bosibl na fydd arno awydd bwyd. Dylid annog gweithgaredd ac ymarfer corfforol.
  • Yng nghyfnodau olaf gorffwylledd, mae'n bosibl na fydd pobl bellach yn gallu deall fod y bwyd sydd o'u blaen yno i'w fwyta, hyd yn oed os yw'n amlwg fod arnynt angen bwyd. Y rheswm am hynny yw bod llwybrau'r nerfau yn yr ymennydd wedi eu handwyo ac nad yw'r neges felly'n mynd drwodd. Efallai y bydd raid ichi ei atgoffa i fwyta neu hyd yn oed dod â'r bwyd at ei geg.
  • Fe all cnoi a llyncu fynd yn broblem wrth i orffwylledd ddatblygu. Os yw'n ymddangos fod hynny'n wir, gallai fod yn fuddiol cael cyngor gan therapydd lleferydd. Gallwch gysylltu ag un drwy eich meddyg teulu.
  • Os yw'r person yn byw ar ei ben ei hun, fe allech weld nad yw'n bwyta'r bwyd yr ydych wedi ei ddarparu. Gallai ddechrau cuddio bwyd. Ni fydd y gwasanaeth pryd ar glud o gymorth bellach am ei fod yn anghofio bwyta'r pryd a gyflenwir. Mae'r rhain yn arwyddion fod ar y person angen mwy o gymorth. Mae modd trefnu i ofalwyr cymorth cartref ymweld â'r person ar adeg prydau bwyd ac un ai paratoi pryd o fwyd neu aros gyda'r person wrth iddo fwyta. Cysylltwch â'r adran gwasanaethau cymdeithasol i gael cymorth. Bydd y rhif ffôn yn y llyfr ffôn o dan enw'r awdurdod lleol lle y mae'r person yn byw.

Gorfwyta

Weithiau gallai rhywun â gorffwylledd fwyta mwy o lawer nag y mae arno'i angen. Mae hynny oherwydd newidiadau yn yr ymennydd a achosir gan y cyflwr ac mewn llawer achos nid yw ond yn gyfnod dros dro. Mewn rhai achosion, anghofrwydd yw'r rheswm am orfwyta. Gallai'r person fod wedi anghofio iddo fwyta - hyd yn oed os nad yw ond newydd wneud. Os yw rhywun yn bwyta gormod byddwch am geisio cyfyngu ar y maint o fwyd a gymer; fel arall, bydd mewn perygl o fod yn anghyfforddus iawn ar ôl bwyta neu gallai ennill llawer o bwysau. Mae'n ymddangos yn aml mai carbohydradau a bwydydd melys sydd orau gan bobl â gorffwylledd. Hwyrach fod eu chwaeth wedi newid a'u bod yn cael cysur o'r rhain. Fodd bynnag, mae'n bwysig er mwyn iechyd y person ei fod yn bwyta diet cytbwys. Ymddengys weithiau fod pobl yn teimlo rheidrwydd i ddarganfod a bwyta unrhyw fath o fwyd. Bydd raid ichi fod yn effro os yw hyn yn broblem oherwydd, heblaw am orfwyta, gallai'r person fwyta neu yfed sylweddau sy'n anaddas neu hyd yn oed yn beryglus.

  • Rhowch unrhyw beth nad ydych am iddo gael ei fwyta o'r golwg neu allan o gyrraedd.
  • Ceisiwch dynnu sylw'r person neu ddarganfod gweithgaredd pleserus i gymryd lle bwyta.
  • Os yw'r person yn chwilio am fwyd o hyd, ceisiwch ddarparu byrbrydau na fyddant yn ei wneud yn dew fel ffrwythau neu lysiau heb eu coginio.

Cadw annibyniaeth

Mae'n bwysig iawn annog y person i'w fwydo ei hun hyd y mae'n gallu. Efallai y bydd ei arferion bwyta yn dirywio am ei fod wedi'u hanghofio neu am fod problemau wrth gydsymud y corff yn datblygu. Bydd angen ichi fod yn hyblyg ac yn oddefgar.

  • Ceisiwch newid eich ymddygiad eich hun a chanolbwyntio ar anghenion y person sydd â gorffwylledd. Mae hyn yn golygu y bydd raid ichi beidio â phoeni am annibendod. Defnyddiwch gamau synnwyr cyffredin fel llieiniau bwrdd plastig, napcynau i arbed dillad a phowlenni yn lle platiau.
  • Fe all therapydd galwedigaethol roi cyngor ar gymhorthion bwyta fel matiau gwrthlithro, platiau â phadiau sugno fel nad ydynt yn symud o gwmpas a chyllyll a ffyrc â handlenni hawdd gafael ynddynt. Gallwch gysylltu â therapydd galwedigaethol drwy'ch meddyg teulu.
  • Os yw rhywun yn ei chael yn anodd trafod cyllyll a ffyrc, darparwch fwydydd bys-a-bawd fel brechdanau bach yn llawn pethau maethlon. Gallai hynny fod yn fwy priodol hefyd i bobl sy'n mynd yn aflonydd ac sydd bellach heb allu eistedd wrth y bwrdd am bryd bwyd cyfan.

Problemau bwyta

Mae problemau bwyta'n gyffredin mewn gorffwylledd. Er enghraifft, gallai'r person wrthod agor ei geg, neu gallai beidio ag agor ei geg nes ei atgoffa i wneud hynny; gallai gymryd bwyd ond peidio â'i lyncu, neu gallai dderbyn bwyd ac wedyn ei boeri allan. Gallai wrthsefyll y person sy'n ceisio ei fwydo a'i wthio oddi wrtho; gallai daflu bwyd neu gallai droi ei ben oddi wrtho, er enghraifft. Gallai'r ymatebion hyn fod yn ganlyniad i anghysur yn y geg neu'n ganlyniad i niwed i'r ymennydd. Nid ydynt yn arwyddion fod y person yn ceisio'ch herian neu'n tynnu'n groes o fwriad. Os oes raid ichi fwydo'r person, ceisiwch roi'r bwyd yn ei law a'i godi at ei geg, gan ei gynnwys yn y broses o fwyta. Peidiwch byth â cheisio bwydo rhywun pan yw'n gysglyd neu wedi cynhyrfu neu'n gorwedd gan fod perygl iddo dagu.

Diet iach

Mae'n bwysig annog y person i fwyta diet cytbwys. Gallai fynd yn fwy dryslyd neu sâl os oes diffyg rhai maetholion hanfodol. Cysylltwch â'ch meddyg teulu os yw hyn yn broblem. Gallai benderfynu rhagnodi fitaminau neu ychwanegion dietyddol eraill. Yn ystod y cyfnodau diweddarach bydd rhai pobl yn dechrau cael blas ar fwydydd penodol. Mae bwydydd â blas cryf yn rhyfeddol o boblogaidd yn y cyfnod hwn. Gellir olrhain hynny i'r niwed corfforol i'r ymennydd. Mae rhwymedd yn broblem gyffredin, yn enwedig yng nghyfnodau olaf gorffwylledd yr unigolyn, a gall gynyddu ei ddryswch. Gofalwch fod y person yn bwyta diet ac ynddo lawer o ffeibr ac yn yfed digon o ddiod. Os yw'n ymddangos fod rhwymedd yn broblem arbennig o ddifrifol, cysylltwch â'r nyrs ardal neu'r meddyg teulu. Yng nghyfnodau olaf gorffwylledd mae colli pwysau yn symptom arferol, ond nid ydym yn gwybod pam eto. Os nad yw'r person wedi cyrraedd y cyfnod diweddar hwn a'i fod er hynny'n colli pwysau, mae'n bosibl y bydd angen ichi gysylltu â'r meddyg teulu. Os yw'n aflonydd iawn ac wedi cynhyrfu'n gorfforol, gallai fod yn defnyddio mwy o egni na'r calorïau y mae'n eu bwyta, neu efallai fod problem feddygol.

Awgrymiadau

  • Nid oes rhaid cael prydau cymhleth. Mae'n debyg ei bod yn well ichi roi'ch egni i sicrhau fod y person yn bwyta ac yn mwynhau ei fwyd.
  • Gallech ddarganfod fod prydau bach aml neu fyrbrydau maethlon yn fwy atyniadol i rywun sy'n aflonydd neu sydd heb awydd mawr am fwyd.
  • Mae gorffwylledd yn effeithio ar flas bwyd. Efallai y bydd raid ichi gynnig sawsiau a phapur a halen nad oedd y person yn arfer eu defnyddio o'r blaen. Fodd bynnag, bydd raid ichi fynd â hwy o'r ffordd os bydd y person yn defnyddio gormod ohonynt.
  • Gofalwch na fydd bwydydd a diodydd yn rhy boeth - gall pobl â gorffwylledd golli'r gallu i farnu tymheredd.
  • Rhowch anogaeth i'r person yfed digon o ddiod bob dydd. Os na chymerir digon o ddiod, gall hynny arwain at sychu a fydd, heblaw am bethau eraill, yn gwneud y person yn fwy dryslyd. Mae angen o leiaf wyth gwpanaid o hylif y diwrnod yn fras.

Carer's advice sheet 511

Last updated: January 2000
Last reviewed: January 2000

Further information

Eating

An English version of this factsheet.

Contact the Society

Telephone: +44 (0) 20 7423 3500

Send your feedback or find key contact details.